Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau plant yn y dyfodol

Diolch am eich diddordeb yn yr ymgynghoriad gwasanaethau plant a ieuenctid. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.

30 Tachwedd 2023

Mewn cyfarfod o’i Fwrdd ar 30 Tachwedd, bu aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod canfyddiadau’r ymgynghoriad ar ddarpariaeth gwasanaethau pediatrig yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

Daw’r cyfarfod Bwrdd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 26 Mai a 24 Awst 2023 wnaeth wahodd y cyhoedd, staff y bwrdd iechyd, sefydliadau partner a’r gymuned ehangach i rannu eu barn ar dri opsiwn posibl ar gyfer dyfodol Gwasanaethau Pediatrig brys ac argyfwng yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

Yn dilyn ystyriaeth drylwyr o ganfyddiadau’r ymgynghoriad a gafodd eu coladu a’u dadansoddi’n annibynnol gan Opinion Research Services (ORS), penderfynodd aelodau’r Bwrdd symud ymlaen gydag Opsiwn 1.

Dewiswyd yr opsiwn hwn gan y Bwrdd yn dilyn ystyriaeth helaeth o'r adroddiad ymgynghori, Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb Iechyd, yn ogystal â sgorio'r opsiynau gan randdeiliaid ac adborth o'r broses ystyriaeth gydwybodol. Wrth ddod i'w penderfyniad, canolbwyntiodd y Bwrdd ar yr angen i ddarparu a sicrhau cysondeb, ansawdd a diogelwch gofal i blant a'u teuluoedd.

Wrth gefnogi'r broses ymgynghori, comisiynwyd ORS i gynghori, coladu a rheoli'r ymatebion i'r ymgynghoriad, a hynny’n annibynnol. Mae eu hadroddiad cynhwysfawr ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad ar gael i’w adolygu ar wefan y bwrdd iechyd: yma. (agor mewn dolen newydd, Saesneg yn unig).

Mae'r broses ymgynghori ar gyfer dewis opsiwn ar gyfer darparu gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili wedi ennill achrediad Sicrwydd Ansawdd Arfer Gorau gan y Sefydliad Ymgynghori.

Dywedodd yr Athro Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r penderfyniad a wnaed heddiw yn gam tuag at gadarnhau cynaliadwyedd ein gwasanaethau pediatrig i’r dyfodol. Drwy ddewis symud ymlaen ag Opsiwn 1, byddwn yn parhau i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth presennol yn Sir Benfro yn ogystal â’n gwaith tuag at greu gwell gwasanaeth iechyd a chanolbarth a gorllewin Cymru iachach.

“Mae’r holl opsiynau a gyflwynwyd ac a ystyriwyd heddiw yn cynrychioli gwelliant i’r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd yn Ysbyty Llwynhelyg ac i’r gymuned leol.”

Mae Opsiwn 1 yn cynnwys darparu gwasanaethau cleifion allanol ychwanegol i blant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg, ond nid yw’n cynnwys Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig (PACU).

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r cyhoedd, staff, sefydliadau partner a’r gymuned ehangach am gymryd rhan weithredol yn y broses ymgynghori cyhoeddus ar ddyfodol gwasanaethau gofal brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Cymerwyd eu mewnwelediadau a’u hadborth i ystyriaeth yn ystod trafodaethau’r Bwrdd a’i broses gwneud penderfyniadau.

“Bydd y penderfyniad heddiw yn rhoi sicrwydd ac eglurder i rieni, cleifion a staff yn Sir Benfro ynghylch beth fydd eu gwasanaeth pediatrig yn y dyfodol. Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn gwneud gwaith pellach i archwilio’r materion trafnidiaeth a gafodd eu codi yn ystod y broses ymgynghori.

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn edrych ymlaen at gydweithio parhaus gyda’r holl randdeiliaid a chymunedau, a hynny tuag at greu model gofal iechyd cynaliadwy a chynhwysfawr ar gyfer y rhanbarth.”

Yn dilyn penderfyniad heddiw, bydd y bwrdd iechyd yn dechrau ar y gwaith o ddyfeisio cynllun gweithredu a fydd yn mapio’r hyn sydd angen digwydd a’r amserlenni arfaethedig ar gyfer symud o’r gwasanaeth presennol i wasanaeth y dyfodol. Rydym yn rhagweld y bydd y cynllun gweithredu yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd yn gynnar yn 2024.

Roedd cyfarfod y bwrdd yn agored i aelodau'r cyhoedd ac mae ar gael i'w weld ar-lein. Mae papurau’r Bwrdd a drafodwyd yn y cyfarfod, a oedd yn cynnwys rhagor o wybodaeth fanwl am y tri opsiwn posibl, ar gael i’w gweld ar wefan y bwrdd iechyd, yma. (agor mewn dolen newydd)


Bu i ni ymgynghori â’r cyhoedd am 12 wythnos o 26 Mai tan 24 Awst 2023 ar dri opsiwn posibl ar ddyfodol Gwasanaethau Pediatrig Brys ac Argyfwng yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Darllenwch fwy isod.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: