Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Brys ac Argyfwng Plant ac Ieuenctid (Pediatrig)

Diolch am eich diddordeb yn yr ymgynghoriad gwasanaethau plant a ieuenctid. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.

Rydym yn ymgynghori â’r cyhoedd am 12 wythnos rhwng 26 Mai a 24 Awst 2023 a hynny ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal plant ac ieuenctid yn y dyfodol. Gallwch weld mwy isod. 

Gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn argraffadwy yma (agor mewn dolen newydd). 

Mae’r ddogfen ymgynghori sy’n hygyrch yn ddigidol ar gael isod.

Croeso

Diolch i chi am fynegi diddordeb yn ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar sut rydym yn darparu gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid (pediatrig) i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd sy’n cael eu gwasanaethu gan ysbytai Llwynhelyg a Glangwili, neu’n ymweld â nhw. Rydym yn ceisio eich barn ar y ffordd orau o ddarparu’r gwasanaethau hyn yn dilyn cyfres o newidiadau dros dro a wnaed ers 2016.

Yn dilyn y newidiadau dros dro hyn, mae angen inni nawr gyflwyno ateb tymor hwy. Rydym wedi gwneud llawer o waith i leihau nifer yr opsiynau posib ar gyfer y gwasanaethau i’r dyfodol ac mae gennym dri opsiwn yr hoffem gael eich barn arnynt.

Ein huchelgais yw y bydd unrhyw newidiadau a gyflwynir yn dilyn yr ymgynghoriad hwn yn eu lle hyd nes y bydd ein hysbyty arfaethedig newydd ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i gynllunio, a’n rhwydwaith iechyd a gofal integredig ehangach, wedi’u sefydlu yn yr ardal – a hynny fel rhan o’n strategaeth ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw Bywydau Iach’. Gallwch ddarllen ein strategaeth (agor mewn dolen newydd) ar ein gwefan. 

Yn yr ymgynghoriad hwn byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym ba mor addas yw’r tri opsiwn i ddarparu gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili. Ar hyn o bryd, nid oes gennym opsiwn a ffafrir o ran sut y bydd gwasanaethau pediatrig brys ac argyfwng yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili yn cael eu darparu rhwng nawr a sefydlu’r rhwydwaith ysbytai newydd arfaethedig. Hoffem hefyd glywed eich barn ar yr effeithiau cadarnhaol a negyddol sy’n gysylltiedig â phob un o’r tri opsiwn i’n helpu i osgoi neu leihau effeithiau negyddol. Ceir manylion yr opsiynau yn y ddogfen ymgynghori hon.

Ar gyfer pob un o’r tri opsiwn, mae’n bwysig nodi y bydd mynediad at ofal argyfwng plant yn cael ei gadw yn adran argyfwng Ysbyty Glangwili, a bydd mân anafiadau plant yn parhau i gael eu trin yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Hefyd, mae systemau eisoes ar waith i sicrhau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc â chyflyrau critigol sy’n cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg yn cael y gofal gorau sydd ar gael, ac yn y lle mwyaf priodol. Bydd hyn yn parhau fel rhan o’r gwasanaeth newydd. Fodd bynnag, mae ein gwasanaethau’n fregus, ac mae hyn yn rhannol oherwydd sut y mae ein hysbytai yn gweithio ar hyn o bryd, a sut yr ydym yn ymestyn ein timau clinigol ar draws ein dau brif ysbyty. Mae hyn er gwaethaf ceisio recriwtio timau ar sawl achlysur i gefnogi’r gwasanaethau hyn.

Dyma eich cyfle nawr i gymryd rhan a rhannu eich barn am y tri opsiwn rydym yn eu hystyried. Bydd Aelodau’r Bwrdd yn ystyried y cyfan y maent wedi’i glywed yn arwain at, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn. Bydd eich barn, ynghyd â thystiolaeth ac ystyriaethau eraill, yn helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddewis yr opsiwn mwyaf priodol ar gyfer dyfodol gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Darllenwch y ddogfen hon a dewch i’n digwyddiadau i ddysgu mwy am pam mae angen inni newid, sut rydym wedi cyrraedd y pwynt hwn, a sut y gall y tri opsiwn ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Rydyn ni wir eisiau clywed barn pawb yn ein cymunedau – yn enwedig y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau pediatrig nawr, a’r rhai fydd yn eu defnyddio yn y dyfodol. Dywedwch wrthym beth yw eich barn am yr opsiynau a rhowch atebion i’r cwestiynau a fydd yn ein helpu i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer ein gwasanaethau plant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

Rydym yn ddiolchgar i’r staff, y plant a’r ieuenctid, a’u rhieni a’u gwarcheidwaid, sydd wedi helpu i lunio’r broses hyd yn hyn, ac wedi datblygu’r tri opsiwn yr ydym yn ymgynghori arnynt.

Diolch,

Maria Battle - Cadeirydd

Yr Athro Phil Kloer - Cyfarwyddwr Gweithredol Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr

Lee Davies - Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio

Cyflwyniad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw eich darparwr gwasanaeth iechyd lleol. Rydym yn cynllunio, yn trefnu ac yn darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer bron i 400,000 o bobl ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Rydym yn rheoli ac yn talu am y gofal a’r driniaeth a gaiff plant ac ieuenctid ar gyfer iechyd corfforol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Ar hyn o bryd rydym yn darparu gwasanaethau plant ac ieuenctid yn lleol mewn:

  • Meddygfeydd (Meddygon Teulu)
  • Fferyllfeydd Cymunedol 
  • Deintyddfeydd
  • Practisau Optometreg 
  • Gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 
  • gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Mae mynediad 24-awr at wasanaethau pediatrig yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ar gyfer cleifion mewnol (pobl sy’n aros un noson neu fwy yn yr ysbyty i gael triniaeth). Mae gan Bronglais a Glangwili gyfleusterau adrannau argyfwng ar y safle.

Yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli, mae Unedau Mân Anafiadau 24 awr y gall plant eu defnyddio. Gall yr Unedau Mân Anafiadau drin mân anafiadau mewn plant dros 12 mis oed, a all gynnwys triniaeth ar gyfer anafiadau fel brathiadau anifeiliaid neu bryfed, mân losgiadau, mân anafiadau i’r pen neu rwygiadau i groen y pen, eitemau estron yn y glust/trwyn, anafiadau i’r coesau a’r breichiau, a mân anafiadau i’r llygaid. Mae gwasanaethau cleifion allanol i blant(ar gyfer plant nad oes angen asesiad ar unwaith nac arhosiad dros nos, neu’r rhai heb gyflyrau tymor hwy) ar gael yn ysbytai Bronglais, Llwynhelyg a Glangwili.

Nyrs yn sefyll o flaen ysbyty

Beth yw’r ymgynghoriad hwn?

Rydym eisiau eich barn ar sut rydym yn darparu gwasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid (pediatrig) i bobl sy’n byw mewn ardaloedd sy’n cael eu gwasanaethu gan Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili, neu’n sy’n ymweld â’r ardaloedd hyn.

Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn rhannu’r tri opsiwn ar gyfer sut y gellid darparu gofal brys a gofal argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili yn y dyfodol. Byddai unrhyw newidiadau a wneir yn dilyn yr ymgynghoriad hwn yn parhau hyd nes y bydd yr ysbyty arfaethedig newydd ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yn cael ei sefydlu yn yr ardal. Mae ysbyty newydd ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yn rhan o’n strategaeth i allu darparu mwy o ofal mewn lleoliadau cymunedol, drwy gael model ysbyty cynaliadwy sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rhwng 23 Chwefror a 19 Mai 2023, fe wnaethom gynnal ymgynghoriad ar wahân a gofyn i aelodau’r cyhoedd rannu eu barn am dri lleoliad posibl ar gyfer yr ysbyty newydd arfaethedig yn ne rhanbarth Hywel Dda. Bydd y Bwrdd yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ynghyd â gwybodaeth arall a gasglwyd am y safleoedd sydd ar y rhestr fer, ac yn gwneud penderfyniad ar y safle gorau ar gyfer yr ysbyty newydd arfaethedig yn ddiweddarach eleni. Gallwch ddarllen mwy am yr ymgynghoriad safle ysbyty newydd (agor mewn dolen newydd) ar ein gwefan. 

Mae datblygiad y rhwydwaith ysbytai newydd arfaethedig, gan gynnwys yr ysbyty newydd arfaethedig ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i gynllunio, yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru nad yw eto wedi’i gadarnhau, ac os bydd yn llwyddiannus, byddai’n cymryd sawl blwyddyn i’w gyflawni. Nid yw’r newidiadau i wasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid (pediatrig) yn dibynnu ar gyllid Llywodraeth Cymru yn yr un modd, a byddwn yn cyflwyno’r newidiadau ar ôl i’r Bwrdd wneud penderfyniad am y gwasanaethau hyn yn ddiweddarach eleni. Nid yw’r penderfyniad hwn yn gysylltiedig â’r cyllid ar gyfer yr ysbyty newydd.

Bydd eich barn, ynghyd â thystiolaeth ac ystyriaethau eraill, yn helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddewis yr opsiwn gorau ar gyfer dyfodol gwasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

Ar hyn o bryd, nid oes gennym opsiwn a ffafrir ar gyfer dyfodol y gwasanaeth. Nid yw’r gwasanaethau canlynol yn rhan o’r ymgynghoriad hwn:

  • Gwasanaethau ysbyty plant (pediatrig) yn Ysbyty Tywysog Philip (darpariaeth mân anafiadau) ac Ysbyty Bronglais (uned cleifion mewnol 24 awr) 
  • Gofal wedi’i gynllunio a gwasanaethau i blant ac ieuenctid yn y gymuned ar gyfer gofal pediatrig ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn parhau am 12 wythnos yn ystod haf 2023. Bydd aelodau’r Bwrdd yn ystyried popeth y maent wedi’i glywed yn arwain at, ac yn ystod yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd, a fydd yn ystyried sut y gallai pobl gael eu heffeithio a beth sydd angen ei wneud i leihau effeithiau negyddol. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol, bydd y Bwrdd yn ystyried yr holl adborth o’r ymgynghoriad, ynghyd â’r holl dystiolaeth arall a gwybodaeth berthnasol a gasglwyd yn ystod y broses hyd yma. Mae’r wybodaeth hon i’w chael yn y dogfennau technegol sydd ar gael ar ein gwefan.

Cymryd rhan

Byddwn yn cynnal digwyddiadau galw heibio wyneb yn wyneb a digwyddiadau ar-lein a byddwn yn rhannu diweddariadau rheolaidd ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol (gweler y manylion isod). Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda’r cyfryngau lleol gan gynnwys radio lleol a sefydliadau’r wasg.

Gofynnwn i chi gymryd yr amser i ddarllen y ddogfen hon. Mae rhagor o wybodaeth, neu fersiynau amgen a fersiynau mewn ieithoedd eraill, ar gael ar ein gwefan.

Dyma sut y gallwch ddweud eich barn wrthym:

  • Llenwi’r holiadur sydd gyda’r ddogfen hon a’i bostio i: Opinion Research Services, FREEPOST SS1018, PO Box 530, Abertawe, SA1 1ZL. Nid oes angen stamp
  • Ar-lein yn: www.opinionresearch.co.uk/Gwasanaethau-Plant-Yn-Y-Dyfodol (agor mewn dolen newydd)
  • Ebostio: Hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
  • Siarad â ni, naill ai yn un o’n digwyddiadau (ewch i’r wefan uchod i weld digwyddiad sy’n lleol i chi neu ddigwyddiad ar-lein), neu ein ffonio ar 0300 303 8322 (pris galwad leol)
  • Ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #GwasanaethauPlantYnYDyfodol
  • Twitter @BIHywelDda
  • Facebook @BwrddIechydHywelDda

Mae gennych tan 24 Awst 2023 i ddweud eich dweud wrthym, fel y gellir cynnwys eich barn yn yr ymgynghoriad hwn.

Digwyddiadau ar-lein a galw heibio fel y gallwch gymryd rhan

Teulu Jones

Mae gennym ni deulu – Teulu Jones – rydyn ni’n ei ddefnyddio i’n helpu ni i brofi a dangos sut y gallai gwasanaethau iechyd gwahanol effeithio ar rywun fel chi. Nid ydynt yn deulu go iawn, ond maent wedi’u cynllunio i fod yn nodweddiadol o’r cleifion rydym yn gofalu amdanynt yn ardal Hywel Dda. Ni allwn adlewyrchu’r holl wahanol fathau o bobl rydym yn gofalu amdanynt – dyna pam mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn pawb.

Yn y ddogfen hon byddwch yn darllen am y gwahanol ffyrdd y byddai Huw, sy’n aelod o Deulu Jones, yn cael ei drin ym mhob un o’r tri opsiwn.

Gobeithiwn y bydd hyn yn eich helpu i feddwl am sut y gellir darparu’r gwahanol opsiynau ar gyfer gofal brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili, o nawr tan sefydlu’r rhwydwaith ysbytai newydd arfaethedig.

Huw ac Teulu Jones

Pam fod angen i ni newid y gwasanaeth presennol?

Datblygwyd y gwasanaethau brys ac argyfwng presennol i blant yn ne rhanbarth Hywel Dda yn dilyn cyfres o newidiadau dros dro a wnaed ers 2016.

Hyd at Hydref 2014, roedd uned cleifion mewnol pediatrig 24 awr ar gael yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili. Roedd plant a dderbyniwyd am driniaeth feddygol yn gallu aros dros nos a chael eu trin yn y ddau ysbyty.

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, yn 2014 penderfynwyd nad oedd cael uned cleifion mewnol pediatrig 24/7 yn Ysbyty Llwynhelyg yn ymarferol oherwydd risgiau diogelwch clinigol a achosir gan brinder staff meddygol, er gwaethaf ymdrechion recriwtio.

Penderfynwyd ar 20 Hydref 2014 i wneud y newidiadau parhaol hyn:

  • Yn Ysbyty Llwynhelyg, dilëwyd y gwasanaeth cleifion mewnol 24 awr ac yn lle hynny, cyflwynwyd gwasanaeth Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig (Uned PACU) 12 awr. Cyfeiriwyd ati fel Ward Pâl. Roedd y model Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig newydd hwn yn cynnig gofal yr un dydd i blant ac ieuenctid yn yr ysbyty. Roedd plant ac ieuenctid yn cael asesiad, diagnosis a thriniaeth, ac yn gallu mynd adref ar yr un diwrnod, heb gael eu cadw dros nos.
  • Roedd yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig ar agor 12 awr y dydd (10am – 10pm), saith diwrnod yr wythnos. Roedd ganddo welyau ar gyfer asesiad argyfwng, triniaethau dydd meddygol, llawdriniaeth ddydd, ac ymchwiliadau a monitro parhaus.
  • Roedd gan yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig ei thîm ymroddedig ei hun o feddygon pediatrig, gan gynnwys ymgynghorwyr, nyrsys plant, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Os oedd unrhyw blant ac ieuenctid angen eu derbyn dros nos, byddent yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili gan ddefnyddio Cerbyd Ambiwlans Penodedig.

Yn ystod y cyfnod hwn, doedd dim newid i wasanaethau plant yn Ysbyty Glangwili a pharhaodd â’r uned cleifion mewnol 24 awr yn cefnogi’r rhai a dderbyniwyd ar gyfer gofal dros nos neu ofal tymor hwy ar y ward.

Map a dau ddiagram o ysbytai Llwynhelyg a Glangwili

Nyrs Mae Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn cynnig gofal ar yr un diwrnod i blant ac ieuenctid mewn ysbyty. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu hasesu, eu harsylwi, eu diagnosio a’u trin, a’u bod yn dychwelyd adref ar yr un diwrnod, heb iddynt gael eu derbyn a heb fod angen iddynt aros dros nos. Mae gweithdrefnau clir ar gyfer mynediad, cyfeiriadau derbyn, a rhyddhau neu drosglwyddo o’r gwasanaeth. Ni allwch gael mynediad i’r Uned PACU heb gael eich cyfeirio yno gan weithiwr iechyd proffesiynol fel meddyg teulu.

 

Cerbyd ambiwlans melyn a gwyrdd Mae Cerbyd Ambiwlans Penodedig yn cefnogi trosglwyddiad argyfwng/brys menywod a phlant y mae eu gofal clinigol yn dod o fewn y categorïau canlynol:

  • Mamolaeth / Obstetreg
  • Gynaecoleg
  • Pediatreg
  • Newyddenedigol

Wedi’i staffio gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, mae hwn yn adnodd pwrpasol sydd ar waith i gefnogi cleifion Sir Benfro a fydd yn teithio rhwng Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili, yn ogystal â chefnogi argyfyngau pediatrig ac argyfyngau yn ystod genedigaeth.

  • Gostyngiad dros dro yn oriau gweithredu’r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg. O 5 Rhagfyr 2016 newidiodd oriau gweithredu Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig Ysbyty Llwynhelyg o 10am tan 10pm, i 10am tan 6pm, saith diwrnod yr wythnos.
  • Gwnaed newidiadau hefyd i’r rotâu staffio (shifftiau/amseroedd gwaith ein staff) gydag uniad dros dro o’r rotâu ymgynghorydd pediatrig ar alwad dros nos ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili. Roedd hyn yn golygu bod gennym un rota meddygon ymgynghorol ar gyfer de’r bwrdd iechyd yn Ysbyty Glangwili. Roedd rhai o feddygon ymgynghorol Llwynhelyg yn cymryd rhan yn rota ar alwad Glangwili yn dilyn y gostyngiad mewn oriau gweithredu.

Rheswm dros newid dros dro 1

Gwnaed y newid oherwydd heriau recriwtio sylweddol. Cafodd hyn effaith ar argaeledd cymorth a goruchwyliaeth gan feddygon ymgynghorol ar y safle ar gyfer yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg.

Roedd hwn yn gam rhagweithiol a gymerwyd i leihau’r risg gynyddol o gau’r gwasanaeth Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg ar fyr rybudd oherwydd diffyg staff.

Ar ôl ystyried natur fregus y sefyllfa staffio, cytunodd y Bwrdd yn ffurfiol i gyflwyno un rota staffio meddygol dros dro, wedi’i lleoli yn Ysbyty Glangwili, yn hytrach na’r ddwy rota ar wahân ar gyfer ysbytai Glangwili a Llwynhelyg.

O 21 Mawrth 2020: cau dros dro yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg, a elwir hefyd yn Ward Pâl.

Rheswm dros newid dros dro 2

Roedd pandemig COVID-19 yn golygu bod yn rhaid i’r bwrdd iechyd newid y ffordd yr oedd yn gweithio. Yn ystod pandemig COVID-19, troswyd yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Uned Mân Anafiadau i oedolion a phlant. Roedd teuluoedd â phlant â mân anafiadau yn dal i allu cael mynediad at ofal yn Ysbyty Llwynhelyg drwy’r Uned Mân Anafiadau, ond cyfeiriwyd y plant hynny â salwch mwy acíwt (salwch yr oedd angen eu hasesu ar adeg mynd yn sâl) i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Ar 30 Medi 2021, cytunodd y Bwrdd i barhau i gadw’r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg ar gau dros dro.

Rheswm dros newid dros dro 3

Rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddyd i bob bwrdd iechyd wella a chryfhau darpariaeth gwasanaethau pediatrig gan eu bod yn disgwyl ymchwydd yn y Feirws Syncytiol Anadlol (RSV), firws cyffredin sy’n achosi symptomau tebyg i annwyd ac a all arwain at blant angen gofal ysbyty. Roedd y bwrdd iechyd eisoes wedi dechrau gweld nifer cynyddol o blant â’r Feirws RSV yn ein cymuned (mewn meddygfeydd a fferyllfeydd) ac yn ein hysbytai. Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgwyl i’r sefyllfa hon bara tan fis Mawrth 2022.

Cleifion yn cyfarfod staff ysbyty

Symud ymlaen

Yn dilyn y tri newid dros dro, mae angen inni nawr roi ateb tymor hwy ar waith. Rydym wedi bod yn gofyn i bobl helpu ddylunio’r opsiynau ar gyfer dyfodol y gwasanaethau. Cawsom gyngor gan the Consultation Institute ar sut i wneud hyn. Mae’r Consultation Institute yn sefydliad dielw sy’n cynghori ar sut y dylai sefydliadau ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliaid. Cafodd rhai o’r digwyddiadau a gynhaliwyd gennym i helpu lunio’r opsiynau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth hwn eu hwyluso’n annibynnol gan y Consultation Institute.

Cafodd y broses a ddilynwyd gennym i lunio ein hopsiynau ar gyfer gwasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid (pediatrig) ei datblygu gan randdeiliaid allweddol gan gynnwys plant ac ieuenctid, rhieni a gwarcheidwaid, a staff.

Gwnaed y gwaith hwn mewn pedwar cam:

 

Cwblhawyd Cam 1 o’r gwaith ym mis Awst 2022. Fe wnaethom gwblhau asesiad o effaith y newidiadau dros dro ers 2016 ar wasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Fe wnaethom esbonio ein canfyddiadau am y rhesymau dros y newidiadau dros dro, eu heffeithiau, a materion cysylltiedig mewn dogfen o’r enw ‘Papur Pwnc’, sydd i’w chael yn y dogfennau technegol ar ein gwefan (agor mewn dolen newydd). Gwnaethom edrych ar berfformiad y gwasanaethau, a phrofiadau pobl o’r gwasanaethau. Roedd hyn yn cynnwys adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth ac arolwg o brofiad gan ddefnyddio data hanesyddol.

Mam a phlentyn oed ysgol yn eistedd gyda meddyg

Roedd Cam 2 y gwaith yn cynnwys cynnal ‘digwyddiad cydgynghorol’ (trafodaeth ac ystyriaeth gan grŵp diffiniedig o bobl mewn cyfarfod/gweithdy) gyda grŵp cymysg o randdeiliaid. Digwyddodd hyn ar 16 Medi 2022 a chafodd ei hwyluso’n annibynnol gan the Consultation Institute. Yn ystod y digwyddiad, dyma a gynigodd y rhanddeiliaid:

  • argymhellion ynghylch yr hyn y dylid ei ystyried gan y rhai sy’n modelu’r gwasanaeth yn y dyfodol. Roedd hyn yn seiliedig ar ganfyddiadau’r Papur Pwnc
  • eu barn am ba feini prawf ‘rhwystr’ y dylid eu defnyddio ar gyfer y drafodaeth gynnar am ddatblygu opsiynau. Meini prawf rhwystr yw’r meini prawf lleiaf y mae’n rhaid eu bodloni gan yr opsiynau arfaethedig. Cytunwyd ar y meini prawf rhwystr terfynol drwy ymgysylltu ymhellach â’r holl randdeiliaid er mwyn dod i gonsensws Ar ôl y digwyddiad cydgynghorol hwn, paratowyd adroddiad allbwn sy’n rhoi mwy o fanylion. Gellir ei weld ar ein gwefan

Dechreuodd Cam 3 y gwaith ar 26 Medi 2022. Sefydlwyd dau grŵp i weithio’n annibynnol. Gan gadw’r meini prawf rhwystr mewn cof, gofynnwyd iddynt ddatblygu opsiynau ar gyfer y gwasanaeth. Tasg y ddau grŵp oedd:

  • cynhyrchu lleiafswm o ddau opsiwn fesul grŵp
  • ystyried a allai unrhyw rai o’r modelau gwreiddiol neu newidiadau dros dro fod yn opsiynau, neu a oedd opsiynau gwell o bosibl, a sut beth fyddai’r opsiynau hynny

Datblygwyd pum opsiwn i gyd. Gellir gweld rhagor o fanylion am yr opsiynau a ddatblygwyd yng Ngham 3 yn y dogfennau technegol sydd ar gael ar ein gwefan. Yna adolygwyd y pum opsiwn hyn fel rhan o Gam 4.

Digwyddodd Cam 4 y gwaith mewn dau gam: Ar 6 Hydref 2022, ystyriodd grŵp cymysg o randdeiliaid a ddylai’r pum opsiwn a gyflwynwyd (cyfeiriwyd atynt ar y pwynt hwn fel opsiynau A, B1, B2, C1, ac C2) barhau i gael eu datblygu. Hwyluswyd y digwyddiad hwn yn annibynnol gan the Consultation Institute.

Dyma’r penderfyniad unfrydol:

  • Dylid rhoi’r gorau i Opsiwn A 
  • Dylid parhau i ddatblygu Opsiynau B1 a B2 
  • Dylid cyfuno Opsiynau C1 ac C2 gan eu bod mor debyg, a dylid parhau i’w ddatblygu

Arweiniodd y gwaith hyn at y tri opsiwn sydd bellach yn rhan o’r ymgynghoriad hwn ond maent wedi cael eu hail-enwi ers hynny. Sylwch fod Opsiwn C yn cael ei adnabod yn y ddogfen ymgynghori hon fel Opsiwn 1, Opsiwn B yw Opsiwn 2, ac Opsiwn B2 yw Opsiwn 3.

Mae’r adroddiad allbwn a baratowyd yn dilyn digwyddiad Cam 4 i’w gael yn y dogfennau technegol (agor mewn dolen newydd) sydd ar ein gwefan.

Ar gyfer pob un o’r tri opsiwn, rydym wedi nodi cyfleoedd ychwanegol posibl. Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd a yw’r cyfleoedd ychwanegol hyn yn bosibl ac yn fforddiadwy, ac mae angen gwaith pellach. Nid yw’r cyfleoedd hyn felly wedi’u sgorio fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses yn y dogfennau technegol (agor mewn dolen newydd)sydd ar gael ar ein gwefan. 

 

Hoffem gael eich barn ar y tri opsiwn rydym wedi’u datblygu

Rydym wedi datblygu tri opsiwn ar gyfer sut rydym yn meddwl y gellir darparu gwasanaethau yn y dyfodol, hyd nes y bydd yr ysbyty arfaethedig newydd ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yn cael ei sefydlu yn yr ardal. Mae rhai pethau yr un peth ar gyfer y tri opsiwn, ond mae yna hefyd elfennau newydd ac unigryw ar gyfer pob opsiwn.

Beth sydd yr un peth yn y tri opsiwn:

Byddai Uned Mân Anafiadau ar gyfer plant ac ieuenctid (dan 16 oed) yn Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg


Mae gofal argyfwng (damweiniau ac argyfwng) i blant ac ieuenctid (dan 16 oed) yn parhau yn Ysbyty Glangwili


Ni fyddai unrhyw ofal pediatrig dros nos nac ar y penwythnos yn cael ei ddarparu yn Ysbyty Llwynhelyg


Byddai gwasanaethau plant yn Ysbyty Glangwili yn aros fel y maent ar hyn o bryd, gyda buddsoddiad mewn staffio’r model Uned PACU yng Nghaerfyrddin i gefnogi triniaeth plant ac ieuenctid a fyddai wedi mynychu Ysbyty Llwynhelyg yn flaenorol, a hynny’n barhaol Byddai’r Cerbyd Ambiwlans Penodedig yn aros. Mae’r Cerbyd yn cefnogi trosglwyddiad argyfwng/brys o blant a phobl ifanc o Sir Benfro, gan gynnwys Ysbyty Llwynhelyg


Mae gweithdrefnau eisoes yn eu lle i sicrhau bod unrhyw blant a phobl ifanc â chyflwr critigol sy’n cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg yn cael y gofal gorau sydd ar gael, yn y lleoliad mwyaf priodol


Gwell cysylltiadau ffôn/digidol rhwng meddygfeydd Sir Benfro a staff pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg

Mae’r opsiwn hwn yn adeiladu ar yr hyn sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd yn dilyn y mesurau dros dro a gyflwynwyd yn 2021 oherwydd COVID-19.

Byddai model Uned PACU yn aros yn Ysbyty Glangwili, ond dim Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae bod heb Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg yn golygu y byddai plentyn â salwch acíwt (salwch sydd angen asesiad) y mae angen ei dderbyn (aros dros nos) yn cael ei drin yn yr uned cleifion mewnol 24 awr yn Ysbyty Glangwili.

Bydd apwyntiadau cleifion allanol wedi’u trefnu (ar gyfer plant nad oes angen asesiad ar unwaith nac arhosiad dros nos, neu’r rhai heb gyflyrau tymor hwy) ar gael fel rhan o’r opsiwn hwn yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae hyn yn ychwanegol at Glinig Mynediad Cyflym, gwasanaeth ar gyfer plant ac ieuenctid sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan Feddyg Teulu/adran damweiniau ac argyfwng i gael eu gweld gan bediatregydd yn Ysbyty Llwynhelyg o fewn 72 awr.

Beth sy’n unigryw neu’n newydd?

Rhai gwasanaethau cleifion allanol ychwanegol i blant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg ond dim Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg (lle mai hwn yw eu hysbyty agosaf). Byddai’r gwasanaeth ar gael o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.


Byddai mynediad gwell i glinigau ar gael yn Ysbyty Llwynhelyg drwy Glinig Mynediad Cyflym. Byddai hyn yn caniatáu i blentyn neu berson ifanc y mae angen iddo gael ei weld gan bediatregydd yn Ysbyty Llwynhelyg (os mai hwn yw ei ysbyty agosaf) o fewn 72 awr i asesiad cychwynnol gan feddyg teulu, neu gan yr adran damweiniau ac argyfwng.

Mae Huw yn byw yn Sir Benfro

Wrth chwarae gyda ffrindiau mae Huw yn cwympo ac yn anafu ei fraich. Mae’n cael ei gludo i’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Llwynhelyg, lle mae’n cael ei asesu ac yn cael pelydr-x. Mae’n cael diagnosis o anaf i’r feinwe feddal ac yn cael ei anfon adref gyda chyngor priodol. Os oes angen apwyntiad dilynol yna byddai hyn yn cael ei drefnu naill ai gyda Meddyg Teulu Huw, meddyg orthopedig, neu gyda’r tîm damweiniau ac argyfwng.

Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach mae Huw yn datblygu gwich ar ei frest, ac mae’n cael ei weld gan ei feddyg teulu. Yn dilyn archwiliad, mae ei Feddyg Teulu yn penderfynu bod angen asesiad pellach arno gan bediatregydd. Mae Huw yn cael ei atgyfeirio gan y Meddyg Teulu i’r Uned PACU yn Glangwili, gan y byddai pob plentyn â salwch acíwt (salwch y mae angen ei asesu ar adeg dechrau’r salwch) sydd angen ei dderbyn yn cael ei drin yn yr uned cleifion mewnol 24 awr yn Ysbyty Glangwili. Ar ôl cael ei ryddhau o Glangwili, ac os bydd y tîm pediatrig yn gofyn am hyn, bydd Huw yn gallu cael apwyntiad dilynol yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os bydd angen ymateb 999, ac os yw’n briodol, gallai Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) ddargyfeirio Huw i Adran Argyfwng Ysbyty Llwynhelyg er mwyn ymyrryd ar unwaith. Mae proses yn ei lle i Huw gael ei weld a’i asesu fel blaenoriaeth, a’i sefydlogi. Unwaith y bydd wedi’i sefydlogi, byddai Huw yn cael ei drosglwyddo i Ward Plant Ysbyty Glangwili gan y Cerbyd Ambiwlans Penodedig.

Mae’r opsiwn hwn yn adeiladu ar yr hyn a oedd yn bodoli yn dilyn newid dros dro yn 2016, pan gafodd oriau agor Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg eu lleihau i wyth awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, yn hytrach na gwasanaeth 12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Byddai’r Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg yn ailagor o 10am tan 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddai’n cael ei staffio rhwng 10am ac 8pm, ond ni fyddai unrhyw atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu/gwasanaethau gofal sylfaenol yn cael eu derbyn ar ôl 6pm.

Bydd apwyntiadau cleifion allanol wedi’u trefnu (ar gyfer plant nad oes angen asesiad ar unwaith nac arhosiad dros nos, neu’r rhai heb gyflyrau tymor hwy) ar gael yn Ysbyty Llwynhelyg fel rhan o’r opsiwn hwn. Mae hyn yn ychwanegol at Glinig Mynediad Cyflym, gwasanaeth ar gyfer plant ac ieuenctid sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan Feddyg Teulu/adran damweiniau ac argyfwng i gael eu gweld gan bediatregydd yn Ysbyty Llwynhelyg o fewn 72 awr.

Beth sy’n unigryw neu’n newydd?

Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg o 10am tan 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.


Byddai meini prawf asesu yn cael eu cyflwyno yn Ysbyty Llwynhelyg i sicrhau bod plant ac ieuenctid yn cael eu trin mewn lleoliadau priodol.


Bydd apwyntiadau cleifion allanol wedi’u trefnu rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar gael fel rhan o’r opsiwn hwn, ond mae lefel y gweithgaredd yn debygol o gael ei chyfyngu oherwydd y lle sydd ei angen i ddarparu’r Uned PACU.


Byddai hyn yn caniatáu i blentyn neu berson ifanc sydd angen cael ei weld gan bediatregydd yn Ysbyty Llwynhelyg (os mai hwn yw ei ysbyty agosaf) o fewn 72 awr i asesiad cychwynnol gan feddyg teulu, neu gan yr Adran Damweiniau ac Argyfwng, ond mae lefel y gweithgaredd yn debygol o gael ei chyfyngu oherwydd y gofod sydd ei angen i ddarparu’r Uned PACU.

Mae Huw yn byw yn Sir Benfro

Wrth chwarae gyda ffrindiau mae Huw yn cwympo ac yn anafu ei fraich. Mae’n cael ei gludo i’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Llwynhelyg, lle mae’n cael ei asesu ac yn cael pelydr-x. Mae’n cael diagnosis o anaf i’r feinwe feddal ac yn cael ei anfon adref gyda chyngor priodol. Os oes angen apwyntiad dilynol, yna byddai hyn yn cael ei drefnu naill ai gyda Meddyg Teulu Huw, meddyg orthopedig, neu gyda’r tîm damweiniau ac argyfwng.

Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach mae Huw yn datblygu gwich ar ei frest, ac mae’n cael ei weld gan ei feddyg teulu. Yn dilyn archwiliad mae ei Feddyg Teulu yn penderfynu bod angen asesiad pellach arno gan bediatregydd. Mae Huw yn cael ei atgyfeirio gan y Meddyg Teulu i’r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg. Ar ôl cyrraedd, mae Huw yn cael ei asesu ac mae cynllun gofal ar ei gyfer. Os bydd Huw yn ymateb yn dda, bydd yn aros yn Ysbyty Llwynhelyg (10am - 8pm) cyn iddo gael ei anfon adref. Ar ôl cael ei ryddhau, ac os bydd y tîm pediatrig yn gofyn am hyn, bydd Huw yn gallu cael apwyntiad dilynol yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os bydd cyflwr Huw yn dirywio, neu os bydd angen aros dros nos, caiff ei drosglwyddo i’r Ward Plant yn Ysbyty Glangwili gan y Cerbyd Ambiwlans Penodedig sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Llwynhelyg. Ar ôl cael ei ryddhau o Glangwili, ac os bydd y tîm pediatrig yn gofyn am hyn, bydd Huw yn gallu cael apwyntiad dilynol yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os bydd angen ymateb 999, ac os yw’n briodol, gallai Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) ddargyfeirio Huw i Adran Argyfwng Ysbyty Llwynhelyg i ymyrryd ar unwaith. Mae proses yn ei lle i Huw gael ei weld a’i asesu fel blaenoriaeth a’i sefydlogi. Unwaith y bydd wedi’i sefydlogi, byddai Huw yn cael ei drosglwyddo i Ward Plant Ysbyty Glangwili gan y Cerbyd Ambiwlans Penodedig.

Mae Opsiwn 3 yr un peth ag Opsiwn 2 ond gyda rhai gwasanaethau ychwanegol:

Beth yn ychwanegol sy’n unigryw neu’n newydd i Opsiwn 2

Yn yr un modd ag Opsiwn 2, Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 10am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae lefel y gweithgaredd cleifion allanol yn debygol o gael ei chyfyngu oherwydd y lle sydd ei angen i ddarparu’r Uned PACU, ond gyda rhai gwasanaethau ychwanegol fel darparu rhai triniaethau nad ydynt yn rhai argyfwng fel radioleg, a gofal dydd i’r rheini, er enghraifft, sy’n dychwelyd am feddyginiaeth neu newid rhwymyn.


Byddai’r adran argyfwng yn Ysbyty Glangwili yn cynnig gwasanaeth gwell ac yn rhoi profiad gwell i blant ac ieuenctid wrth gyrraedd, er enghraifft, mewn ardal aros benodedig.


Byddai staff adrannau argyfwng yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili yn cael hyfforddiant ychwanegol i drin plant ac ieuenctid mewn achosion lle nad oes angen adolygiad gan bediatregydd ymgynghorol ar unwaith.


Byddai hyfforddiant ychwanegol yn cael ei ddarparu i staff pediatrig (wedi’u lleoli yn yr Uned PACU) yn Ysbyty Glangwili i reoli gweithgarwch adrannau achosion argyfwng yn wahanol. Gallai hyn gynnwys gwella’r asesiad cychwynnol ar gyfer plant ac ieuenctid wrth gyrraedd yr adran damweiniau ac argyfwng, gwella’r profiad ar gyfer achosion argyfwng, a sicrhau yr ymdrinnir â nhw’n briodol (gan gynnwys drwy adolygiad cyflym gan y tîm pediatrig).

Mae Huw yn byw yn Sir Benfro

Wrth chwarae gyda ffrindiau mae Huw yn cwympo ac yn anafu ei fraich ac yn cael ei gludo i’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Llwynhelyg, lle mae’n cael ei asesu ac yn cael pelydr-x. Mae’n cael diagnosis o anaf i’r feinwe feddal ac yn cael ei anfon adref gyda chyngor priodol. Os oes angen apwyntiad dilynol yna byddai hyn yn cael ei drefnu naill ai gyda Meddyg Teulu Huw, meddyg orthopedig, neu gyda’r tîm damweiniau ac argyfwng.

Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach mae Huw yn datblygu gwich ar ei frest, ac mae’n cael ei weld gan ei feddyg teulu. Yn dilyn archwiliad, mae ei Feddyg Teulu yn penderfynu bod angen asesiad pellach arno gan bediatregydd. Mae Huw yn cael ei atgyfeirio gan y Meddyg Teulu i’r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg. Ar ôl cyrraedd, mae Huw yn cael ei asesu ac mae cynllun gofal ar ei gyfer.

Os bydd Huw yn ymateb yn dda, bydd yn aros yn Ysbyty Llwynhelyg (10am - 8pm) cyn iddo gael ei anfon adref. Ar ôl cael ei ryddhau, ac os bydd y tîm pediatrig yn gofyn am hyn, bydd Huw yn gallu cael apwyntiad dilynol yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i dydd Gwener. Os bydd cyflwr Huw yn dirywio, neu os bydd angen aros dros nos, bydd Huw yn cael ei drosglwyddo i’r Ward Plant yn Ysbyty Glangwili gan y Cerbyd Ambiwlans Penodedig sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Llwynhelyg. Dylai profiadau plant ac ieuenctid yn Ysbyty Glangwili fod yn well oherwydd hyfforddiant ychwanegol a buddsoddiad mewn staffio, i gefnogi niferoedd cynyddol o blant ac ieuenctid yn barhaol. Ar ôl cael ei anfon adref o Ysbyty Glangwili, a phe bai’r tîm pediatrig yn gofyn am hyn, byddai’n gallu cael apwyntiad dilynol wedi’i drefnu yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os bydd angen ymateb 999, ac os yw’n briodol, gallai Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) ddargyfeirio Huw i Adran Argyfwng Ysbyty Llwynhelyg i ymyrryd ar unwaith. Mae proses yn ei lle i Huw gael ei weld a’i asesu fel blaenoriaeth a’i sefydlogi. Unwaith y bydd wedi’i sefydlogi, byddai Huw yn cael ei drosglwyddo i Ward Plant Ysbyty Glangwili gan y Cerbyd Ambiwlans Penodedig.

Y tri opsiwn

Er nad oes gan y Bwrdd Iechyd opsiwn a ffafrir, cynhaliwyd ymarfer sgorio cychwynnol gyda 25 o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys rhieni a gwarcheidwaid plant ac ieuenctid, Llais (y Cyngor Iechyd Cymuned gynt), a staff. Gofynnwyd iddynt roi sgôr ar y gwahanol feini prawf, yn seiliedig ar yr hyn a glywsant ar y diwrnod. Roedd hyn yn cynnwys crynodeb o’r dadansoddiad Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau (SWOT) a gynhaliwyd ar gyfer pob opsiwn.

Mae’r dadansoddiad SWOT a gynhaliwyd ar gyfer pob opsiwn a’r rhesymau dros y sgôr wedi’u rhestru isod:

 

Opsiwn 1 (Opsiwn C gynt)

Rhai gwasanaethau cleifion allanol ychwanegol i blant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg ond dim Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg.

Opsiwn 1

Mae hyfywedd clinigol yn gryfder ar gyfer opsiwn 1. Mae hyn yn cynnwys ystyried pa mor dda y mae'r atebion yn bodloni'r safonau gofynnol. Ychydig iawn o recriwtio ychwanegol sydd ei angen ar gyfer opsiwn 1, y tu hwnt i'r model staffio presennol, i ddarparu'r gwasanaeth hwn. Mae'r model gweithredu 09:00 i 17:00 arfaethedig yn diwallu anghenion cleifion, ac yn lliniaru'r risgiau a nodwyd gyda'r gwasanaeth blaenorol.


Hyfywedd gweithlu - mae'r graddau y gellir staffio'r atebion yn gryfder ar gyfer opsiwn 1. Dim ond ychydig iawn o recriwtio ychwanegol sydd ei angen, yn ychwanegol at y model staffio presennol, i ddarparu'r gwasanaeth hwn.


Mae gan hygyrchedd, sy'n golygu pa mor hygyrch fydd gwasanaethau i'r bobl sydd eu hangen neu i ymwelwyr, ar gyfer opsiwn un, gryfderau a gwendidau. Mae Ward Pâl yn hawdd ei chyrraedd ac mae arwyddion clir arni. Mae plant lleol a'u teuluoedd/gofalwyr yn gyfarwydd â’r lleoliad. Nid oes mannau parcio pwrpasol, gan gynnwys parcio mynediad i’r anabl, ar gael yn rhwydd ar safle Ysbyty Llwynhelyg ar ôl 09:30.


Y gallu i gyflawni, sy'n golygu pa mor hawdd fydd hi i ddatblygu a chyflawni'n gyflym yr hyn y mae'r ateb (opsiwn) yn ei gynnig, â chryfderau a chyfleoedd ar gyfer opsiwn 1. Nid oes angen unrhyw newidiadau strwythurol mawr a dim ond mân welliannau addurnol sydd eu hangen i gyflawni'r model hwn. Mae cyfleoedd hefyd i gynyddu gofod ystafelloedd clinig, a fydd yn gofyn am ychydig o waith adeiladu.


Mae cyfleusterau yn cynnwys cryfderau a chyfleoedd ar gyfer opsiwn 1. Mae hyn yn cynnwys yr ystod o gyfleusterau a gynigir: gwelyau dros nos i blant a rhieni, cynhaliaeth hygyrch, adloniant i blant, parcio yn agos, ac ati yn ogystal ag addasrwydd mewnol, unedau modern, yn lân ac wedi'i ddylunio er llesiant plant. Mae amgylchedd adeiledig pwrpasol (Ward Pâl) yn helpu i gyflwyno ein modelau clinigol (yn amodol ar gyfyngiadau ar ofod ystafelloedd clinig). Nid oes parcio pwrpasol, gan gynnwys parcio mynediad i’r anabl, ar gael yn rhwydd ar safle Ysbyty Llwynhelyg ar ôl 09:30. O ran llety, nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer aros dros nos yn y model hwn, felly nid oes unrhyw ofynion llety ychwanegol y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau clinigol.


Mae gan hygyrchedd rhwng gwasanaethau gryfderau a chyfleoedd ar gyfer opsiwn 1. Mae hyn yn cynnwys mynediad hawdd at wasanaethau cysylltiedig ar yr un safle, megis Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed. Mae potensial i ymgorffori gwaith aml-system/gwasanaeth gydag un pwynt mynediad/asesiad, ac ati (er bod hyn eisoes yn ei le yn rhannol ar safle Llwynhelyg). Darpariaeth gwasanaeth cymunedol yn cael ei adolygu'n gadarnhaol ar yr un pryd, a fydd hefyd yn gwella cyfleoedd ar gyfer cydweithio.


Mae gan system drafnidiaeth ddiogel rhwng ysbytai h.y. ambiwlans penodedig i gludo plant sâl rhwng Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili gryfderau a gwendidau yn opsiwn 1. Mae’r seilwaith trafnidiaeth presennol ar waith (e.e. Cerbyd Ambiwlans Penodedig a Chludiant Acíwt Cymru a Gorllewin Lloegr ar gyfer Gwasanaeth Plant (WATCh)). Mae gwendidau a nodwyd yn ymwneud ag argaeledd staff meddygol sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i gefnogi gofal uwch, yn enwedig mewn perthynas â symudiadau rhwng byrddau iechyd. Fodd bynnag, mae'r grŵp hwn o gleifion yn llai tebygol o fod angen trosglwyddiad argyfwng neu frys felly mae cyfle i ailedrych ar gomisiynu gwasanaethau trosglwyddo.


Effeithiau ar bobl – a yw grwpiau dan anfantais oherwydd y cynnig? Mae Opsiwn 1 yn cynnig cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau. Effeithir ar Blant a Phobl Ifanc yn Sir Benfro a De Ceredigion gan y bydd angen teithio pellteroedd mwy ar gyfer pob gofal acíwt. Mae'r effaith yn debygol o gael ei theimlo gan fenywod, sy'n fwy tebygol na dynion o fod yn ofalwyr sylfaenol. Mae effaith economaidd-gymdeithasol hefyd ar gyflogaeth ac addysg. Cryfder yr opsiwn hwn yw bod rhywfaint o ofal yn cael ei ddwyn yn nes at adref lle mai Ysbyty Llwynhelyg yw eu cyfleuster agosaf, gan leihau’r pellter teithio ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol, achosion dydd ac apwyntiadau dilynol lle bo modd.

Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 10am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae lefel y gweithgaredd cleifion allanol yn debygol o gael ei chyfyngu oherwydd y lle sydd ei angen i ddarparu’r Uned PACU.

Opsiwn 2 

Mae gwendidau a chyfleoedd i hyfywedd clinigol opsiwn 2, gan gynnwys pa mor dda y mae'r atebion yn bodloni'r safonau gofynnol. Mae gofynion staffio y tu hwnt i'r hyn y gall y model staffio presennol ei gynnal. Bydd angen recriwtio sylweddol. Mwy o risg glinigol i gleifion y gallai fod angen eu trosglwyddo i ofal cleifion mewnol (mae hyn yn cynnwys anghenion gofal arferol a chritigol). Mae'n gyfle i recriwtio.


Hyfywedd gweithlu - mae'r graddau y gellir staffio'r atebion yn cynnig cyfleoedd a bygythiadau ar gyfer opsiwn 2. Yn amodol ar recriwtio a chynllunio'r gweithlu: arweiniodd ein hanawsterau staffio blaenorol at yr angen i wneud newidiadau dros dro i wasanaethau. Po fwyaf o staff sydd eu hangen arnom, y mwyaf yw’r risg na fyddwn yn gallu cynnal y model staffio yn Ysbyty Llwynhelyg a chynnal y model staffio yn Ysbyty Glangwili (yn enwedig mewn swyddi Gradd Arbenigwr Uwch Gysylltiol (SASG)), a fyddai’n effeithio ar y ddarpariaeth gwasanaeth ar hyd a lled Gorllewin Cymru. Mae hyn yn gyfle i ailfodelu a recriwtio.


Mae gan hygyrchedd, sy'n golygu pa mor hygyrch fydd gwasanaethau i'r bobl sydd eu hangen neu i ymwelwyr, yn gryfder ar gyfer opsiwn 2. Mae'r opsiwn hwn yn cynnig darpariaeth leol, fwy cynaliadwy ar gyfer amrywiaeth ehangach o gyflwyniadau clinigol; mae'r model hwn yn gwneud y gorau o ofal yn nes at y cartref ar gyfer gofal arferol a brys (nid ar lefel brys).


Y gallu i gyflawni, sy'n golygu pa mor hawdd fydd hi i ddatblygu a chyflawni'n gyflym yr hyn y mae'r ateb (opsiwn) yn ei gynnig, â gwendidau a bygythiadau yn opsiwn 2. Mae llwyddiant yr opsiwn hwn yn dibynnu ar recriwtio llwyddiannus a chynllunio'r gweithlu, cynllunio swyddi, ein Polisi Newid Sefydliadol, amgylcheddol ailfodelu a gwariant cysylltiedig.


Mae cyfleusterau’n cynnig cryfderau a gwendidau ar gyfer opsiwn 2. Mae hyn yn cynnwys yr ystod o gyfleusterau a gynigir: gwelyau dros nos i blant a rhieni, cynhaliaeth hygyrch, adloniant i blant, parcio yn agos, ac ati yn ogystal ag addasrwydd mewnol, unedau modern, yn lân, ac wedi'i gynllunio er llesiant plant. Mae amgylchedd adeiledig pwrpasol (Ward Pâl) yn helpu i gyflwyno ein modelau clinigol (yn amodol ar gyfyngiadau ar ofod ystafelloedd clinig). Nid oes parcio pwrpasol, gan gynnwys parcio mynediad i’r anabl, ar gael yn rhwydd ar safle Ysbyty Llwynhelyg ar ôl 09:30. Nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer aros dros nos yn y model hwn, felly nid oes unrhyw ofynion llety ychwanegol y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau clinigol.  


Mae hygyrchedd rhwng gwasanaethau yn cynnig cyfleoedd yn opsiwn 2. Mae hyn yn cynnwys mynediad hawdd at wasanaethau cysylltiedig ar yr un safle, megis Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed. Mae potensial i ymgorffori gwaith aml-system/gwasanaeth gydag un pwynt mynediad/asesiad, ac ati (er bod hyn eisoes yn ei le yn rhannol ar safle Llwynhelyg). Darpariaeth gwasanaeth cymunedol yn cael ei adolygu'n gadarnhaol ar yr un pryd, a fydd hefyd yn gwella cyfleoedd ar gyfer cydweithio.


Mae gan system deithio ddiogel rhwng ysbytai, h.y., ambiwlans penodedig i gludo plant sâl rhwng Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili gryfderau, gwendidau a chyfleoedd yn opsiwn 2. Mae’r seilweithiau trafnidiaeth presennol yn eu lle (e.e. Cerbyd Ambiwlans Penodedig (DAV) a Gwasanaeth Cludiant Aciwt Cymru a Gorllewin Lloegr i Blant (WATCh)). Mae gwendidau a nodwyd yn ymwneud ag argaeledd staff meddygol sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i gefnogi gofal gwell, yn enwedig mewn perthynas â symudiadau rhwng byrddau iechyd. Mae cyfle i ailedrych ar gomisiynu gwasanaethau trosglwyddo arbenigol er mwyn lleihau risgiau.


Effeithiau ar bobl – a yw grwpiau dan anfantais oherwydd y cynnig? Mae gan Opsiwn 2 gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau yn ymwneud â hyn. Effeithir ar Blant a Phobl Ifanc yn Sir Benfro a De Ceredigion gan y bydd angen teithio pellteroedd mwy ar gyfer pob gofal acíwt. Mae'r effaith yn debygol o gael ei theimlo gan fenywod, sy'n fwy tebygol na dynion o fod yn ofalwyr sylfaenol. Mae effaith economaidd-gymdeithasol hefyd ar gyflogaeth ac addysg. Cryfder yr opsiwn yw y gellir darparu gofal yn nes at y cartref a gallai gwasanaeth PACU ddileu rhywfaint o amser teithio ychwanegol yn ystod oriau gweithredu.

Yn yr un modd ag Opsiwn 2, Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 10am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae lefel y gweithgaredd cleifion allanol yn debygol o gael ei chyfyngu oherwydd y lle sydd ei angen i ddarparu’r Uned PACU, ond gyda rhai gwasanaethau ychwanegol fel darparu rhai triniaethau nad ydynt yn rhai argyfwng fel radioleg, a gofal dydd i’r rhai, er enghraifft, sy’n dychwelyd i gael meddyginiaeth neu newid rhwymyn. Mae’r dadansoddiad Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau (SWOT) llawn a ddefnyddiwyd gan y rhanddeiliaid, a gwybodaeth arall a ddefnyddiwyd i gwblhau’r sgôr ar gyfer pob un o’r opsiynau, i’w gweld yn y dogfennau technegol ar ein gwefan

Opsiwn 3 

Hyfywedd clinigol yn opsiwn 3 – gan gynnwys ystyried pa mor dda y mae'r atebion yn bodloni'r safonau gofynnol, mae gwendidau a chyfleoedd yn opsiwn 3. Mae gofynion staffio y tu hwnt i'r hyn y gall y model staffio presennol ei gynnal. Bydd angen recriwtio sylweddol. Mwy o risg glinigol i gleifion y gallai fod angen eu trosglwyddo i ofal cleifion mewnol (mae hyn yn cynnwys anghenion gofal arferol a chritigol). Mae hyn yn gyfle i recriwtio. 


Hyfywedd gweithlu - i ba raddau y gellir staffio'r atebion, sydd â chyfleoedd a bygythiadau yn opsiwn 3. Yn amodol ar recriwtio a chynllunio'r gweithlu: arweiniodd ein hanawsterau staffio blaenorol at yr angen i wneud newidiadau dros dro i wasanaethau. Po fwyaf o staff sydd eu hangen arnom, y mwyaf yw’r risg na fyddwn yn gallu cynnal y model staffio yn Ysbyty Llwynhelyg a chynnal y model staffio yn Ysbyty Glangwili (yn enwedig mewn swyddi Gradd Arbenigwr Uwch Gysylltiol (SASG), a fyddai’n effeithio ar y ddarpariaeth gwasanaeth drwyddi draw). Gorllewin Cymru. Mae hyn yn gyfle i ailfodelu a recriwtio.


Mae gan hygyrchedd, sy'n golygu pa mor hygyrch fydd gwasanaethau i'r bobl sydd eu hangen neu i ymwelwyr, yn gryfder ar gyfer opsiwn 3. Darpariaeth leol, fwy cynaliadwy ar gyfer amrywiaeth ehangach o gyflwyniadau clinigol; mae'r model hwn yn gwneud y gorau o ofal yn nes at y cartref ar gyfer gofal arferol a brys (nid ar lefel brys).


Cyflawnadwyedd, sy'n golygu pa mor hawdd fydd hi i ddatblygu a chyflawni'n gyflym yr hyn y mae'r ateb (opsiwn) yn ei gynnig sy'n wendid a bygythiad ar gyfer opsiwn 3. Mae llwyddiant yn dibynnu ar recriwtio llwyddiannus a chynllunio'r gweithlu, cynllunio swyddi, ein Polisi Newid Sefydliadol, ailfodelu amgylcheddol, a gwariant cysylltiedig.


Mae'r cyfleusterau yn opsiwn 3 yn cynnig cryfderau a gwendidau. Mae hyn yn cynnwys yr ystod o gyfleusterau a gynigir: gwelyau dros nos i blant a rhieni, cynhaliaeth hygyrch, adloniant i blant, parcio yn agos, ac ati yn ogystal ag addasrwydd mewnol, unedau sy'n fodern, yn lân, ac wedi'u cynllunio er llesiant plant. Mae amgylchedd adeiledig pwrpasol (Ward Pâl) yn helpu i gyflwyno ein modelau clinigol (yn amodol ar gyfyngiadau ar ofod ystafelloedd clinig). Nid oes parcio pwrpasol, gan gynnwys parcio mynediad i’r anabl, ar gael yn rhwydd ar safle Ysbyty Llwynhelyg ar ôl 09:30. Nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer aros dros nos yn y model hwn, felly nid oes unrhyw ofynion llety ychwanegol y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau clinigol.  


Mae hygyrchedd rhwng gwasanaethau yn cynnig cyfle yn opsiwn 3. Mae hyn yn cynnwys mynediad hawdd at wasanaethau cysylltiedig ar yr un safle, megis Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed. Potensial i ymgorffori gwaith aml-system/gwasanaeth gydag un pwynt mynediad/asesiad, ac ati (er bod hyn eisoes yn ei le yn rhannol ar safle Llwynhelyg). Darpariaeth gwasanaeth cymunedol yn cael ei adolygu'n gadarnhaol ar yr un pryd, a fydd hefyd yn gwella cyfleoedd ar gyfer cydweithio.


Mae gan system drafnidiaeth ddiogel rhwng ysbytai h.y., ambiwlans penodedig i gludo plant sâl rhwng Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau o fewn opsiwn 3. Mae’r seilwaith trafnidiaeth presennol ar waith (e.e. Cerbyd Ambiwlans Penodedig (DAV) a Gwasanaeth Cludiant Acíwt Cymru a Gorllewin Lloegr i Blant (WATCh)). Mae gwendidau a nodwyd yn ymwneud ag argaeledd staff meddygol sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i gefnogi gofal gwell, yn enwedig mewn perthynas â symudiadau rhwng byrddau iechyd. Mae cyfle i ailedrych ar gomisiynu gwasanaethau trosglwyddo arbenigol er mwyn lleihau risgiau.


Effeithiau ar bobl – A yw grwpiau dan anfantais oherwydd y cynnig? Mae gan Opsiwn 3 gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau yn ymwneud â hyn. Effeithir ar Blant a Phobl Ifanc yn Sir Benfro a De Ceredigion gan y bydd angen teithio pellteroedd mwy ar gyfer pob gofal acíwt. Mae'r effaith yn debygol o gael ei theimlo gan fenywod, sy'n fwy tebygol na dynion o fod yn ofalwyr sylfaenol. Mae effaith economaidd-gymdeithasol hefyd ar gyflogaeth ac addysg. Cryfder yr opsiwn yw y gellir darparu gofal yn nes at y cartref a gallai gwasanaeth PACU ddileu rhywfaint o amser teithio ychwanegol yn ystod oriau gweithredu.

Gwerthusodd y 25 o randdeiliaid allweddol pa mor dda yr oeddent yn meddwl bod pob opsiwn yn bodloni pob un o’r meini prawf, ac mae eu sgorau’n adlewyrchu hyn. Rhoddwyd sgôr o 1 i 10 i bob opsiwn (1 yw’r lleiaf boddhaol o ran bodloni’r meini prawf, a 10 yn bodloni’r meini prawf yn llawn). Cyflwynwyd y sgorau hyn yn ddienw trwy blatfform ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ar gael yn y dogfennau technegol (agor mewn dolen newydd) ar ein gwefan.

Dyma sut y sgoriwyd yr opsiynau:

Mewn perthynas â sgorio meini prawf hyfywedd clinigol (sy’n golygu pa mor dda y mae’r opsiwn yn gallu bodloni anghenion iechyd plant ac ieuenctid yn Sir Benfro yn eich barn chi), sgoriodd opsiwn 1 (opsiwn C gynt) 213, sgoriodd opsiwn 2 (opsiwn B gynt) 166 , a sgoriodd opsiwn 3 (opsiwn B2 gynt) 166.


Mewn perthynas â sgorio meini prawf hyfywedd y gweithlu (sy'n golygu pa mor dda ydych chi'n meddwl y byddwn yn gallu staffio'r model i ddiwallu anghenion plant ac ieuenctid yn Sir Benfro), cafodd opsiwn 1 sgôr o 214, cafodd opsiwn 2 sgôr o 143, a chafodd opsiwn 3 sgôr o 146.


O ran sgorio system drafnidiaeth ddiogel rhwng ysbytai (sy’n golygu pa mor dda y gallem allu trosglwyddo plant rhwng ysbytai e.e., Cerbyd Ambiwlans Penodedig), sgôr opsiwn 1 oedd 171, sgôr opsiwn 2 oedd 140, a sgôr opsiwn 3 oedd 144.


Mewn perthynas â sgorio’r meini prawf cyflawni (sy’n golygu pa mor gyflym y gellir rhoi’r opsiwn ar waith), sgoriodd opsiwn 1 213, sgoriodd opsiwn 2 145, a sgoriodd opsiwn 3 134.


Gan sgorio’r meini prawf hygyrchedd (sy’n golygu pa mor aml y byddai’n rhaid i bobl deithio i Ysbyty Glangwili, yn hytrach nag aros yn Ysbyty Llwynhelyg), sgoriodd opsiwn 1 175, sgoriodd opsiwn 2 188, a sgoriodd opsiwn 3 191.


Wrth sgorio cyfleusterau (gan gynnwys addasrwydd mewnol), bu rhanddeiliaid yn ystyried ffactorau megis nifer yr ystafelloedd unigol yn lle baeau, mannau chwarae/mannau aros sy’n gyfeillgar i blant ac ieuenctid, llety rhieni, mannau newid ac ymolchi hygyrch, a fforddiadwyedd i deuluoedd sy’n ymweld/aros. (costau prydau bwyd, cludiant, ac ati). Sgoriodd Opsiwn 1 181, sgoriodd opsiwn 2 181, a sgoriodd opsiwn 3 177.


Mewn perthynas â sgorio hygyrchedd rhwng gwasanaethau (sy’n golygu mynediad at wasanaethau cymorth y tu allan i’r adran i ddarparu gofal arbenigol e.e., anestheteg), sgôr opsiwn 1 oedd 154, sgôr opsiwn 2 oedd 159, a sgôr opsiwn 3 oedd 159.


Mewn perthynas â’r meini prawf effaith ar bobl (h.y. a yw rhai pobl yn cael eu heffeithio’n fwy nag eraill), cafodd opsiwn 1 sgôr o 157, cafodd opsiwn 2 sgôr o 162, a chafodd opsiwn 3 sgôr o 162.


Ar y cyfan, sgoriodd opsiwn 1 (opsiwn C gynt) 1478, sgoriodd opsiwn 2 (opsiwn B gynt) 1284, a sgoriodd opsiwn 3 (opsiwn B2 gynt) 1279.


Opsiwn 1 oedd â’r sgôr cyffredinol uchaf (1478), ond hwn gafodd y sgôr isaf o ran hygyrchedd ac effaith ar bobl, a’r un sgôr ag Opsiwn 2 ar gyfer cyfleusterau. Sgoriodd Opsiwn 2 (1284) fymryn yn uwch nag Opsiwn 3 (1279) yn gyffredinol, ond sgoriodd isaf ar gyfer hyfywedd gweithlu a system drafnidiaeth ddiogel rhwng ysbytai, a chafodd yr un sgôr ag Opsiwn 3 ar gyfer hyfywedd clinigol. Opsiwn 3, sy’n adeiladu ar Opsiwn 2 gafodd y sgôr gyffredinol isaf, gyda’r sgôr isaf ar gyfer y cyflawnadwyedd a chyfleusterau (gan gynnwys addasrwydd mewnol). Yr opsiwn hwn oedd â’r sgôr cyffredinol uchaf ar gyfer hygyrchedd. Y casgliad o’r sgorau hyn yw bod gan bob un o’r tri opsiwn fanteision ac anfanteision penodol a adlewyrchwyd yn y sgorau yn erbyn meini prawf. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y dogfennau technegol ar ein gwefan.

Mae sawl tebygrwydd rhwng y tri opsiwn, gan gynnwys:

Unedau Mân Anafiadau i rai dan 16 oed yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg.


Gofal argyfwng (damweiniau ac argyfwng) i rai dan 16 oed yn dal i gael ei ddarparu yn Ysbyty Glangwili.


Dim gofal pediatrig dros nos/yn ystod y penwythnos yn Ysbyty Llwynhelyg.


Gwasanaethau plant yn Ysbyty Glangwili yn aros fel y maent, gyda buddsoddiad mewn staffio’r model Uned PACU yng Nghaerfyrddin i gefnogi’n barhaol y driniaeth i blant ac ieuenctid a fyddai wedi mynychu Ysbyty Llwynhelyg yn flaenorol.


Gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod plant ac ieuenctid sy'n cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg sydd â chyflwr critigol yn cael y gofal gorau, a hynny yn y lleoliad mwyaf priodol.


Cerbyd Ambiwlans Penodedig yn parhau i gefnogi trosglwyddiad argyfwng/brys plant ac ieuenctid o Sir Benfro i Ysbyty Glangwili.


Gwell cysylltiadau ffôn/digidol rhwng meddygfeydd Sir Benfro a staff pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg.

Beth sy’n wahanol yn y tri opsiwn?

Yn opsiwn 1, byddai’r Clinig Mynediad Cyflym ar gael ar gyfer plant ac ieuenctid sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan feddyg teulu/adran argyfwng i gael eu gweld gan bediatregydd yn Ysbyty Llwynhelyg o fewn 72 awr. Yn opsiynau 2 a 3 byddai gweithgaredd cyfyngedig oherwydd diffyg lle oherwydd yr Uned PACU.


Yn opsiwn 1, byddai apwyntiadau cleifion allanol wedi’u trefnu (ar gyfer plant nad oes angen asesiad ar unwaith nac arhosiad dros nos, neu’r rhai heb gyflyrau tymor hwy) ar gael yn Ysbyty Llwynhelyg. Yn opsiynau 2 a 3 byddai gweithgaredd cyfyngedig oherwydd diffyg lle oherwydd yr Uned PACU.


Yn opsiwn 1, ni fyddai’r Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg, sydd ar agor rhwng 10am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar gael. Yn opsiynau 2 a 3 byddai'r Uned PACU ar gael.


Yn opsiynau 1 a 2, byddai darparu rhai triniaethau nad ydynt yn argyfwng megis radioleg; a gofal dydd fel dychwelyd am feddyginiaeth neu newid rhwymyn, ddim yn newid. Yn opsiwn 3, byddai hyn yn newid.


Yn opsiynau 1 a 2, byddai gwasanaeth yn adran argyfwng Ysbyty Glangwili, sy’n rhoi profiad gwell i blant ac ieuenctid ar ôl iddynt gyrraedd (e.e., trwy fan aros penodedig), ddim yn newid. Yn opsiwn 3, byddai hyn yn newid.


Yn opsiynau 1 a 2, byddai hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff adrannau argyfwng yn y ddau ysbyty i drin plant ac ieuenctid pan nad oes angen adolygiad ar unwaith gan bediatregydd ymgynghorol, ddim yn newid. Yn opsiwn 3, byddai newidiadau i'r ddarpariaeth hon.


Yn opsiynau 1 a 2, byddai hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff pediatrig (Uned PACU) yn Ysbyty Glangwili i reoli gweithgarwch adran argyfwng ar gyfer plant ac ieuenctid yn wahanol (er enghraifft, gwella asesiad cychwynnol, gwella’r profiad ar gyfer achosion argyfwng, a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn briodol), ddim yn newid. Yn opsiwn 3, byddai gwahaniaethau.


Amcangyfrifir mai’r costau ychwanegol yw £880,000 ar gyfer opsiwn 1, £1.3 miliwn ar gyfer opsiwn 2, a £1.3 miliwn + costau hyfforddi mewnol ar gyfer opsiwn 3.

Gyda phwy rydyn ni eisiau siarad a gwrando arnyn nhw

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi cymryd yr amser i rannu eich barn gyda ni. Rydym yn ymgynghori â phob aelod o staff, plant ac ieuenctid, a’r cyhoedd sy’n byw, yn gweithio, neu sydd â diddordeb yng ngwasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid a ddarperir yn ein hardal, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol. Rydym yn cydnabod bod gan bobl ddiddordebau a safbwyntiau gwahanol.

Gallech fod yn:

  • defnyddio ein gwasanaethau
  • riant/gofalwr i unigolyn sy’n defnyddio ein gwasanaethau
  • gweithio gyda ni fel staff, myfyrwyr neu wirfoddolwyr
  • cynrychioli sefydliad a allai gael ei effeithio gan ein cynigion
  • dangos diddordeb yn iechyd a llesiant plant

Mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar farn pawb.

Yr hyn yr ydym am ei wybod

Mae arnom angen ateb cynaliadwy ar gyfer sut yr ydym yn gweithredu gwasanaethau brys ac argyfwng i blant a phobl ifanc yn ne rhanbarth Hywel Dda. Mae llawer o waith wedi’i wneud i gyfyngu’r ymgynghoriad i dri opsiwn. Ar hyn o bryd nid oes gennym opsiwn a ffafrir o ran sut y bydd gwasanaethau brys ac argyfwng i blant a phobl ifanc yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili yn cael eu darparu rhwng nawr a sefydlu’r rhwydwaith ysbytai newydd arfaethedig.

Yn yr ymgynghoriad hwn byddwn yn gofyn i chi ddweud y canlynol wrthym:

  • Pa mor addas yw pob un o’r tri opsiwn ar gyfer darparu gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili rhwng nawr a sefydlu’r rhwydwaith ysbytai newydd arfaethedig
  • Yr effeithiau cadarnhaol a negyddol sy’n gysylltiedig â phob un o’r tri opsiwn yn eich barn chi, fel y gallwn fod yn ymwybodol ohonynt ac osgoi, mynd i’r afael â, neu leihau’r effaith os yn bosibl
  • Unrhyw beth arall y credwch sydd angen i ni ei ystyried – edrychwn ymlaen at glywed unrhyw syniadau newydd sydd gennych

Mae eich barn yn bwysig i ni a gall ddylanwadu ar benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch yr opsiwn a ffafrir o ran sut y bydd gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili yn cael eu darparu rhwng nawr a sefydlu’r rhwydwaith ysbytai newydd arfaethedig. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y flwyddyn (disgwylir tua diwedd 2023) i ddewis yr opsiwn mwyaf priodol.

Bydd aelodau’r Bwrdd yn ystyried y cyfan y maent wedi’i glywed yn arwain at, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys yr sesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, a fydd yn ystyried sut y gallai pobl gael eu heffeithio a beth sydd angen ei wneud i leihau effeithiau negyddol. Fe fyddan nhw hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth newydd a allai ddod i’r amlwg o ganlyniad i’r ymgynghoriad.

Mae’n bwysig eich bod yn gwybod bod yr ymgynghoriad yn benodol i drafod gwasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili. Mae hyn yn golygu nad oes modd dylanwadu ar y gwasanaethau canlynol fel rhan o’r ymgynghoriad hwn:

  • Gwasanaethau ysbyty plant (pediatreg) yn Ysbyty Tywysog Philip (darpariaeth mân anafiadau) ac Ysbyty Cyffredinol Bronglais (uned cleifion mewnol 24 awr)
  • Gofal pediatreg wedi’i gynllunio a gwasanaethau gofal pediatreg yn y gymuned ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Effaith ar gydraddoldeb ac iechyd

Bydd newid gwasanaethau iechyd a gofal yn effeithio ar bob un ohonom sy’n byw yn ardal Hywel Dda waeth beth fo’n hoedran, rhyw, anabledd (corfforol, iechyd meddwl ac anabledd dysgu), hil, crefydd a chred, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil neu statws beichiogrwydd a mamolaeth.

Rhaid inni sicrhau bod ein cynigion yn deg i bawb a chymryd gofal arbennig i ystyried pobl sy’n agored i niwed. Ar gyfer y newid arfaethedig hwn i wasanaethau, rydym yn arbennig o ymwybodol o’r angen i ymgysylltu â phlant, ieuenctid, eu rhieni a gofalwyr.

Rydym wedi cynhyrchu’r hyn a elwir yn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer pob opsiwn - cyfanswm o dri asesiad. Gallwch weld fersiwn lawn o bob un o’r tri Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn y dogfennau technegol ar ein gwefan.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth fanwl, cysylltwch â ni yn: inclusion.hdd@wales.nhs.uk

Roedd yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cynnwys trosolwg o’r effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl ar bobl, a sut y byddwn yn eu lliniaru ac yn mynd i’r afael â’n dyletswyddau cydraddoldeb. Defnyddir y ddogfen i helpu penderfynwyr wrth ystyried datblygiadau yn y dyfodol.

Gwnaethom ddiweddaru’r Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb fel rhan o’r gwaith a wnaethom wrth lunio rhestr fer o’r tri opsiwn ar gyfer gwasanaethau plant ac ieuenctid. Bydd y ddogfen yn cael ei diweddaru’n barhaus wrth inni ddysgu mwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y dogfennau technegol ar ein gwefan.

Rydym hefyd yn bwriadu cynnal gwaith ymgysylltu wedi’i dargedu gyda grwpiau nodweddion gwarchodedig (y cyfeirir atynt fel ‘pobl â nodweddion gwarchodedig’) neu bobl y gallai’r newid mewn gwasanaeth effeithio arnynt, er enghraifft plant a’u gofalwyr.

Bydd gwybodaeth o’r grwpiau hyn yn cael ei defnyddio yn yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb wrth i ni ddysgu mwy.

Gall rhai pobl â nodwedd warchodedig fod yn fwy difreintiedig neu wynebu mwy o anawsterau wrth geisio cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl rhag cael eu trin yn waeth na phobl eraill oherwydd:

  • Oed
  • Ailbennu
  • Anabledd rhywedd
  • Hil
  • Priodas neu bartneriaeth sifil
  • Rhyw
  • Beichiogrwydd neu famolaeth
  • Crefydd neu gred (gan gynnwys dim cred grefyddol)
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Yn ein polisïau a’r ffordd yr ydym yn gweithio, rhaid inni wneud y canlynol:

  • Lleihau gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac ymddygiad arall a waherddir gan, neu o dan, y Ddeddf Cydraddoldeb
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol a phobl nad ydynt
  • Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol a phobl nad ydynt

Rydym hefyd yn anelu at wneud y canlynol:

  • Dileu neu leihau anfanteision a ddioddefir gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac sy’n gysylltiedig â’r nodwedd honno
  • Diwallu anghenion pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol sy’n wahanol i anghenion pobl nad ydynt yn ei rhannu
  • Annog pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu unrhyw weithgaredd arall lle mae cyfranogiad pobl o’r fath yn anghymesur o isel; ac
  • Ystyried sut y byddwn yn mynd i’r afael â rhagfarn a dealltwriaeth

Gall gwneud newidiadau i wasanaethau plant ac ieuenctid achosi i bobl â nodwedd warchodedig brofi effeithiau cadarnhaol, a/ neu negyddol, canlyniadau anfwriadol, neu fylchau yn y ddarpariaeth gofal iechyd. Yn ystod yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn archwilio ymhellach y gwahaniaethau posibl a achosir gan bob un o’r tri opsiwn. Byddwn hefyd yn dangos sut y gellid osgoi neu leihau effeithiau negyddol.

Y Gymraeg

Mae llawer ohonom yn yr ardal hon, 47%, yn siarad Cymraeg, sy’n uwch na’r cyfartaledd ar draws Cymru. Bydd angen i unrhyw newidiadau i wasanaethau plant adlewyrchu’r Gymraeg a gofynion diwylliannol lleol. Bydd hyn yn cynnwys cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg statudol, gan sicrhau bod pob cyfathrebiad, gan gynnwys digidol, print ac arwyddion, yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae gan y bwrdd iechyd darged i sicrhau bod gan 50% o’n gweithlu lefel sylfaen o sgil yn y Gymraeg o fewn y deng mlynedd nesaf. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a ddatblygwyd ar gyfer pob opsiwn yn rhoi rhagor o fanylion, ond byddem yn croesawu unrhyw sylwadau eraill.

Cymuned amrywiol o bobl yn sefyll gyda’i gilydd

Sut bydd hyn yn cyfrannu at lesiant cenedlaethau’r dyfodol

Ein huchelgais yw darparu’r holl wasanaethau brys ac argyfwng i blant a phobl ifanc yn unol â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau, a’i gilydd, ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd, a newid yn yr hinsawdd.

Mae’r Ddeddf yn enwi pum ffordd o weithio y byddwn yn eu mabwysiadu:

  • Hirdymor
  • Integreiddio
  • Cymryd rhan
  • Cydweithio
  • Atal

Bydd ein strategaeth iechyd a gofal yn cyfrannu at y saith nod llesiant, sef:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cyfartal

Mae data ar ein poblogaeth yn dangos ardaloedd o amddifadedd uchel yn nwyrain a gorllewin ein hardal. Mae amddifadedd, diffyg angenrheidiau, yn ffactor allweddol sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldebau iechyd.

Mae ardaloedd o amddifadedd uchel hefyd yn fwy tebygol o ddioddef o dlodi tanwydd ac yn llai tebygol o fod â’u cludiant eu hunain, a all fod yn her wrth deithio i ddefnyddio rhai o’r gwasanaethau sydd ar gael i blant ac ieuenctid yn ne ein hardal.

Pa bynnag opsiwn a ddewisir gan y Bwrdd, byddai angen i ni ystyried effaith heriau trafnidiaeth a byddem yn croesawu eich barn am hyn ac unrhyw awgrymiadau i leihau’r effaith.

Dyfodol cynaliadwy

Mae gan y bwrdd iechyd Gynllun Cyflawni ar gyfer Datgarboneiddio mewn ymateb i uchelgais Llywodraeth Cymru i GIG Cymru gyfrannu at darged sero net ar gyfer y sector cyhoeddus cyfan erbyn 2030. Gallwch ddarllen hwn yn llawn drwy fynd i’n gwefan a gweld y dolenni i ddogfennau defnyddiol.

Mae’r cynllun hwn yn ymdrin â gwelliannau mewn meysydd fel rheoli carbon, adeiladau, trafnidiaeth, caffael, cynllunio ystadau a defnydd tir, a darparu gofal cynaliadwy sy’n gwneud y defnydd gorau o dechnolegau a datblygiadau mewn meddygaeth.

Pa bynnag opsiwn a ddewisir gan y Bwrdd, byddant yn cadw ein hymrwymiad i’n Cynllun Cyflawni ar gyfer Datgarboneiddio mewn cof, a byddem yn croesawu eich barn am hyn ac unrhyw awgrymiadau i leihau’r effaith.

Tyrbinau gwynt ar y bryn

Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn y ddogfen hon rydym wedi gosod y cefndir, pam mae angen i ni newid, a pha opsiynau rydym yn ymgynghori arnynt. Ceir disgrifiad llawn o’r tri opsiwn ar dudalen 15.

Bydd eich adborth, ynghyd â thystiolaeth ac ystyriaethau eraill, yn helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddewis yr opsiwn gorau ar gyfer dyfodol gwasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

Bydd gwybodaeth ar sut i gymryd rhan ar gael mewn amrywiaeth o leoedd, gan gynnwys ysbytai, safleoedd cymunedol, adeiladau’r cyngor a sefydliadau’r sector gwirfoddol. Ein nod yw cynnal digwyddiadau galw heibio, wyneb yn wyneb ac ar lwyfannau digidol a byddwn yn asesu ein cynlluniau yn barhaus gan ystyried unrhyw effaith bosibl o COVID-19. Ceir manylion y digwyddiadau ar ein gwefan 

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi cymryd yr amser i rannu eich barn â ni – mae mewnbwn pob un yn bwysig.

Gofynnwn i chi gymryd yr amser i ddarllen y ddogfen hon ac yna rhannu eich barn â ni.

Gallwch wneud hyn drwy nifer o ffyrdd:

  • Llenwi’r holiadur sydd gyda’r ddogfen hon a’i bostio i: Opinion Research Services, FREEPOST SS1018, PO Box 530, Abertawe, SA1 1ZL (nid oes angen stamp)
  • Ar-lein yn: www.opinionresearch.co.uk/Gwasanaethau-Plant-yn-y-Dyfodol
  • Mewn ebost: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
  • Siarad â ni yn un o’n digwyddiadau (ewch i’r wefan uchod i weld digwyddiad sy’n lleol i chi neu ddigwyddiad ar-lein), neu dros y ffôn ar 0300 303 8322 (pris galwad leol)
  • Trwy’r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #GwasanaethauPlantYDyfodol
  • Twitter @BIHywelDda
  • Facebook @BwrddIechydHywelDda

 

Mae gennych tan 24 Awst 2023 i ddweud eich dweud, fel y gellir cynnwys eich barn yn yr ymgynghoriad hwn.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: