Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin

Diolch am eich diddordeb yn yr ymgynghoriad gwasanaethau plant a ieuenctid. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.

Y Broses

Beth yw’r ymgynghoriad hwn?

Rydym eisiau eich barn ar sut rydym yn darparu gwasanaethau plant ac ieuenctid (pediatreg) brys ac argyfwng i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd neu’n ymweld â’r ardaloedd sy’n cael eu gwasanaethu gan Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhannu’r tri opsiwn ar gyfer sut y gellid darparu gofal brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili yn y dyfodol.

 

Pam fod angen i ni newid y gwasanaeth presennol?

Datblygwyd y gwasanaethau brys ac argyfwng presennol i blant yn ne rhanbarth Hywel Dda yn dilyn cyfres o newidiadau dros dro a wnaed ers 2016.

Newid gwasanaeth dros dro 1:

Gostyngiad dros dro yn oriau gweithredu'r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg. O 5 Rhagfyr 2016, newidiodd oriau gweithredu Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig Ysbyty Llwynhelyg o 10am – 10pm, i 10am – 6pm, saith diwrnod yr wythnos.

Gwnaethpwyd newidiadau hefyd i’r rotâu staffio (shifftiau/amseroedd gwaith ein staff) gydag uno dros dro y rotâu ar alwad pediatrig dros nos ar gyfer meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili. Roedd hyn yn golygu bod gennym un rota meddygon ymgynghorol ar gyfer de'r bwrdd iechyd, a hynny yn Ysbyty Glangwili.

Cymerodd rhai o feddygon ymgynghorol Llwynhelyg ran yn rota ar alwad Glangwili yn dilyn y gostyngiad mewn oriau gweithredu.

Rheswm dros newid dros dro 1:

Gwnaed y newidiadau hyn oherwydd heriau recriwtio sylweddol. Cafodd hyn effaith ar argaeledd cymorth a goruchwyliaeth gan feddygon ymgynghorol ar y safle ar gyfer yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg. Roedd hwn yn gam rhagweithiol a gymerwyd i leihau’r risg gynyddol o gau gwasanaeth Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig Ysbyty Llwynhelyg ar fyr rybudd oherwydd diffyg staff.

Newid gwasanaeth dros dro 2:

O 21 Mawrth 2020, cafodd yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg, a elwir hefyd yn Ward Y Pâl, ei chau dros dro.

Rheswm dros newid dros dro 2:

Roedd pandemig COVID-19 yn golygu bod yn rhaid i’r bwrdd iechyd newid y ffordd yr oedd yn gweithio. Yn ystod y pandemig COVID-19, troswyd yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Uned Mân Anafiadau i oedolion a phlant. Roedd teuluoedd â phlant oedd yn dioddef mân anafiadau yn dal i allu cael mynediad at ofal yn Ysbyty Llwynhelyg drwy’r Uned Mân Anafiadau, ond cyfeiriwyd y plant hynny â salwch mwy acíwt (salwch yr oedd angen eu hasesu ar adeg mynd yn sâl) i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Newid gwasanaeth dros dro 3:

Ar 30 Medi 2021, cytunodd y Bwrdd i barhau i gau’r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg dros dro.

Rheswm dros newid dros dro 3:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo pob bwrdd iechyd i wella a chryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau pediatrig gan eu bod yn disgwyl ymchwydd mewn Feirws Syncytiol Anadlol (RSV), firws cyffredin sy’n achosi symptomau tebyg i annwyd ac a all arwain Plant i fod angen gofal ysbyty. Roedd y bwrdd iechyd eisoes wedi dechrau gweld nifer cynyddol o blant ag â’r feirws yn ein cymuned (mewn meddygfeydd a fferyllfeydd) ac yn ein hysbytai. Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgwyl i’r sefyllfa hon bara tan fis Mawrth 2022.

Yn dilyn y tri newid dros dro, mae angen inni nawr roi ateb hirdymor ar waith.

 

Sut mae’r cyhoedd yn cymryd rhan yn y broses o ddewis y tri opsiwn arfaethedig ar gyfer gofal pediatrig yng Nglangwili a Llwynhelyg?

Rydym yn cynnal digwyddiadau galw heibio, wyneb-yn-wyneb ac ar lwyfannau digidol. Mae manylion y digwyddiadau i’w gweld ar ein gwefan - Gwasanaethau plant yn y dyfodol (agor mewn dolen newydd) ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi cymryd yr amser i rannu eich barn â ni – mae mewnbwn pob person yn bwysig.

 

Am ba mor hir y mae staff yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar opsiynau ar gyfer gofal pediatrig yng Nglangwili a Llwynhelyg?

Rhwng 26 Mai a 24 Awst 2023, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd, staff a sefydliadau partner, i rannu eu barn am wasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid (pediatreg) yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. . Mae hyn yn rhan o strategaeth ehangach y bwrdd iechyd i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth. Y dyddiad cau i rannu eich barn, fel y gellir cynnwys eich barn yn yr ymgynghoriad, yw 24 Awst 2023.

 

Yr opsiynau yr ydym yn ymgynghori arnynt

 

Beth yw’r tri opsiwn ar gyfer gofal pediatrig a gynigir yn yr ymgynghoriad?

Rydym wedi datblygu tri opsiwn ar gyfer sut rydym yn meddwl y gellir darparu gwasanaethau yn y dyfodol, hyd at ddatblygiad ein hysbyty newydd arfaethedig ar gyfer gofal brys a gofal wedi'i gynllunio. Mae rhai pethau yr un peth ar gyfer y tri opsiwn, ond mae yna hefyd elfennau newydd ac unigryw ar gyfer pob opsiwn. Gweler y dogfennau ymgynghori am wybodaeth fanwl (cyfeiriad gwefan)

Opsiwn 1: Mae’r opsiwn hwn yn adeiladu ar yr hyn sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd yn dilyn y mesurau dros dro a gyflwynwyd yn 2021 oherwydd COVID-19. Byddai model PACU yn aros yn Ysbyty Glangwili, ond heb unrhyw PACU yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae bod heb PACU yn Ysbyty Llwynhelyg yn golygu y byddai plentyn â salwch acíwt (salwch sydd angen asesiad) y mae angen ei dderbyn (aros dros nos) yn cael ei drin yn yr uned cleifion mewnol 24 awr yn Ysbyty Glangwili. Bydd apwyntiadau cleifion allanol wedi’u trefnu (ar gyfer plant nad oes angen asesiad ar unwaith nac arhosiad dros nos, neu’r rhai heb gyflyrau tymor hwy) ar gael yn Ysbyty Llwynhelyg fel rhan o’r opsiwn hwn. Mae hyn yn ychwanegol at Glinig Mynediad Cyflym, gwasanaeth sy’n galluogi plant ac ieuenctid sydd wedi’u hatgyfeirio gan feddyg teulu/adran argyfwng ar gyfer gofal nad yw’n argyfwng, i gael eu gweld gan bediatregydd yn Ysbyty Llwynhelyg o fewn 72 awr.

Opsiwn 2: Mae’r opsiwn hwn yn adeiladu ar yr hyn a oedd yn bodoli yn dilyn newid dros dro 2016, pan gafodd oriau agor PACU yn Ysbyty Llwynhelyg eu lleihau i wyth awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, yn hytrach na gwasanaeth 12 awr, saith diwrnod yr wythnos. Byddai'r PACU yn Ysbyty Llwynhelyg yn ailagor 10am – 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddai’n cael ei staffio 10am – 8pm, ond ni fyddai unrhyw atgyfeiriadau’n cael eu derbyn wrth feddygon teulu/gwasanaethau gofal sylfaenol ar ôl 6pm. Bydd apwyntiadau cleifion allanol wedi’u trefnu (ar gyfer plant nad oes angen asesiad ar unwaith, nac arhosiad dros nos, neu’r rhai heb gyflyrau tymor hwy) ar gael yn Ysbyty Llwynhelyg fel rhan o’r opsiwn hwn. Mae hyn yn ychwanegol at Glinig Mynediad Cyflym, gwasanaeth ar gyfer plant ac ieuenctid sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan feddyg teulu/adran argyfwng i gael eu gweld gan bediatregydd yn Ysbyty Llwynhelyg o fewn 72 awr.

Opsiwn 3: Mae Opsiwn 3 yr un fath ag Opsiwn 2 ond gyda rhai gwasanaethau ychwanegol:
Yn yr un modd ag Opsiwn 2, PACU yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 10am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae lefel y gweithgaredd cleifion allanol yn debygol o gael ei chyfyngu oherwydd y lle sydd ei angen i ddarparu’r PACU, ond gyda rhai gwasanaethau ychwanegol fel darparu rhai triniaethau nad ydynt yn rhai brys fel radioleg, a gofal dydd i’r rhai, er enghraifft, sy’n dychwelyd i gael meddyginiaeth neu newid rhwymyn.

 

Beth yw Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig (PACU)?

Mae Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn cynnig gofal yr un dydd i blant ac ieuenctid mewn ysbyty. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu hasesu, eu harsylwi, eu diagnosio, eu trin, a'u bod yn dychwelyd adref ar yr un diwrnod, heb gael eu derbyn a heb fod angen iddynt aros dros nos. Mae gweithdrefnau clir ar gyfer mynediad, rhyddhau, neu drosglwyddo i'r gwasanaeth, ac ohono. Ni allwch gael mynediad i PACU heb atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol fel meddyg teulu.

 

Beth yw Cerbyd Ambiwlans Penodedig (DAV)?

Mae Cerbyd Ambiwlans Penodedig yn cefnogi trosglwyddiad brys/argyfwng menywod a phlant y mae eu gofal clinigol yn dod o fewn y categorïau canlynol:

  • Mamolaeth/Obstetreg
  • Gynaecoleg
  • Pediatrig
  • Newyddenedigol

Wedi’i staffio gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru, mae hwn yn adnodd pwrpasol sydd ar waith i gefnogi cleifion Sir Benfro a fydd yn teithio rhwng Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili, yn ogystal ag i gefnogi argyfyngau pediatrig ac argyfyngau yn ystod genedigaeth.

 

Beth yw costau pob opsiwn?

Mae cost ychwanegol amcangyfrifedig pob opsiwn fel a ganlyn:

Opsiwn 1: £880,000
Opsiwn 2: £1.3 miliwn
Opsiwn 3: £1.3 miliwn + costau hyfforddi mewnol.
 

Beth yw'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng y tri opsiwn?

Mae sawl ffactor tebyg a gwahanol ar draws y tri opsiwn. Gallwch weld crynodeb o’r hyn sydd yr un peth, a’r hyn sy’n wahanol isod:

Clinig Mynediad Cyflym

Pan gaiff plant a phobl ifanc eu hatgyfeirio, cânt eu gweld yn gyflym gan feddyg plant yn Ysbyty Llwynhelyg o fewn 3 diwrnod.

Opsiwn 1: Oes
Opsiwn 2: Rhywfaint (diffyg lle oherwydd PACU*)
Opsiwn 3: Rhywfaint (diffyg lle oherwydd PACU*)
 

Apwyntiadau claf allanol 

wedi’u trefnu yn Ysbyty Llwynhelyg os nad oes angen asesiad neu arhosiad dros nos arnynt.
Opsiwn 1: Oes
Opsiwn 2: Rhywfaint (diffyg lle oherwydd PACU*)
Opsiwn 3: Rhywfaint (diffyg lle oherwydd PACU*)

 

Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig

yn Ysbyty Llwynhelyg ar agor rhwng 10am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gall meddygon a nyrsys yn yr uned hon asesu a thrin plant sâl ar yr un diwrnod. Nid oes rhaid iddynt aros dros nos.

Opsiwn 1: Nac oes
Opsiwn 2: Oes
Opsiwn 3: Oes
 

Rhai triniaethau nad ydynt yn rhai brys a gofal dydd

fel dychwelyd am feddyginiaeth neu newid rhwymyn.

Opsiwn 1: Nac oes
Opsiwn 2: Nac oes
Opsiwn 3: Oes
 

Gwell gwasanaethau yn adran argyfwng

Ysbyty Glangwili fel bod plant ac ieuenctid yn cael profiad gwell (fel cael man aros sydd iddyn nhw yn unig).
 

Hyfforddiant ychwanegol i staff adrannau achosion argyfwng yn y ddau ysbyty

i drin plant ac ieuenctid pan nad oes angen adolygiad gan feddyg plant.

Opsiwn 1: Nac oes
Opsiwn 2: Nac oes
Opsiwn 3: Oes

 

Hyfforddiant ychwanegol i staff Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Glangwili

i reoli gweithgaredd adrannau argyfwng fel ei fod yn well i blant ac ieuenctid.

Opsiwn 1: Nac oes
Opsiwn 2: Nac oes
Opsiwn 3: Oes

 

Yr hyn sydd yr un peth yn y tri opsiwn?

  • Unedau Mân Anafiadau i rai dan 16 oed yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg
  • Gofal argyfwng i rai dan 16 oed yn dal i gael ei ddarparu yn Ysbyty Glangwili
  • Dim gofal pediatrig dros nos/penwythnos yn Ysbyty Llwynhelyg
  • Byddai gwasanaethau plant yn Ysbyty Glangwili yn aros fel y maent, gyda buddsoddiad mewn staffio
  • Model PACU yng Nghaerfyrddin i gefnogi'n barhaol y driniaeth ar gyfer plant ac ieuenctid a fyddai wedi mynychu Ysbyty Llwynhelyg yn flaenorol
  • Gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod plant ac ieuenctid sy'n cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg â chyflwr critigol yn cael y gofal gorau, a hynny yn y lleoliad mwyaf priodol
  • Cerbyd Ambiwlans Penodedig yn parhau i gefnogi trosglwyddiad argyfwng/brys plant ac ieuenctid o Sir Benfro i Ysbyty Glangwili
  • Gwell cysylltiadau ffôn/digidol rhwng meddygfeydd Sir Benfro a staff pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg

 

Y Gweithlu

 

Beth yw ein heriau o ran gweithlu?

Mae ein gwasanaethau yn fregus, ac mae hyn yn rhannol oherwydd sut y mae ein hysbytai yn gweithio ar hyn o bryd, a sut yr ydym yn ymestyn ein timau clinigol ar draws ein dau brif ysbyty. Mae hyn er gwaethaf ceisio recriwtio timau ar sawl achlysur i gefnogi'r gwasanaethau hyn. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithlu gwydn a byddwn yn parhau â’n hymdrechion i recriwtio a chadw’r staff medrus sydd eu hangen arnom.

 

Diogelwch
 

What systems are in place to ensure the safety of children and young people with an emergency health issue now?

Systems are already in place to ensure that any child or young person with critical conditions arriving at Hospital has the best care available and in the most appropriate place. This will continue as part of the new service.
 

Beth alla’i wneud i chwarae rhan fwy yn y gwaith o drawsnewid gwasanaethau iechyd?

Mae Siarad Iechyd / Talking Health yn gynllun cyfranogiad sy’n rhoi cyfle i bobl leol i ddweud eu dweud ar gynllunio, datblygu a chyflenwi gwasanaethau iechyd lleol. Mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar farn a syniadau pobl yn ein cymunedau, ac yn cymryd camau, fel ein bod yn gwella’n barhaus.

Bydd aelodau’n cael eu diweddaru ar wasanaethau iechyd ac yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau parhaus ar faterion iechyd, a hynny mewn digwyddiadau, panel darllenwyr, grwpiau diddordeb ac arolygon. Ymunwch â Siarad Iechyd / Talking Health:

Llenwi’r ffurflen ar-lein yma (yn agor mewn dolen newydd)

Ebost: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk

Ffôn: 01554 899 056 (gadewch neges a byddwn yn eich ffonio’n ôl, fel nad oes yn rhaid i chi dalu am yr alwad)

Post: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD

 

Amserlenni
 

Pryd ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n dewis yr opsiwn gorau?

Bydd y Bwrdd yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y flwyddyn (tua diwedd 2023) i ddewis yr opsiwn mwyaf priodol. Bydd aelodau’r Bwrdd yn ystyried y cyfan y maent wedi’i glywed yn arwain at, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb, a fydd yn ystyried sut y gallai pobl gael eu heffeithio a beth sydd angen ei wneud i leihau effeithiau negyddol. Fe fyddan nhw hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth newydd a allai ddod i’r amlwg o ganlyniad i’r ymgynghoriad.

Bydd aelodau'r Bwrdd yn ystyried popeth y maent wedi'i glywed cyn ac yn ystod yr ymgynghoriad hwn. Bydd eich barn, ynghyd â thystiolaeth ac ystyriaethau eraill, yn helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddewis yr opsiwn mwyaf priodol ar gyfer dyfodol gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

 

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: