Neidio i'r prif gynnwy

Siarad am ofal plant mewn ysbyty

Diolch am eich diddordeb yn yr ymgynghoriad gwasanaethau plant a ieuenctid. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.

Dyma’r fersiwn i blant. Efallai nad yw’n cynnwys yr holl wybodaeth, ond mae’n cynnwys y pethau pwysig.

Helo

Ni yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ni sy’n rhedeg llawer o wasanaethau iechyd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gan gynnwys ysbytai. Os oes angen i ti fynd i ysbyty, mae’n bwysig dy fod yn cael yr help sydd ei angen. Rydym am wneud y cynlluniau cywir fel bod meddygon, nyrsys a staff argyfwng yn gallu rhoi’r gofal gorau i ti. Mae gennym 3 stori i’w dweud wrthyt am fachgen yn mynd i ysbyty (rydym yn galw’r storïau hyn yn ‘opsiynau’).

Rydym am wybod pa un wyt ti’n meddwl sy’n gweithio orau!

Dyma Huw. Mae’n chwarae arwyr gyda’i dad a Mario Kart gyda’i frawd. Mae Huw yn hoffi byw yn Sir Benfro. Mae’n dwli ar bopgorn ac adeiladu robots.

Roedd yn seiclo gyda’i ffrindiau. Cwympodd oddi ar ei feic ac anafu ei fraich.

Gyrrodd ei dad ef i’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Llwynhelyg.

Cafodd gyngor ac os oedd angen, trefnwyd apwyntiad iddo weld meddyg neu nyrs yn lleol.

Rhai dyddiau wedyn, roedd Huw yn teimlo’n sâl. Roedd yn cael trafferth anadlu ac roedd gwichian ar ei frest.

Felly, aeth ei dad ag ef i’r feddygfa leol.

 

Dyma ble mae’r stori’n rhannu’n 3.

Mae Huw yn gweld meddyg yn y feddygfa leol, sydd wedyn yn siarad â’r meddyg plant am sut mae Huw yn teimlo.

Mae meddyg plant yn penderfynu a oes angen i Huw weld arbenigwr yn Ysbyty Glangwili.

Dyma ble mae’n rhaid i bob plentyn fynd os oes ganddo salwch difrifol er mwyn iddo allu aros yn yr ysbyty dros nos.

Mae Huw yn aros dros nos yn Ysbyty Glangwili ser mwyn i feddygon a nyrsys plant allu cadw golwg arno.

Y diwrnod wedyn mae’r meddygon plant yn meddwl bod Huw yn iawn ac mae’n gallu mynd adref. Mae Huw yn cael cyngor ac apwyntiad yn ôl yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mewn argyfwng, gall teulu Huw ffonio 999 a bydd y criw ambiwlans yn mynd ag ef i Adran Argyfwng Ysbyty Glangwili.


Byddai opsiwn 1 yn golygu bod yr holl wasanaethau plant yn gweithio yn yr un ffordd ag y maen nhw nawr, ond gyda mwy o apwyntiadau gyda meddygon a nyrsys plant ar gael.

Nyrs Mae Huw yn gweld meddyg yn y feddygfa leol, sydd wedyn yn siarad â’r meddyg plant am sut mae Huw yn teimlo.

Mae meddyg plant yn penderfynu bod angen i Huw fynd i’r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig (PACU*) yn Ysbyty Llwynhelyg.

PACU — Gall meddygon a nyrsys yn yr uned hon asesu a thrin plant sâl ar yr un diwrnod. Nid oes rhaid iddynt aros dros nos.

Ar ôl cyrraedd yno, mae Huw yn cael ei asesu ac yn cael cynllun gofal. Mae meddygon a nyrsys yn cadw golwg arno tan 6pm. Os yw Huw yn gwella, gall fynd adref ac mae’n cael apwyntiad dilynol yn ôl yn Ysbyty Llwynhelyg os oes angen un arno.

Mae Huw yn gwaethygu tra ei fod yn yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig, felly mae’r meddyg yn ei anfon i Ysbyty Glangwili mewn Cerbyd Ambiwlans Penodedig. Mae staff yr ambiwlans wedi’u hyfforddi i ofalu am blant. Mae Huw yn aros yn Ysbyty Glangwili dros nos.

Mae Huw yn gadael yr ysbyty y bore wedyn ac yn cael apwyntiad dilynol yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mewn argyfwng, gall teulu Huw ffonio 999 a bydd y criw ambiwlans yn mynd ag ef i Adran Argyfwng Ysbyty Glangwili.


Byddai opsiwn 2 yn golygu y gallai plant ac ieuenctid gael eu hatgyfeirio i’r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg a:

  • byddai mwy o wasanaethau iechyd plant ar gael yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae Huw yn gweld meddyg yn y feddygfa leol, sydd wedyn yn siarad â’r meddyg plant am sut mae Huw yn teimlo.

Mae meddyg plant yn penderfynu bod angen i Huw fynd i’r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig (PACU*) yn Ysbyty Llwynhelyg.

PACU — Gall meddygon a nyrsys yn yr uned hon asesu a thrin plant sâl ar yr un diwrnod. Nid oes rhaid iddynt aros dros nos.

Ar ôl cyrraedd yno, mae Huw yn cael ei asesu ac yn cael cynllun gofal. Yn yr opsiwn hwn, efallai y bydd meddygon a nyrsys ychwanegol yno i gadw golwg arno hyd at 6pm. Os yw Huw yn gwella, gall fynd adref, a bydd yn cael apwyntiad dilynol yn ôl yn Ysbyty Llwynhelyg os bydd angen un arno.

Mae Huw yn gwaethygu tra ei fod yn yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig, felly mae’r meddyg yn ei anfon i Ysbyty Glangwili mewn Cerbyd Ambiwlans Penodedig sydd â staff sydd wedi’u hyfforddi i ofalu am blant. Mae’n mynd ag ef yn syth i ward y plant.

Mae Huw yn gadael yr ysbyty y bore wedyn ac yn cael apwyntiad dilynol yn Ysbyty Llwynhelyg rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mewn argyfwng, gall teulu Huw ffonio 999 a bydd y criw ambiwlans yn mynd ag ef i Adran Argyfwng Ysbyty Glangwili.


Byddai opsiwn 3 yn golygu y gallai plant ac ieuenctid gael eu hatgyfeirio i’r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg a:

  • byddai mwy o wasanaethau iechyd plant ar gael yn Ysbyty Llwynhelyg. 
  • byddai staff yr adrannau argyfwng yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili yn cael hyfforddiant ychwanegol i ofalu am blant.

Clinig Mynediad Cyflym. Pan mae plant ac ieuenctid yn cael eu hatgyfeirio, maen nhw’n cael eu gweld yn gyflym gan feddyg plant yn Ysbyty Llwynhelyg o fewn 3 diwrnod.

Yn opsiwn 1 darperir hwn. Yn opsiynau 2 a 3 mae hyn yn gyfyngedig oherwydd diffyg lle oherwydd PACU*


Apwyntiadau cleifion allanol wedi’u trefnu yn Ysbyty Llwynhelyg os nad oes angen asesiad neu arhosiad dros nos.

Yn opsiwn 1 darperir hwn. Yn opsiynau 2 a 3 mae hyn yn gyfyngedig oherwydd diffyg lle oherwydd PACU*


Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg ar agor rhwng 10am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae meddygon a nyrsys yn yr uned hon yn gallu asesu a thrin plant sâl ar yr un diwrnod. Nid oes rhaid aros dros nos.

Ni ddarperir hyn yn opsiwn 1. Yn opsiynau 2 a 3 byddai hyn yn cael ei ddarparu.


Rhai triniaethau sydd ddim argyfwng a gofal dydd fel dychwelyd i gael meddyginiaeth neu newid rhwymyn.

Yn opsiwn 1 a 2 ni ddarperir hyn. Yn opsiwn 3 fe'i darperir.


Gwasanaethau gwell yn adran argyfwng Ysbyty Glangwili fel bod plant ac ieuenctid yn cael profiad gwell (fel cael man aros iddyn nhw yn unig).

Yn opsiwn 1 a 2 ni ddarperir hyn. Yn opsiwn 3 fe'i darperir.


Hyfforddiant ychwanegol i staff adrannau argyfwng yn y ddau ysbyty i drin plant ac ieuenctid pan nad oes angen adolygiad gan feddyg plant.

Yn opsiwn 1 a 2 ni ddarperir hyn. Yn opsiwn 3 fe'i darperir.


Hyfforddiant ychwanegol i staff yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Glangwili i reoli gweithgaredd adrannau argyfwng fel ei fod yn well i blant ac ieuenctid.

Yn opsiwn 1 a 2 ni ddarperir hyn. Yn opsiwn 3 fe'i darperir.


Bydd hyn yn costio tua £880,000 yn opsiwn 1, £1.3 miliwn yn opsiwn 2 ac yn opsiwn 3 £1.3 miliwn gyda'r hyfforddiant a ddarperir gan ein tîm bwrdd iechyd ein hunain.

PACU — Gall meddygon a nyrsys yn yr uned hon asesu a thrin plant sâl ar yr un diwrnod. Nid oes rhaid iddynt aros dros nos.

 

Diolch am ddarllen hwn! Cofia ofyn i dy riant neu ofalwr i dy helpu i lenwi’r holiadur.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: