Neidio i'r prif gynnwy

Hawdd ei Ddeall

Diolch am eich diddordeb yn yr ymgynghoriad gwasanaethau plant a ieuenctid. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.

Mae hon yn fersiwn Hawdd ei Ddeall o rywfaint o wybodaeth anodd. Efallai nad yw'n cynnwys yr holl wybodaeth, ond mae'n rhoi'r wybodaeth bwysig. 

Mae gwybodaeth Hawdd ei Ddeall yn defnyddio geiriau haws a lluniau. Ond efallai bydd dal angen help arnoch i'w ddarllen. 

Mae rhai geiriau mewn print trwm - mae'r ysgrifen yn fwy trwchus ac yn dywyllach. 

Mae'r rhain yn eiriau allai fod yn anodd i rai. Pan fyddwch yn gweld gair mewn print trwm, byddwn yn ei egluro yn y frawddeg nesaf.

Mae geiriau sydd wedi'u tanlinellu yn ddolen i wefan neu'n gyfeiriad ebost. Gallwch glicio ar y dolenni hyn ar gyfrifiadur. 

Mae'r ddogfen hon ar gael mewn fformat PDF i'w lawrlwytho (agor mewn dolen newydd), neu mewn fformat testun yn unig yma.

Mae Hywel Dda yn trefnu ac yn darparu gwasanaethau iechyd yn: 

  • Sir Gaerfyrddin.
  • Ceredigion.
  • Sir Benfro.

Mae 4 prif ysbyty: 

  • Bronglais yn Aberystwyth. 
  • Glangwili yng Nghaerfyrddin. 
  • Tywysog Philip yn Llanelli. 
  • Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Rydym yn meddwl gwneud newidiadau i’r gwasanaethau gofal brys ac argyfwng ar gyfer plant ac ieuenctid sy’n defnyddio: 

  • Ysbyty Llwynhelyg 
  • Ysbyty Glangwili

Mae gwasanaethau gofal brys ac argyfwng yn darparu’r gofal sydd angen digwydd ar unwaith.

Rydym yn cynnig 3 opsiwn. Mae pob opsiwn yn wahanol.

Rydym am wybod beth yw dy farn am yr opsiynau hyn.

Darllen y wybodaeth ac yna ateb y cwestiynau yn yr holiadur sydd gyda’r ddogfen hon i ddweud beth yw dy farn.

Newidiadau dros dros yw newidiadau sy’n digwydd am gyfnod byr – dydy nhw ddim yn para am byth. Rydym wedi gorfod gwneud newidiadau dros dro ers 2014 am y rhesymau hyn:

  • Dim digon o staff 
  • Covid-19
  • Mwy o blant yn cael y Feirws Syncytiol Anadlol

Mae’r Feirws Syncytiol Anadlol yn salwch tebyg i annwyd, ond gall plant fod yn sâl iawn. Weithiau mae angen iddynt fynd i ysbyty. 6 1 Newid Blwyddyn Coronafeirws

Rydym wedi datrys y problemau hyn trwy wneud newidiadau dros dro fel:

  • Newid pryd mae gwasanaethau plant ac ieuenctid Ysbyty Llwynhelyg ar agor 
  • Cau Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig (PACU) Ysbyty Llwynhelyg.

Yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig (PACU) yw ble mae plant yn gweld meddyg a chael triniaeth, ac yna’n mynd adref ar yr un diwrnod.

Meddyg sy’n penderfynu pwy sy’n cael dod i’r Uned PACU

Mae’r Bwrdd Iechyd yn gobeithio adeiladu ysbyty newydd yn ne yr ardal.

Nawr rydym am wneud newidiadau fydd yn para amser hir.

I feddwl am ein 3 opsiwn buom yn gweithio gyda:

  • Plant ac ieuenctid
  • Eu rhieni a’u teuluoedd
  • Gwasanaethau sy’n darparu gofal i blant ac ieuenctid

Mae’r rhain yr un peth ar draws y 3 opsiwn Pa bynnag un o’r 3 opsiwn fyddwn ni’n dewis, bydd y pethau hyn yn aros yr un peth:

  • Gall plant dan 16 fynd i ysbytai Glangwili a Llwynhelyg gyda mân anafiadau. Mân anaf yw pan mae plentyn yn cael anaf, ond heb ei anafu’n ddifrifol. Mân anaf yw rhywbeth fel brathiad gan bryfed neu losgiad bach.
  • Bydd plant dan 16 yn mynd i Ysbyty Glangwili i gael gofal argyfwng.
  • Ni fydd gofal dros nos nac ar y penwythnos i blant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg.

Bydd y pethau hyn yn aros yr un peth hefyd:

  • Holl wasanaethau plant yn Ysbyty Glangwili.
  • Mwy o arian i staff yr Uned PACU yn Ysbyty Glangwili ar gyfer trin plant ac ieuenctid a fyddai wedi gorfod mynd i Ysbyty Llwynhelyg yn y gorffennol.
  • Gwybodaeth i staff argyfwng sy’n dweud beth i’w wneud os bydd plentyn neu berson ifanc sydd wedi’i anafu’n ddifrifol neu’n sâl iawn yn cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gofal gorau yn yr ysbyty cywir. 
  • Ambiwlansys arbennig sy’n symud plant ac ieuenctid o Sir Benfro i Ysbyty Glangwili pan mae angen.

Cysylltiadau ffôn a chyfrifiadurol gwell rhwng meddygfeydd Sir Benfro a gwasanaethau plant yn Ysbyty Llwynhelyg.

Bydd mwy o wasanaethau cleifion allanol i blant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae gwasanaethau cleifion allanol ar gyfer cleifion sydd angen gofal mewn ysbyty ond nid oes angen iddynt aros dros nos.

Byddai’n golygu hyn: 

Gall y rhan fwyaf o blant ac ieuenctid gael gwasanaethau cleifion allanol yn Ysbyty Llwynhelyg. 

Gall plant ac ieuenctid gael eu gweld gan feddyg plant yn Ysbyty Llwynhelyg o fewn 72 awr i fynd i’w meddygfa neu adran argyfwng.

Gall plant ac ieuenctid fynd i weld meddyg plant yn Ysbyty Llwynhelyg o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Byddai Opsiwn 1 yn golygu na fydd Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae hyn yn golygu y bydd plenty sydd â salwch difrifol sydd angen aros dros nos mewn ysbyty, yn cael ei drin yn Ysbyty Glangwili.

Cofia, PACU yw Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig. Dyma ble gall plant weld meddyg a chael triniaeth, ac yna mynd adref ar yr un diwrnod. Meddyg sy’n penderfynu pwy sy’n cael dod i’r Uned PACU.

Dyma rai o’r pethau da am opsiwn 1:

  • Dim ond ychydig mwy o aelodau o staff y byddai'n rhaid i ni eu cyflogi.
  • Ni fyddai'n rhaid i ni wneud unrhyw newidiadau mawr i adeiladau.
  • Byddem yn gallu defnyddio mwy o ystafelloedd i weld mwy o gleifion.

Dyma fwy o bethau da am Opsiwn 1:

  • Bydd cleifion yn gallu cael gwahanol wasanaethau mewn 1 lle.
  • Ni fydd yn rhaid i gleifion sy'n byw'n agos at Ysbyty Llwynhelyg deithio mor bell i gael gwasanaethau cleifion allanol.

Dyma her opsiwn 1:

Nid oes gennym ddigon o aelodau staff sydd wedi'u hyfforddi i ofalu am blant neu ieuenctid pan fyddant yn cael eu symud i rywle arall i gael triniaeth.

Yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig (Uned PACU) yw ble gall plant weld meddyg a chael triniaeth, ac yna mynd adref ar yr un diwrnod. Meddyg sy’n penderfynu pwy sy’n cael dod i'r Uned PACU.

Bydd Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg. Bydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 10.00am i 6.00pm.

Bydd gwasanaethau cleifion allanol, sy’n cael eu disgrifio yn opsiwn 1, ond byddant wedi’u cyfyngu oherwydd y lle sydd ar gael ar gyfer y gwasanaethau hyn yn yr ysbyty.

Os oes angen i blentyn neu berson ifanc aros dros nos bydd yn cael ei anfon i Ysbyty Glangwili.

 

Dyma rai o’r pethau da am opsiwn 2:

Bydd cleifion yn gallu cael llawer mwy o wasanaethau oherwydd yr Uned PACU - sy'n golygu bydd llai o gleifion yn gorfod teithio i rywle arall i gael triniaeth.

Ni fyddai'n rhaid i ni wneud unrhyw newidiadau mawr i adeiladau.

Bydd cleifion yn gallu cael gwahanol wasanaethau mewn 1 lle.

Bydd mwy o wasanaethau ar gael i gleifion sy'n byw yn agos i Ysbyty Llwynhelyg.

 

Dyma rai o heriau opsiwn 2:

  • Byddai'n rhaid i ni gyflogi mwy o staff.
  • Dim ond os gallwn ddod o hyd i ddigon o staff y bydd yr opsiwn hwn yn gweithio'n dda.
  • Efallai nad oes gennym ddigon o aelodau staff sydd wedi'u hyfforddi i ofalu am blant neu ieuenctid pan fyddant yn cael eu symud i rywle arall i gael triniaeth.

Yr Uned Gofal Ambiwladol (Uned PACU) yw ble gall plant weld meddyg a chael triniaeth, ac yna mynd adref ar yr un diwrnod. Meddyg sy’n penderfynu pwy sy’n cael dod i’r Uned PACU. Bydd Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg.

Bydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 10.00am i 6.00pm.

Bydd gwasanaethau cleifion allanol, sy’n cael eu disgrifio yn opsiwn 1, ond byddant wedi’u cyfyngu oherwydd y lle sydd ar gael ar gyfer y gwasanaethau hyn yn yr ysbyty.

Os oes angen i blentyn neu berson ifanc aros dros nos bydd yn cael ei anfon i Ysbyty Glangwili.

Bydd opsiwn 3 hefyd yn cynnwys:

  • Profiad gwell i blant a phobl ifanc sy'n mynd i'r adran achosion brys yn Ysbyty Glangwili, fel ardal aros.
  • Hyfforddiant ychwanegol i staff yr adran argyfwng yn Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg.

Dyma rai o’r pethau da am opsiwn 3:

  • Bydd cleifion yn gallu cael llawer mwy o wasanaethau oherwydd yr Uned PACU.
  • Ni fyddai'n rhaid i ni wneud unrhyw newidiadau mawr i adeiladau.
  • Bydd cleifion yn gallu cael gwahanol wasanaethau mewn 1 lle.

Bydd mwy o wasanaethau ar gael i gleifion sy'n byw yn agos i Ysbyty Llwynhelyg.

Dyma rai o heriau opsiwn 3: 

  • Byddai'n rhaid i ni gyflogi mwy o staff.
  • Dim ond os gallwn ddod o hyd i ddigon o staff y bydd yr opsiwn hwn yn gweithio'n dda.
  • Efallai nad oes gennym ddigon o aelodau staff sydd wedi'u hyfforddi i ofalu am blant neu ieuenctid pan fyddant yn cael eu symud i rywle arall i gael triniaeth.

Rydym wedi casglu llawer o wybodaeth am ba un o’r 3 opsiwn yw’r gorau.

Rydym am wybod beth yw dy farn di am y 3 opsiwn.

Rydym am glywed gan bawb, yn enwedig y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau plant ac ieuenctid nawr, neu’n bwriadu eu defnyddio yn y dyfodol. 

Newid Rydym am wybod beth wyt ti’n ei feddwl oherwydd bydd yn ein helpu i wneud hyn:

  • Penderfynu pa opsiwn sydd orau.
  • Gwybod sut y gallai’r opsiynau effeithio ar wahanol grwpiau o bobl.
  • Diwallu anghenion plant ac ieuenctid.

Sut i ddweud wrthym beth wyt ti’n ei feddwl

Mae angen i ti ddweud wrthym beth wyt ti’n ei feddwl erbyn 24 Awst 2023, trwy wneud hyn:

Ateb y cwestiynau sydd gyda’r ddogfen hon.

Mynd ar-lein yma

Ebostio hyweldda.engagement@wales.nhs.uk

Dod i siarad gyda ni yn un o’n digwyddiadau gwrando.

Mae gwybodaeth am y digwyddiadau hyn yn www.hduhb.nhs.wales/ future-children-services

Cofia ateb y cwestiynau sydd gyda’r ddogfen hon.

Yna, postio dy atebion i:

Opinion Research Services

FREEPOST SS1018

PO Box 530

Abertawe SA1 1ZL

 

Mae angen i ti wneud hyn erbyn dydd Iau 24 Awst 2023.

Byddwn yn defnyddio’r holl atebion a gawn i wneud penderfyniad am ein 3 opsiwn posib.

Ewch i’n gwefan (agor mewn dolen newydd)i gael mwy o wybodaeth 

Neu gallwch wneud hyn:

  • Ffonio: 0300 303 8322
  • Ebostio: hyweldda.Engagement@wales.nhs.uk
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: