Neidio i'r prif gynnwy

Darlleniadau sain o ddogfennau pwysig

Diolch am eich diddordeb yn yr ymgynghoriad gwasanaethau plant a ieuenctid. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.

Nid yw pawb yn medru defnyddio dogfennau ysgrifenedig yr ymgynghoriad, felly rydym yn cynnig recordiadau sain o ddogfennau allweddol.  

Trwy wrando ar recordiadau sain o’r ddogfen ymgynghori a’r holiadur, gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau arfaethedig i wasanaethau plant ac ieuenctid yn ne ardal Hywel Dda.  

Gellir chwarae’r ffeiliau sain yn uniongyrchol ar y dudalen neu eu lawrlwytho a gwrando arnynt maes o law. Gallwch wrando ar y wybodaeth ar amser ac mewn lle sy’n gyfleus i chi, boed gartref, wrth deithio neu yn yr awyr agored.  

Mae’r recordiadau sain yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i hygyrchedd a chynhwysiant, gan sicrhau bod gan bawb yn ein cymunedau y cyfle i gymryd rhan yn y broses ymgynghori a bod llais pob un yn cael ei glywed.  

 

Gwrandewch ar y ddogfen ymgynghori ac holiadur isod;  

 

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: