Mae Clwstwr De Ceredigion yn ffinio â Sir Gaerfyrddin, gan gwmpasu trefi Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Chastellnewydd Emlyn. I'r de mae Aberteifi, a’r ffin â Sir Benfro, ac mae clwstwr De Ceredigion yn mynd mor bell i ogledd y sir â Chei Newydd ar yr arfordir.
Mae yna lawer o wasanaethau wedi'u lleoli yng nghlwstwr De Ceredigion a all eich cefnogi gyda'ch iechyd a'ch llesiant.
Rhowch eich cod post yn y blwch chwilio isod i ddod o hyd i restr o'ch fferyllfeydd agosaf
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru gyda deintydd y GIG ac angen gwneud apwyntiad ar gyfer triniaeth arferol, cysylltwch â'ch practis deintyddol yn uniongyrchol (agor mewn dolen newydd). Dylai eich practis deintyddol allu cynnig apwyntiad i chi os ydych chi wedi cael triniaeth gyda nhw yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Cliciwch yma i weld sut y gall deintyddion eich helpu gyda iechyd y geg (yn agor mewn dolen newydd)
Rhowch eich cod post yn y blwch chwilio isod i ddod o hyd i feddygfa yn lleol
Rhowch eich cod post yn y blwch chwilio isod i ddod o hyd optegydd yn lleol
Canolfan Gofal Integredig Aberteifi
Gofal arbenigol, cyfrinachol mewn clinigau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Gellir cyrchu'r gwasanaeth hwn trwy hunan-atgyfeirio neu drwy feddygfeydd ac mae'n agored i bawb. Cliciwch yma i weld weld y gwasanaethau iechyd rhywiol a gynigir yn eich ardal (yn agor mewn dolen newydd)