Neidio i'r prif gynnwy

Ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin

Dod o hyd i'ch cartref newydd

P’un a ydych am rentu neu brynu eiddo yn yr ardal, mae yna nifer o werthwyr tai ac asiantaethau gosod tai ar gael, yn dibynnu ar le yr ydych yn dewis byw. ​

Os oes arnoch angen cymorth ychwanegol, cysylltwch â'n tîm recriwtio a fydd yn gallu rhannu canllawiau llety neu eich cyfeirio at restrau lleol o werthwyr tai ac asiantaethau gosod.

Cofrestru ar gyfer gofal iechyd

Mae'n bwysig eich bod yn cofrestru gyda meddyg teulu a deintydd wrth i chi ymgartrefu yn yr ardal. Rydym hefyd yn eich cynghori i wybod ble y mae eich fferyllfa a’ch optegydd lleol, pe byddai arnoch angen eu cymorth.

Cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i'ch darparwyr agosaf:

Gwasanaethau gofal plant

Os ydych yn symud i’r ardal gyda’ch teulu a bod arnoch angen cymorth i ddod o hyd i ofal plant, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Ewch i wefan y cyngor lleol – Cyngor Sir Gaerfyrddin (yn agor mewn tab newydd)
Rhagor o wybodaeth am gofrestru ar gyfer gofal plant/ysgol (yn agor mewn tab newydd)

Cludiant

Mae gan Sir Gaerfyrddin amrywiaeth o ddewisiadau cludiant ar gael, ac mae yna fysiau yn cysylltu'r prif drefi i gyd.

Cliciwch ar y dolenni isod i weld amserlenni'r bysiau a’r trenau.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am fysiau Glangwili (yn agor mewn tab newydd)

Heol Las, Caerfyrddin, SA31 3AB. O'r tu allan i Ysbyty Glangwili.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am drenau Caerfyrddin (yn agor mewn tab newydd)

Heol yr Orsaf, Caerfyrddin SA31 2BE

Mae gennym gysylltiadau rhagorol rhwng Caerfyrddin ac Abertawe, Caerdydd a Llundain yn ogystal ag â Sir Benfro.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am fysiau Dyffryn Aman (yn agor mewn tab newydd) 

Yr Orsaf Fysiau, Stryd y Coleg, Rhydaman 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am fysiau Llanymddyfri (yn agor mewn tab newydd) 
Y Maes Parcio, Llanymddyfri 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am drenau Llanymddyfri (yn agor mewn tab newydd) 

Iard yr Orsaf, Llanymddyfri, SA20 0BH 

Mae gennym gysylltiadau rhagorol â Chaerfyrddin, Rhydaman ac Abertawe. 

Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Mannau addoli

Mae gan Ysbyty Glangwili gyfleusterau aml-ffydd ar gyfer addoli, a hynny'n ychwanegol at y Gaplaniaeth a’r gwasanaethau ysbrydol a gynigir gan y staff. Os hoffech chwilio am fan addoli penodol, mae rhestr i’w chael yma: Gwybodaeth am ragor o Gapeli ac Eglwysi (yn agor mewn tab newydd)

Buddion a Gwerthoedd

Rydym yn rhoi gwerth ar ein staff gweler ein rhwydweithiau a'n…

Cysylltu a'r Tim Recriwtio

Gallwn ddarparu cymorth i chi ddod o hyd i'r swydd iawn ar eich…

Swyddi Gwag Cyfredol

Mae gennym amrywiaeth o swyddi gwag ar gael mynnwch olwg 

traeth

Byw yn ardal Hywel Dda

Teithiau rhithwir byw a gweithio yn Hywel Dda