Neidio i'r prif gynnwy

COVID Bulletin 4 Gallery

03/02/21
Ymestyn gwahoddiadau brechu i grŵp blaenoriaeth 4
Meddyg a chlaf yn siarad
Meddyg a chlaf yn siarad

Bydd eu meddygfeydd yn cysylltu â phobl rhwng 70 a 74 oed a'r rhai y nodwyd eu bod yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol (yr ysgrifennwyd atynt yn ddiweddar er mwyn iddynt warchod eu hunain) i gael eu dos cyntaf o'r brechlyn yr wythnos hon.

Ar yr un pryd, bydd meddygon teulu yn cwblhau brechu neu'n sicrhau eu bod wedi cysylltu â phob un dros 80 oed yn eu hardaloedd.

Mae meddygfeydd hefyd wedi bod yn brysur yn brechu preswylwyr cartrefi gofal oedolion hŷn. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y bwrdd iechyd fod tua 85.7% o oedolion hŷn mewn cartrefi gofal cymwys wedi cael eu brechu ac mae'r ffigwr hwn wedi codi ymhellach yr wythnos hon i fwy na 90%.

03/02/21
Diolch i'r rhai sy'n cefnogi ein cymunedau
Cerbyd modur TukTuk
Cerbyd modur TukTuk

Hoffem ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi helpu eraill i ddod i'w hapwyntiadau brechu yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cafwyd ymateb anhygoel gan y gymuned, a dros yr wythnosau nesaf byddwn yn ceisio rhannu cymaint ag y gallwn yn ein bwletinau diweddaru, gan ddechrau'r wythnos hon gydag ymdrechion anhygoel Tuk Tuk Time.

Wedi'i leoli yn Sir Benfro, efallai y bydd Tuk Tuk Time yn fwy cyfarwydd â chludo parau ar ddiwrnod eu priodas neu’n rhoi taith o amgylch y sir i ymwelwyr, ond yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'r tîm wedi helpu i gludo pobl, yn rhad ac am ddim, i'w hapwyntiadau brechu.

Meddai Lorriane Niederlag, perchennog Tuk Tuk Time: “Âi’r daith neu’r gyrchfan sy’n bwysig mewn bywyd? Wel, rydyn ni'n falch o fod yn rhan o'r ddau beth." Diolch i Lorraine a'r tîm i gyd am eich ymdrechion anhygoel ac am helpu'ch cymuned.

03/02/21
Cefnogaeth gyda chludiant er mwyn teithio i apwyntiadau
Meddyg a chlaf yn siarad
Meddyg a chlaf yn siarad

Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau cymunedol a grwpiau trafnidiaeth i sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i'r rheini sy'n wirioneddol yn ei chael hi'n anodd teithio i ganolfan brechu torfol. Cysylltwch â'r bwrdd iechyd gan ddefnyddio'r rhif ar eich llythyr apwyntiad os oes angen cymorth arnoch gyda chludiant neu ewch i'n tudalen gwefan Canolfannau Brechu Torfol

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: