Croeso i ddeunawfed bwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae hi wedi bod yn wythnos lwyddiannus arall ar gyfer Rhaglen Frechu COVID-19 ledled Cymru, dros 2.8 miliwn o frechiadau COVID-19 wedi'u rhoi hyd yma. Yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae dros 60% o'n poblogaeth bellach wedi derbyn dos brechlyn cyntaf ac mae 27% o'n poblogaeth wedi'u brechu'n llawn.
Ddydd Gwener 7 Mai, diweddarodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ei gyngor arbenigol ac, fel mesur rhagofalus, bydd pobl o dan 40 oed sydd heb ffactorau risg glinigol ac sydd heb gael eu brechu eto yn cael cynnig brechlyn arall yn lle brechlyn AstraZeneca.
Bydd pob oedolyn rhwng 18 a 29 oed sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu gwahodd i’n canolfannau brechu torfol i dderbyn naill ai brechlyn Pfizer neu Moderna ac ni ddylai'r cyngor diweddara hwn arwain at oedi cyn derbyn y brechlyn. Rydym yn parhau i weithio tuag at y drydedd garreg filltir a nodwyd yn Strategaeth Brechu COVID-19 Llywodraeth Cymru (agor mewn dolen newydd), sef i gynnig brechlyn i bawb 18 oed a hŷn erbyn 31 Gorffennaf 2021.
Dylai pawb sydd eisoes wedi cael dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca gael eu sicrhau mai cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yw y dylent gael ail ddos o’r un brechlyn, ni waeth beth fo’u hoedran. Gall eithriadau meddygol fod yn berthnasol i leiafrif bach iawn.
Mae brechlyn AstraZeneca eisoes wedi achub miloedd o fywydau ac mae’n ddiogel ac yn effeithiol o hyd i’r mwyafrif o’r boblogaeth. Mae dros 1.2 miliwn o bobl wedi cael brechlyn AstraZeneca yng Nghymru ers mis Ionawr, ac ychydig iawn o achosion o glotiau gwaed gyda thrombocytopenia sydd wedi bod.
Brechlynnau yw’r ffordd orau o hyd o ddod allan o’r pandemig hwn ac maent yn darparu amddiffyniad cryf rhag COVID-19 – mae’n bwysig bod pobl yn cael eu brechiad pan gânt eu gwahodd. Mae hi’r un mor bwysig bod pobl yn dod i gael yr ail ddos er mwyn cael eu diogelu’n llawn. Mae pob un brechiad wir yn cyfrif.
Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael mwy o wybodaeth (agor mewn dolen newydd)
Ar hyn o bryd, nid yw'r JCVI yn cynghori brechu plant sy'n gysylltiadau cartref. Ar hyn o bryd, nid ydynt chwaith yn cynghori brechu cysylltiadau cartref plant imiwnoataliedig.
Peidiwch cysylltu â’r bwrdd iechyd os ydych yn grŵp 10 a rhwng 18 a 29 oed i holi am apwyntiad brechu ar hyn o bryd. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
---|---|---|---|---|
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 |
96.4% |
2,074 |
80.4% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,431 |
98.2% |
2,981 |
85.3% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,812 |
99.8% |
21,006 |
91.9% |
P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
25,468 |
99.7% |
21,688 |
84.9% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,593 |
95.3% |
17,499 |
89.7% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
24,966 |
94.9% |
21,842 |
83.1% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,643 |
87.3% |
7,126 |
72% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,573 |
90.3% |
7,367 |
30.8% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
37,475 |
84% |
2,515 |
5.6% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
13,286 |
68.3% |
496 |
2.5% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn |
14,669 |
78.9% |
452 |
2.4% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn |
14,222 |
87.5% |
465 |
2.9% |
P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
28,836 |
18.7% |
944 |
0.6% |
Cyfanswm: |
236,464 |
61.1% |
106,455 |
27.5% |
Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn. Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.