Croeso i’r unfed rhifyn ar ddeg o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Ddoe, death y wlad ynghyd i fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf, ac hefyd rhoddwydd brechlyn rhif 200,000 yn BIP Hywel Dda.
 dim ond 15 wythnos ers rhoi ein brechlyn cyntaf i Dr Nicola Drake o adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Llwynhelyg, mae mwy na 173,000 o bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro bellach wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn, ac mae mwy na 30,094 o bobl wedi'u brechu'n llawn ar ôl cael y ddau ddos.
Mae'r nifer sy'n derbyn y brechlyn yn parhau i fod yn uchel a chredwn y bydd o leiaf 80% o bob grŵp blaenoriaeth 1 i 9 wedi cael eu dos cyntaf erbyn carreg filltir 2 o Strategaeth Frechu Genedlaethol Llywodraeth Cymru, y gellir gweld diweddariad ohoni yma hStrategaeth Frechu Genedlaethol Llywodraeth Cymru, y gellir gweld diweddariad ohoni yma (agor mewn dolen newydd).
Byddwn wedi cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 5 i 9 erbyn dydd Sul 18 Ebrill. Mae hyn yn cynnwys:
Byddwch yn amyneddgar - os na chysylltwyd â chi eto ynglŷn â'ch brechlyn, gofynnwn yn gwrtais i chi beidio â chysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddygfa i ofyn am eich brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.
Dylai pawb yng ngrwpiau 5 i 9 ddisgwyl cael eu apwyntiad brechlyn erbyn Llun y Pasg, sef 5 Ebrill.
Er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl, ddydd Mawrth 6 Ebrill, bydd y bwrdd iechyd yn lansio apêl yn gofyn i bobl yng ngrwpiau 1 i 9 na chysylltwyd â nhw i drefnu eu dos cyntaf o’r brechlyn, i gysylltu â ni. Bydd yr apêl hon yn cael ei rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol, mewn papurau newydd lleol ac ar orsafoedd radio lleol.
Mae ail ddos yn hanfodol ar gyfer amddiffyniad tymor hwy, felly mae'n bwysig bod pawb yn dod ymlaen ar gyfer eu cwrs llawn pan gânt eu galw.
Mae pryd y cysylltir â chi am eich ail ddos o’r brechlyn yn dibynnu ar ba frechlyn a gawsoch.
Mae staff cartrefi gofal, staff iechyd a gofal cymdeithasol a phobl 75 i 79 oed oedd yn gwarchod, wedi cael y brechlyn Pfizer BioNtech yn un o’n canolfannau brechu torfol, a byddant yn cael eu gwahodd i gael yr ail ddos cyn XX Ebrill.
Mae preswylwyr cartrefi gofal, pobl dros 80 oed a phob grŵp blaenoriaeth arall sydd wedi cael y brechlyn Oxford AstraZeneca yn eu meddygfa yn cael eu gwahodd rhwng 12 a 15 wythnos yn dilyn eu brechlyn cyntaf.
Mae mwy a mwy o hyder ynghylch effeithiolrwydd y brechlynnau. Mae tystiolaeth newydd yn glir ar effaith y brechlyn wrth atal clefydau difrifol a derbyniadau i ysbyty. Mae hyn bellach i’w weld yn nifer y derbyniadau i’n hysbytai, a diolch byth, yn nifer y marwolaethau o Coronafeirws sy’n cael eu hadrodd.
Mae rheoleiddwyr y DU a’r UE hefyd wedi bod yn glir iawn yn ystod yr wythnos ddiwethaf ynglŷn â diogelwch y brechlynnau. Mae buddion brechu yn llawer mwy nag unrhyw risgiau posibl. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol.
Diolch i Meinir o Pobl yn Gyntaf Sir Benfro am rannu ei phrofiad o gael y brechlyn COVID. Mae Pobl yn Gyntaf Sir Benfro yn elusen annibynnol, sy’n cael ei rhedeg gan oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
Yn y fideo byr hwn, mae Meinir yn rhannu pam ei bod yn bwysig cael y brechlyn a’r hyn y gellir disgwyl ar hyd y broses*.
Canllaw hawdd ei ddeall ar y brechlyn COVID-19 i bobl sydd ag anableddau dysgu difrifol neu salwch meddwl difrifol: Canllaw hawdd ei ddeall i helpu pobl ddeall a ddylent gael brechlyn COVID-19, yng ngrŵp blaenoriaeth 6 (agor mewn dolen newydd)
*Mae canolfannau brechu torfol Sir Benfro yn yr Archifdy yn Hwlffordd ac yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod Cliciwch yma i weld gwybodaeth am ein canolfannau brechu torfol (agor mewn dolen newydd).
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.4% | 630 | 24.2% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,275 | 93.7% | 2,265 | 64.8% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,634 | 99.7% | 323 | 1.4% |
P2.2 & 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
23,581 | 98.3% | 18,947 | 78.9% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,261 | 93.6% | 5,371 | 27.5% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
24,688 | 93.8% | 238 | 0.9% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,430 | 85.1% | 198 | 2.0% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,137 | 88.5% | 85 | 0.4% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
31,663 | 71% | 944 | 2.1% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
11,751 | 60.4% | 68 | 0.3% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn | 1,921 | 10.3% | 76 | 0.4% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn | 883 | 5.4% | 85 | 0.5% |
Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
2,461 | 1.6% | 864 | 0.6% |
Cyfanswm: |
173,177 | 44.7% | 30,094 | 7.8% |
Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn. Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.