Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 28 - Cyhoeddwyd 21 Gorffennaf 2021

Croeso i rifyn 28 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda ar y brechlyn.

Bydd y digwyddiad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r ffigurau diweddar a gyhoeddwyd ddydd Gwener 16 o Orffennaf yn dangos dros gyfnod o saith mis, mae 1,892,082 o bobl ledled Cymru wedi cael dau ddos o’r brechlyn, a 2,279,139 o bobl neu 90.3% o’r wlad wedi cael eu dos cyntaf.

Mae Cymru bellach wedi cyrraedd ei drydedd garreg filltir, ar ôl cynnig y brechlyn i bob oedolion cymwys 6 wythnos yn gynnar a chyflawni 75% o bobl o dan 50 mlwydd oed yn cael y brechlyn fis yn gynnar.

Gofynnwn i unrhyw un yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro sydd heb gael eu dos cyntaf i fynychu unrhyw un o ganolfannau brechu torfol neu mae croeso i chi gysylltu trwy ffonio 0300 303 8322 neu e-bostio covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk.

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymestyn gwahoddiad am frechlyn COVID-19 i rhai sy’n troi’n 18 cyn 31 Hydref 2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y broses o adnabod unigolion fydd yn troi’n 18 oed cyn 31 o Hydref 2021 er mwyn eu gwahodd i gael eu brechlyn COVID-19 yn ganolfan brechu torfol.

Ond, er mwyn osgoi oedi, mae’r bwrdd iechyd yn annog y rheini sydd yn agos i droi’n 18 oed ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro i fynychu clinig cerdded i mewn yn un o’r canolfannau brechu torfol.

Noder mai’r brechlyn Pfizer-BioNTech yw’r unig un a ellir ei chynnig i’r rheini sydd dan 18 oed ac y mae ar gael ym mhob canolfan brechu Hywel Dda heblaw am Aberteifi ac ar faes y sioe yng Nghaerfyrddin.

Bydd canolfan brechu torfol Aberteifi yn symud o’i leoliad presennol i’r hen Ysgol Trewen, wedi’i leoli yng Nghwm Cou (SA38 9PE) wythnos y 26 o Orffennaf, mae tîm brechu’r bwrdd iechyd yn gweithio ar hyn o bryd i geisio darparu cyflenwad o Pfizer ar gyfer de Ceredigion pan fydd y ganolfan yn agor yn ei leoliad newydd.

Yn y cyfamser, gofynnwn i chi ddod ymlaen i gael eich brechlyn yn y canolfannau ar draws y rhanbarth.

Ewch yma am fwy o wybodaeth ynglŷn â phryd mae eich canolfannau brechu torfol lleol (agor mewn dolen newydd) ar agor ar gyfer clinigau brechlyn cerdded i mewn.

Ni does angen cysylltu â’r bwrdd Iechyd cyn mynychu clinig cerdded i mewn ond os ydych eisiau trefny apwyntiad gallwch dal wneud hynny drwy gysylltu â’n tîm llogi ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk 

 

Newid lleoliad canolfan brechu torfol Aberteifi

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd canolfan brechu torfol Aberteifi (agor mewn dolen newydd) yn symud i leoliad newydd ddydd Llun 26 o Orffennaf.

Bydd tîm brechu’r bwrdd iechyd yn symud i hen Ysgol Trewen, yng Nghwm Cou, Ceredigion SA39 9PE er mwyn caniatáu i waith adeiladu ddigwydd yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Os mai Aberteifi oedd eich canolfan brechu torfol leol, byddwch yn cael gwahoddiad i gael eich ail ddos yn hen Ysgol Trewen os yw’n amser i chi gael eich ail ddos .

Rydym yn deall y bydd yn bellach i rai pobl deithio, ond mae’n hollbwysig, gyda’r cynnydd diweddar mewn achosion, fod pobl yn cael eu hail ddos o’r brechlyn pan fyddent yn cael gwahoddiad.

Os bydd rhywun gwirioneddol ddim yn gallu mynychu’r apwyntiad hwnnw yn ein lleoliad newydd, mae gan y Bwrdd Iechyd system gludiant mewn lle, gellir trefnu hyn gyda ein Canolfan Reoli trwy ffonio 0300 303 8322 neu drwy e-bostio covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk.

 

Fan brechu symudol i deithio i Llwynhendy ac i lan y môr wythnos hon

Bydd fan brechu symudol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllwein Cymru (agor mewn dolen newydd), wedi’i leoli yn ddau leoliad cymunedol yn Llanelli yr wythnos hon.

Ddydd Mercher 21 a dydd Iau 22 o Orffennaf bydd y fan wedi’i leoli ym maes parcio Llyfrgell Llwynhendy (Heol Elfed, SA14 9HH) a dydd Gwener 23 a dydd Sadwrn 24 o Orffennaf bydd y fan wedi’i leoli ym maes parcio Clwb Chwaraeon a Chymdeithasu (Caroline Street, SA15 2PB). Bydd y fan ar agor rhwng 11.00yb a 7.00yh. Nid oes angen cysylltu â’r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad.

Bydd y fan brechu yn rhoi’r brechlyn i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn sy’n gofyn am ddos gyntaf neu ail ddos (Moderna ac AstraZeneca Rhydychen). Gellir rhoi’r ail ddos 8 wythnos ar ôl y dos cyntaf.

Hyd yn hyn mae dros 1,247 o freichlynnau wedi’u dosbarthu yn Cross Hands, Doc Penfro a Llanybydder.

Bydd y fan brechu wedi’i leoli yn Rhydaman yr wythnos nesaf. Cadwch lygad allan am unrhyw fanylion pellach yn hwyrach yn yr wythnos.

 

Mae’n bwysig cael eich ail ddos cyn gynted ag yr ydych yn gymwys i’w gael

Mae’r ail ddos yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyniad hir dymor, felly mae’n hollbwysig i bawb gael dau ddos y brechlyn.

Mae’r ail ddos yn cael eu rhoi wyth wythnos ar ôl y dos cyntaf. Os mae mwy nag wyth wythnos wedi mynd heibio ers i chi gael eich brechlyn gyntaf a dydych chi ddim wedi cael galwad am apwyntiad wrthym ni, gallwch dderbyn eich ail ddos yn un o’r ffyrdd canlynol:

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,160 83.7%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,488 99.8% 3,236 92.6%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,832 99.9% 21,961 96.1%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,894 98.8% 24,577 93.8%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,686 95.7% 18,239 93.5%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

25,036 95.2% 24,538 93.3%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,719 88.0% 8,366 84.5%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,706 90.9% 21,168 88.6%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

38,903 87.2% 36,073 80.9%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,427 69.0% 13,139 67.5%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,896 80.1% 14,395 77.4%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

15,096 92.9% 14,298 87.9%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

70,442 45.9% 32,238 21.0%
45 - 49 oed 11,155 70.5% 9,555 60.4%
40 - 44 oed 10,453 68.8% 7,745 51.0%
35 - 39 oed 10,857 67.3% 6,281 37.9%
30 - 34 oed

10,967

64.5% 4,345 24.9%
25 - 29 oed 10,141 58.1% 2,021 11.6%
20 - 24 oed 11,728 62.4% 1,709 9.1%
15 - 19 oed 5,090 33.7% 581 3.8%
Cyfanswm: 281,631 72.7% 234,388 60.5%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - rhifyn 28

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: