Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 32 - Cyhoeddwyd 18 Awst 2021

Croeso i rifyn 32 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda ar y brechlyn

Bydd y digwyddiad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

 

Amser Sioe i'n tîm brechu yn Sir Benfro

Sioe Sir Benfro 2021 Mae ein fan brechu symudol, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn mynychu Sioe Sir Benfro yr wythnos hon.

Bydd y tîm brechu yn gallu cynnig dosau cyntaf ac ail i unrhyw un a hoffai gael eu brechlyn a byddant hefyd wrth law i sgwrsio â phobl am y rhaglen ffliw sydd ar ddod.

 

Neges frys i'r rhai sy'n aros am ail ddos brechlyn Moderna a'r rhai sydd heb dderbyn eu dos gyntaf.

Brechlyn moderna Mae angen eich help arnom ar frys i sicrhau bod ein stociau o Moderna yn cael eu defnyddio.

O heddiw ymlaen (Awst 18), rydym yn galw ar bobl a gafodd eu dos cyntaf o Moderna chwe wythnos yn ôl neu fwy, i ddod ymlaen i dderbyn eu hail ddos.

Os nad ydych wedi cael eich dos cyntaf eto, a'ch bod yn 18 oed neu'n hŷn, dewch ymlaen hefyd fel y gallwn ddefnyddio'r holl frechlyn sydd ar gael inni.

Ewch i'ch canolfan cerdded i mewn agosaf (agor mewn dolen newydd) (nid oes angen apwyntiad) i dderbyn eich dos. Mae'r canolfannau ar faes Sioe Caerfyrddin (gyrru trwodd)  Archifau Sir Benfro, Dafen a Thomas Parry.

 

Sut i ofyn am eich brechlyn?

Yn dilyn diweddariad yng nghyngor JCVI (yn agor mewn dolen newydd), mae byrddau iechyd yng Nghymru bellach yn gwahodd pawb sy'n 16 oed neu'n hŷn i gael eu brechu.

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro gallwch gael mynediad i'ch brechlyn COVID-19 yn y ffyrdd a ganlyn:

Mynychu clinig cerdded i mewn, nid oes angen apwyntiad. Ewch i'n tudalen canolfan brechu torfol (yn agor dolen newydd) i wirio pryd mae'ch canolfan brechu torfol agosaf ar agor **

Gwneud Apwyntiad: 

** Yr wythnos nesaf byddwn yn ysgrifennu at y rhai 16 a 17 oed i wahodd i'w canolfan agosaf (ar wahân i Faes Sioe Caerfyrddin). Bydd y rhai yn y grŵp oedran hwn yn cael cynnig y brechlyn Pfizer / BioNTech (yn agor mewn dolen newydd).

 

Pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed sydd â risg uwch o gael coronafeirws

Dywedodd y  JCVI (agor mewn dolen newydd) y dylid cynnig brechlyn brechlyn Pfizer/BioNTech (agor mewn dolen newydd) i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed sydd â risg uwch o gael coronafeirws (COVID-19).

Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc gyda:

  • niwro-anableddau difrifol
  • Syndrom Down
  • amodau sylfaenol sy'n arwain at wrthimiwnedd
  • diagnosis o anabledd dysgu / deallusol

Mae'r JCVI hefyd yn argymell y dylid cynnig y brechlyn i'r rhai rhwng 12 a 15 oed sy'n byw gyda rhywun sydd â gwrthimiwnedd.

Wythnos nesaf byddwn yn cysylltu (dros y ffôn) â theuluoedd y rhai rhwng 12 a 15 oed sydd mewn mwy o berygl i drefnu apwyntiadau.

 

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,167 84.0%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,494 100.0% 3,289 94.1%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,847 100.0% 22,055 96.5%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,965 99.1% 24,944 95.2%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,702 95.8% 18,318 93.9%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

25,065 95.3% 24,653 93.8%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,732 88.2% 8,423 85.0%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,735 91.0% 21,332 89.3%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

39,109 87.7% 37,000 82.9%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,460 69.2% 13,232 68.0%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,965 80.5% 14,600 78.5%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

15,395 94.7% 14,893 91.6%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

74,460 48.5% 57,423 37.4%
45 - 49 oed 11,196 70.8% 10,526 66.6%
40 - 44 oed 10,569 69.6% 9,537 62.8%
35 - 39 oed 11,113 68.8% 9,381 56.6%
30 - 34 oed 11,288 66.4% 8,947 51.3%
25 - 29 oed 10,684 61.2% 7,931 45.4%
20 - 24 oed 12,653 67.1% 8,118 43.0%
15 - 19 oed 6,924 45.9% 2,980 19.7%
Cyfanswm: 286,419 74.0% 262,329 67.7%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - Rhifyn 32

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: