Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 31 - Cyhoeddwyd 11 Awst 2021

Croeso i rifyn 31 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

 

Tîm brechu i fynychu Sioe Sir Benfro

Bydd ein fan symudol, mewn partneriaeth a gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn mynychu Sioe Sir Benfro ar 18 a 19 o Awst. 

Mae sioe sir fwyaf Cymru ‘yn ôl am 2021 ar gyfer cyfranogwyr ac aelodau’r gymdeithas yn unig, gan gynnal ceffylau, da byw ac amryw o gystadlaethau eraill. 

Mae’r gwasanaeth tan yn darparu un o’i gerbydau a fydd aelodau’r tîm yn bresennol hefyd i ddarparu cyngor diogelwch cymunedol cyffredinol , gan gynnwys diogelwch yn y cartref. 

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd yn BIP Hywel Dda: “Mae’n hwb mawr cael sioe Sir Benfro yn ôl eleni i'r cyfranogwyr.  

“Mae cyflwyno’r brechlyn wedi treulio rhai o’r amseroedd prysuraf i'n gymuned ffermio felly rydyn ni wrth ein boddau o allu mynychu’r sioe a darparu mynediad hawdd i’r brechlyn i'r rhai sy’n mynychu.” 

Dywedodd Ian John, Aelod Bwrdd Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cyfranogwyr ac aelodau o’r gymdeithas ar gyfer Sioe Sirol ychydig yn llai eleni. Rydym yn falch bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn mynychu gyda fan brechu COVID-19 symudol i barhau gyda’u gwaith hanfodol.

Sut i ofyn am eich brechlyn

Yn dilyn cyngor diweddaraf y JCVI (agor mewn dolen newydd), mae byrddau iechyd yng Nghymru bellach yn gwahodd pawb sy’n 16 oed neu’n hŷn i gael eu brechu.  

Os ydych chi’n 16 oed neu’n hyn ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro, gallwch gael eich brechlyn COVID-19 yn y ffyrdd canlynol:

** Dylid cynnig brechlyn Pfizer/BioNTech (agor mewn dolen newydd) i’r rhai 16 a 17 oed. Sylwch nad yw’r brechlyn hwn ar gael ar hyn o bryd yng nghanolfannau brechu torfol Maes Y Sioe Caerfyrddin neu Ysgol Trewen (Cwm Cou , Castellnewydd Emlyn).   

Pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed sydd â risg uwch o gael coronafirws  

Mae’r JCVI wedi cynghori (agor mewn dolen newydd) y dylid cynnig y brechlyn Pfizer/BioNTech (agor mewn dolen newydd) i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed sydd â risg uwch o gael coronafirws (COVID-19).

Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc gyda: 

  • Niwro-anableddau difrifol 
  • Syndrom Down
  • Amodau gwaelodol sy’n arwain at gwrthimiwnedd
  • Diagnosis o anabledd dysgu/deallusol

Mae’r JVCI hefyd yn argymell y dylid cynnig y brechlyn i'r rhai rhwng 12 a 15 oed sy’n byw gyda rhywun sydd a gwrth imiwnedd.

Rydym yn y broses o nodi’r rhai rhwng 12 a 15 oed sy’n gymwys i'w gwahodd i dderbyn y brechlyn Pfizer/BioNTech mewn canolfan brechu torfol. Peidiwch â mynychu canolfan brechu torfol heb apwyntiad.    

Er mwyn osgoi unrhyw oedi, gallwch gysylltu â ni i drefnu apwyntiad: 

 

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,166 83.9%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,490 99.9% 3,272 93.6%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,844 100.0% 22,033 96.4%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,950 99.0% 24,861 94.9%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,694 95.8% 18,302 93.8%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

25,053 95.3% 24,626 93.7%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,726 88.1% 8,413 84.9%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,727 91.0% 21,304 89.2%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

39,060 87.5% 36,798 82.5%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,455 69.2% 13,214 67.9%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,953 80.4% 14,558 78.3%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

15,315 94.2% 14,771 90.9%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

73,255 47.7% 52,615 34.2%
45 - 49 oed 11,194 70.8% 10,375 65.6%
40 - 44 oed 10,539 69.4% 9,334 61.4%
35 - 39 oed 11,067 68.6% 8,800 53.1%
30 - 34 oed 11,216 65.9% 8,453 48.4%
25 - 29 oed 10,567 60.5% 7,230 41.4%
20 - 24 oed 12,493 66.2% 6,411 34.0%
15 - 19 oed 6,162 40.8% 2,009 13.3%
Cyfanswm: 285,012 73.6% 256,933 66.3%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - rhifyn 31

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: