Croeso i rifyn 30 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Dorfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae pawb yn bwysig ac yr wythnos diwethaf hon rhoddwyd 1,007 dosau brechlyn cyntaf. Diolch I bawb sy’n parhau i fynychu am eu brechlyn. Rydym yn parhau i annog pobl iau i ymuno a’r cannoedd o filoedd o bobl sydd eisoes wedi cael brechlyn COVID-19.
Pan ofynnwyd iddynt ym mis Mawrth, yn ôl arolwg YouGov, mae 91% o bobl ifanc 18-21 oed wedi dweud y byddant yn cael brechlyn COVID-19 ac ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, mae dros 37,000 o bobl ifanc o dan 30 wedi cael eu brechlyn hyd yn hyn. .
Mae COVID-hir yr un mor debygol o effeithio ar bobl ifanc ag unrhyw grŵp oedran arall. Gall brechlyn COVID-19 helpu i'ch amddiffyn rhag salwch difrifol bosibl neu ganlyniadau tymor hir.
Bydd cael brechlyn COVID-19 yn eich amddiffyn rhag salwch difrifol bosibl neu ddifrod tymor hir.
Mae’r rhan fwyaf o sgil-effeithiau cael brechlyn COVID-19 yn ysgafn a dim ond ychydig ddyddiau maent yn para. Os ydych chi’n pryderu, gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd) neu alw i mewn i un o’n canolfannau i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych gyda’n tîm brechu.
Mae Joshua Beynon yn 23 oed ac yn gweithio i Hywel Dda fel Swyddog Allgymorth Datblygu Cymunedol.
Gweler isod fideo gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yma, mae Joshua yn rhannu sut yr oedd yn bryderus ar y dechrau am gael y brechlyn ond mae wedi sicrhau ei fod wedi cael y ddau frechiad i amddiffyn ei hun a’r rhai o’i gwmpas:
Rydym yn falch o gadarnhau bod canolfan brechu torfol Llanelli wedi agor yn llwyddiannus yn ei lleoliad newydd yn Ystâd Ddiwydiannol Dafen (Uned 2a, Heol Cropin, SA14 8QW) ac mae’n derbyn cerdded i mewn saith diwrnod yr wythnos rhwng 10.00am a 6.00pm am dosau cyntaf ac ail gyda brechlynnau Astrazeneca, Pfizer a Moderna ar gael.
Bydd canolfan brechu torfol Aberteifi yn adleoli i'r Hen Ysgol Trewen, a leolir yn Gwm Cou, Ceredigion SA38 9PE ar ddydd Gwener 6 Awst. Archebwch apwyntiad i dderbyn eich brechlyn yn y lleoliad hwn trwy ffonio 0300 303 8322 neu drwy e-bostio covidenquries.hdd@wales.nhs.uk.
Os na all unrhyw un ddod i'w apwyntiad yn ein lleoliad newydd mewn unrhyw ffordd arall, mae gan y bwrdd iechyd gymorth trafnidiaeth y gellir ei drefnu trwy ein Canolfan Reoli trwy ffonio 0300 303 8322 neu drwy e-bostio covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk.
Er mwyn helpu holl breslyswyr Hywel Dda cael mynediad hawdd a hyblyg i frechlyn COVID-19, mae clinigau cerdded i mewn dos cyntaf ac ail wedi bod yn rhedeg yn ganolfannau frechu Hywel Dda I gyd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ogystal â chlinigau brechlyn cynenedigol ac iechyd meddyliol a lles mewn lleoliadau dethol.
Edrychwch ar ein gwefan am amseroedd agor eich canolfan lleol (agor mewn dolen newydd) cyn teithio.
Gellir gwneud apwyntiadau o hyd trwy gysylltu â ni mewn un o’r ffyrdd canlynol:
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
---|---|---|---|---|
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.4% | 2,163 | 83.8% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,490 | 99.9% | 3,262 | 93.4% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
25,938 | 99% | 24,786 | 94.6% |
P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
22,938 | 99% | 24,786 | 94.6% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,691 | 95.8% | 18,292 | 93.7% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
25,046 | 95.3% | 24,598 | 93.5% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,725 | 88.1% | 8,397 | 84.8% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,721 | 91% | 21,273 | 89.1% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
39,009 | 87.4% | 36,593 | 82% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
13,442 | 69.1% | 13,194 | 67.8% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn |
14,939 | 80.3% | 14,508 | 78% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn |
15,248 | 93.8% | 14,647 | 90.1% |
P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
72,138 | 47% | 46,830 | 30.5% |
45 - 49 oed | 11,179 | 70.7% | 10,190 | 64.4% |
40 - 44 oed | 10,524 | 69.3% | 8,990 | 59.2% |
35 - 39 oed | 10,990 | 68.1% | 8,154 | 49.2% |
30 - 34 oed | 11,144 | 65.5% | 7,783 | 44.6% |
25 - 29 oed | 10,450 | 59.9% | 5,875 | 33.7% |
20 - 24 oed | 12,313 | 65.3% | 4,431 | 23.5% |
15 - 19 oed | 5,525 | 36.6% | 1,405 | 9.3% |
Cyfanswm: | 283,717 | 73.3% | 250,545 | 64.7% |