Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 26 - Cyhoeddwyd 7 Gorffennaf 2021

Croeso i rifyn 26 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae mwy na 75% o oedolion dan 50 oed wedi cael eu dos cyntaf ledled Cymru. Nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un sydd wedi newid ei feddwl ynglŷn â chael brechlyn gael apwyntiad.

Mae gan Gymru bolisi “gadael neb ar ôl” felly os hoffech archebu eich dos brechlyn cyntaf, cysylltwch â'r bwrdd iechyd drwy un o'r ffyrdd canlynol i ofyn am apwyntiad cyn gynted â phosibl:

Ffurflen gais ar-lein ar gyfer dos cyntaf (agor mewn dolen newydd) 
Ffurflen gais ar-lein ar gyfer ail ddos - os cawsoch eich brechlyn cyntaf 8 wythnos neu fwy yn ôl (agor mewn dolen newydd)
Rhif Ffôn: 0300 303 8322
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Pa frechlynnau sydd ar gael mewn clinigau cerdded i mewn?

Er mwyn helpu holl drigolion Hywel Dda i gael mynediad hawdd a hyblyg i frechlyn COVID-19, mae clinigau brechlyn cerdded i mewn dos cyntaf ac ail yn rhedeg ym mhob canolfan brechu torfol Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ogystal a chlinigau iechyd cynenedigol a meddyliol pwrpasol mewn lleoliadau dethol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac amseroedd agor (agor mewn dolen newydd)

Tra bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod cyflenwad da o'r holl frechlynnau ar gael yn y mwyafrif o'n canolfannau, nodwch fod gan y ganolfan gyrru drwodd yng Nghaerfyrddin AstraZeneca Rydychen a Moderna yn unig a dim ond stociau o un brechlyn fydd gan ein canolfan yn Aberteifi ar ddyddiau penodol. Gwiriwch y cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch 0300 303 8322 i sicrhau bod y brechlyn cywir ar gael i chi yn Aberteifi cyn teithio.

Mae clinigau cerdded i mewn ar gael yng nghanolfan brechu torfol Aberteifi ar gyfer brechlynnau Moderna rhwng 9.00am a 5.00pm ddydd Sadwrn 10 a dydd Sul 11 Gorffennaf.

Os bydd rhywun yn mynychu clinig brechu cerdded i mewn ar gyfer ei ail ddos yn gynharach nag 8 wythnos ar ôl eu dos cyntaf, mae staff canolfan frechu torfol Hywel Dda yn cadw'r hawl i wrthod a gofyn iddynt ddychwelyd 8 wythnos yn dilyn eu brechlyn cyntaf.

Fan brechu symudol COVID-19 yn symud i Ddoc Penfro yr wythnos hon

Yn dilyn llwyddiant y fan brechu symudol Cross Hands yr wythnos diwethaf, bydd clinig brechu COVID-19 yn gweithredu yn Noc Penfro ddydd Iau hwn 8fed i ddydd Sadwrn 10fed Gorffennaf mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Bydd y clinig brechu symudol wedi'i leoli ym maes parcio Western Way (y tu ôl i orsaf betrol Asda, SA72 6DB) a bydd ar agor rhwng 11.00am a 7.00pm. Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad.

Bydd aelodau o'r gwasanaeth tân yn bresennol i roi cyngor diogelwch cymunedol cyffredinol i'r cyhoedd, gan gynnwys am ddiogelwch yn y cartref. Bydd tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol y bwrdd iechyd yn ymuno â nhw i estyn allan at bobl o leiafrifoedd ethnig sy'n byw yn Sir Benfro i'w helpu yn ystod pandemig COVID-19, cefnogi cydlyniant cymunedol, a chael gwared ar rwystrau rhag cyrchu gwasanaethau.

Ymgyrch Atgyfnerthu’r Hydref

Mae gennym bellach rywfaint o sicrwydd am yr ymgyrch i roi brechlynnau atgyfnerthu yn yr hydref. Cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu gyngor dros dro ar 30 Mehefin wrth inni symud i gam nesaf rhaglen frechu COVID-19. Mae hyn yn rhoi inni arweiniad yr ydym yn ei groesawu ar gyfer y cam nesaf o gyflwyno’r rhaglen. Mae cyngor dros dro’r Cyd-bwyllgor (agor mewn dolen newydd) yn argymell y dylai’r ymgyrch i roi brechlynnau atgyfnerthu yn yr hydref ddechrau ym mis Medi 2021. Lleihau unrhyw achosion pellach o COVID-19 yw nod yr ymgyrch, a sicrhau bod y rheini sydd fwyaf agored i niwed gan haint difrifol yn cael eu hamddiffyn cymaint ag sy’n bosibl, cyn i fisoedd y gaeaf gyrraedd.

Am fwy o wybodaeth ewch i Diweddariad wythnosol rhaglen frechu COVID-19 Llywodraeth Cymru: 6 Gorffennaf 2021 (agor mewn dolen newydd)

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,154 83.5%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,481 99.6% 3,206 91.8%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,285 99.9% 21,902 95.9%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,855 98.7% 24,301 92.8%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,683 95.7% 18,177 93.1%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

25,027 95.2% 24,487 93.1%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,706 87.9% 8,326 84.1%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,671 90.7% 21,083 88.3%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

38,797 87.0% 35,381 79.3%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,408 68.9% 13,040 67.0%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,879 80.0% 14,142 76.0%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

14,930 91.8% 13,225 81.3%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

69,055 44.9% 15,561 10.1%
45 - 49 oed 11,138 70.4% 6,546 41.4%
40 - 44 oed 10,363 68.2% 3,162 20.8%
35 - 39 oed 10,733 66.5% 1,932 11.6%
30 - 34 oed 10,762 63.3% 1,637 9.4%
25 - 29 oed 9,869 56.5% 1,027 5.9%
20 - 24 oed 11,295 59.9% 953 5.1%
15 - 19 oed 4,893 32.4% 303 2.0%
Cyfanswm: 279,807 72.2% 214,985 55.5%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - rhifyn 26

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: