Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 17 - Cyhoeddwyd 5 Mai 2021

Diweddariad brechu COVID - rhifyn 17

Croeso i rifyn 17 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Yr wythnos hon, bydd ein canolfannau yn brechu’r rhai sy’n weddill yn y grwpiau 40 i 49 oed ac maen nhw wedi dechrau gwahodd pobl 30 i 39 oed i gael eu brechlyn cyntaf.

Fe'ch gwahoddir i apwyntiad pan fydd yn eich tro chi trwy lythyr a/neu neges destun. Gwahoddir y rhai yng ngrŵp 10 i gael eu brechlyn COVID yn un o'n canolfannau brechu torfol (agor mewn dolen newydd). Yn amodol ar gyflenwad, ein nod yw cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bawb yn y 10 grŵp blaenoriaeth cyfredol erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Sut i gysylltu â ni os nad ydych wedi cael gwahoddiad:

Ar hyn o bryd, nid yw'r JCVI yn cynghori brechu plant sy'n gysylltiadau cartref. Ar hyn o bryd, nid ydynt hefyd yn cynghori brechu cysylltiadau cartref plant imiwnoataliedig.

Peidiwch cysylltu â’r bwrdd iechyd os ydych yn grŵp 10 a rhwng 18 a 29 oed i holi am apwyntiad brechu ar hyn o bryd. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.

Beichiogrwydd â’r brechlyn COVID-19

Ar 16 Ebrill 2021, cyhoeddodd y JCVI gyngor newydd ar frechu COVID-19 yn ystod beichiogrwydd. Gallwch ddarllen y canllawiau newydd yma (gov,uk, Saesneg yn unig, agor mewn dolen newydd).

Mae'r JCVI wedi cynghori y dylid cynnig brechlynnau COVID-19 i ferched beichiog ar yr un pryd â phobl o'r un oedran neu grŵp risg. Yn Unol Daleithiau America, mae tua 90,000 o ferched beichiog wedi cael eu brechu, yn bennaf gyda brechlynnau Pfizer a Moderna, ac ni nodwyd unrhyw bryderon diogelwch.

Mae tystiolaeth ar frechlynnau COVID-19 yn cael ei hadolygu'n barhaus gan Sefydliad Iechyd y Byd a'r cyrff rheoleiddio yn y DU, UDA, Canada ac Ewrop.

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a'r Gynaecolegwyr (RCOG) a Choleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) wedi cyhoeddi canllaw penderfyniadau a gwybodaeth arall (Saesneg yn unig, agor mewn dolen newydd) a allai fod yn ddefnyddiol i chi neu siaradwch â'ch bydwraig neu ymgynghorydd am y risgiau a'r buddion i helpu i lywio'ch penderfyniad.

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,048 79.3%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,431 98.2% 2,948 84.4%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,801 99.8% 20,525 84.2%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,402 99.4% 21,516 84.2%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,565 95.1% 17,244 88.4%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

24,945 94.9% 18,326 69.7%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,623 87.1% 5,991 60.5%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,558 90.3% 2,153 9.0%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

37,307 83.6% 2,137 4.8%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,272 68.2% 439 2.3%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,639 78.7% 421 2.3%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

14,080 86.5% 447 2.7%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

22,443 14.5 897 0.6%
Cyfanswm: 229,546 59.3% 95,092 24.6%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - rhifyn 17

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: