Os ydych yn aros am lawdriniaeth neu driniaeth ar hyn o bryd, gall paratoi'n effeithiol wneud gwahaniaeth sylweddol i'ch profiad o'r driniaeth a'ch adferiad.
Gall eich triniaeth gynlluniedig fod yn her i chi a'ch corff. Gall gwneud nifer bach o newidiadau olygu gwahaniaeth mawr i'r ffordd y byddwch yn ymateb i'r driniaeth ac yn gwella ar ei hôl.
Bydd paratoi yn eich helpu i:
Mae paratoi ar gyfer triniaeth yn golygu meddwl am eich trefn ddyddiol, eich gweithgareddau, eich patrymau bwyta, eich arferion a'ch ffordd o fyw, a newid rhai o'r rhain er mwyn gwella eich iechyd a'ch llesiant.
Mae'r tudalennau isod yn cynnwys gwybodaeth a chymorth ar ffactorau sy'n effeithio ar eich iechyd a'ch adferiad. Bydd y rhain yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich triniaeth, gan eich cynorthwyo i wella, cymryd rheolaeth a bod yn rhan o'ch gofal.