Neidio i'r prif gynnwy

Ychwanegu at Fywyd

Tra byddwch yn aros am driniaeth mae rhai camau pwysig y gallwch eu cymryd a fydd nid yn unig yn dylanwadu ar effeithiolrwydd eich triniaeth ond hefyd yn helpu eich gwellhad a'ch iechyd hirdymor. Mae'r GIG wedi datblygu’r wefan 'Ychwanegu at Fywyd' i ddefnyddwyr gwblhau asesiad iechyd. Gallwch gael mynediad i’r wefan ar ffôn clyfar, llechen, neu gyfrifiadur. 

Nid yw'n cymryd llawer o amser i gwblhau’r asesiad a bydd yn rhoi llawer o wybodaeth werthfawr iawn i chi, sydd wedi'i theilwra ar eich cyfer chi a'ch sefyllfa bresennol. Bydd yn eich cefnogi ac yn dangos y pethau y gallwch eu gwneud cyn i chi gael eich triniaeth i wneud yn siŵr eich bod mor iach ag y gallwch fod i gael y canlyniad gorau posibl. Rhoddir gwybodaeth glir am sut y gallwch gael gafael ar unrhyw gymorth y bydd ei angen arnoch i ddilyn y cyngor a gewch.

I gwblhau’r asesiad iechyd ewch i ychwaneguatfywyd.gig.cymru (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: