Mae imiwneiddio yn bwysig i blant oherwydd ei fod yn helpu i ddarparu imiwnedd cyn dod i gysylltiad â chlefydau a allai beryglu bywyd.
Os ydych yn gofalu am blant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref neu nad ydynt mewn addysg:
I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech i’ch plentyn dderbyn y brechlynnau sydd wedi’u hamserlennu, llenwch y ffurflen hon neu ffoniwch 0300 303 8322 er mwyn i aelod o dîm nyrsio imiwneiddio’r bwrdd iechyd gysylltu â chi.
Sesiynau brechu plentyndod galw heibio
Mae plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref neu ddim mewn addysg yn cael eu gwahodd i alw i mewn i Ganolfannau Brechu Torfol (MVCs) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dros yr haf i gael mynediad at frechiadau plentyndod a gynigir yn rheolaidd trwy dimau nyrsio ysgol.
Mae'r sesiynau galw heibio hyn hefyd yn agored i unrhyw fynychwyr ysgol yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro neu Ceredigion a allai fod wedi methu eu brechiadau.
Bydd sesiynau galw heibio i blant 5 i 17 oed yn cael eu cynnal rhwng 12pm a 6pm yn y lleoliadau canlynol:
Mae croeso hefyd i rieni sydd ag ymholiadau am unrhyw agwedd ar imiwneiddiadau eu plentyn alw i mewn am sgwrs anffurfiol.
Os na allwch ddod i un o'r sesiynau hyn a bod gennych unrhyw ymholiadau neu os ydych yn dymuno i'ch plentyn gael ei frechlynnau wedi'u hamserlennu, llenwch y ffurflen hon neu ffoniwch 0300 303 8322 er mwyn i aelod o dîm nyrsio imiwneiddio'r bwrdd iechyd gysylltu â chi.