Dyma atgoffa cleifion sut i gael gafael ar driniaeth gofal iechyd cymunedol dros Wyliau'r Banc.
Mae systemau mewn lle i sicrhau y gall cleifion ledled Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro gael gafael ar ofal meddygfeydd y tu allan i oriau, triniaeth ddeintyddol frys a gwasanaethau fferyllol.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi trefnu sesiynau deintyddol brys ar gyfer problemau deintyddol acíwt.
Rhoddir triniaeth drwy apwyntiad yn unig a dylai cleifion ffonio Galw Iechyd Cymru ar 111 neu cliciwch yma i fynd i Galw Iechyd Cymru (agor mewn dolen newydd) i gael gwybod sut i gael gafael ar y gwasanaethau. Dylai cleifion sy'n derbyn gofal deintyddol rheolaidd gysylltu â'u deintyddfa os bydd angen gofal brys arnynt ar ddiwrnodau nad ydynt yn wyliau'r banc.
Atgoffir cleifion y dylent wneud apwyntiadau am faterion arferol, fel presgripsiynau amlroddadwy a mân anhwylderau, cyn Gwyliau'r Banc.
Rhoddir gofal meddygol brys dros Wyliau'r Banc drwy'r gwasanaeth meddygfeydd y tu allan i oriau arferol. Os bydd angen i gleifion weld meddyg am fod ganddynt broblem feddygol frys neu ddifrifol na all aros hyd nes bod y feddygfa yn agor, dylent ffonio eu meddygfa leol i gael gwybod sut i gael mynediad i'r gwasanaeth y tu allan i oriau, neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 111.
Dylai cleifion ffonio 999 neu fynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys yr ysbyty lleol - dim ond am argyfyngau gwirioneddol.
Bydd Clinigau Iechyd Rhywiol yn cael eu cynnal yn ôl yr arfer yn ystod pythefnos y Nadolig heblaw am Noswyl Nadolig, Diwrnod Nadolig, Dydd San Steffan, Nos Calan a Dydd Calan.
Cliciwch yma am fanylion clinigau iechyd rhywiol (agor mewn dolen newydd)
Dylai cleifion gasglu presgripsiynau amlroddadwy cyn y gwyliau a sicrhau bod ganddynt ddigon o feddyginiaeth y gellir ei phrynu heb bresgripsiwn er mwyn trin cyflyrau fel annwyd, y ffliw, diffyg traul (indigestion) a phoenau arferol.
Gwiriwch amseroedd agor eich fferyllydd arferol cyn y gwyliau, edrychwch yn eich papur newydd lleol neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 111.