Mae'n cymryd amser i ddod i arfer â chymhorthion clyw:
Defnyddio ffôn – Wrth ddefnyddio eich cymorth clyw gyda ffôn bydd angen i chi ddal y derbynnydd tua 2.5 cm uwchben eich clust ac 1.5 cm o'ch clust. Fel arall, gallwch ddefnyddio'r swyddogaeth 'uchelseinydd' ar eich ffôn.
System Ddolen (Telecoil) – gellir ychwanegu hyn at eich cymorth clyw i'ch helpu i glywed mewn mannau cyhoeddus lle mae system Telecoil wedi'i gosod (e.e. banciau, swyddfeydd post, theatrau). Gallwch hefyd brynu ffonau sydd â'r swyddogaeth hon, a systemau dolen ar gyfer eich teledu.
Efallai y bydd y canlynol yn ddefnyddiol i chi hefyd:
Mae gan wefan C2Hear hefyd wybodaeth ddefnyddiol am gymhorthion clyw, ac mae'n cynnwys gwybodaeth am ail-diwbio, gosod cymhorthion clyw, sut i ddatrys problemau, a fideos a chyfnodolion defnyddiol eraill