Neidio i'r prif gynnwy

Problemau gyda chymhorthion clyw, a'r modd i'w datrys

O bryd i'w gilydd, gall cymorth clyw stopio gweithio. Dyma rai achosion, ynghyd ag atebion posibl y gallwch roi cynnig arnynt gartref:

Dim sain:

  • Mae'r batri'n farw – ceisiwch osod batri newydd.
  • Mae rhwystr yn y tiwb tenau – ceisiwch lanhau'r tiwb tenau â'r wifren lanhau.
  • Mae'r tiwb tenau wedi'i blygu/wasgu – rhowch gynnig ar osod tiwb tenau newydd.
  • Rhowch gynnig ar ddadsgriwio'r tiwb tenau a chwpanwch y cymorth clyw yn eich llaw; os yw'n chwibanu, gallai hyn awgrymu bod yna broblem gyda'r tiwb. Ceisiwch lanhau'r tiwb tenau neu osod un newydd yn ei le.

Mae cymhorthion clyw yn chwibanu o bryd i'w gilydd, a gall hyn gael ei achosi gan y canlynol:

  • Cwyr yn blocio eich clustiau – ceisiwch ddefnyddio olew olewydd i feddalu'r cwyr, ac ewch i weld eich meddyg teulu neu nyrs y practis os bydd arnoch angen rhagor o gyngor neu driniaeth.
  • Nid yw'r tiwb tenau yn y man cywir – ceisiwch ailfewnosod y tiwb.

Os na allwch ddatrys y broblem, cysylltwch â'ch adran awdioleg leol i drefnu apwyntiad.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: