Neidio i'r prif gynnwy

Gofal a chynnal a chadw cyffredinol

Mae'n bwysig glanhau eich cymorth clyw a newid y tiwb yn rheolaidd. Os bydd y tiwb yn cael ei flocio, ei blygu neu ei wasgu, gall ymddangos fel pe bai eich cymorth clyw wedi stopio gweithio. Dylech newid y tiwb tenau oddeutu bob 4-6 mis, neu pan fydd y tiwb wedi newid ei liw neu wedi cael ei wasgu.

Os yw eich cymorth clyw wedi torri neu os ydych yn teimlo nad ydych yn clywed cystal ag arfer, cysylltwch â'ch adran awdioleg leol i drefnu apwyntiad atgyweirio. Os yw'r cymorth clyw wedi mynd ar goll neu wedi'i ddifrodi'n sylweddol, codir tâl o £65 (fesul cymorth clyw) am hyn.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: