Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ailosod neu retube y tiwb tenau

Y modd i newid y tiwb tenau - cymorth clyw ffit agored

  1. Tynnwch y tiwb tenau o'r cymorth clyw trwy ddadsgriwio (yn wrthglocwedd) o'r atodyn penelin.
  2. Atodwch y tiwb tenau newydd trwy sgriwio'n glocwedd.

Cymorth clyw mowld clust – y modd i roi tiwb newydd yn eich mowld clust

  1. Tynnwch yr hen diwb allan o'r mowld a'i roi wrth eich ymyl.
  2. Gwthiwch ben taprog y tiwb newydd trwy ochr allanol y mowld.
  3. Tynnwch y tiwb trwy'r mowld nes bod y pen taprog wedi pasio drwodd yn gyfan gwbl, a'r pen arall yn gorwedd yn wastad yn erbyn ochr allanol y mowld.
  4. Torrwch y pen taprog i ffwrdd, a hynny mor agos â phosibl at y mowld.
  5. Gan ddefnyddio'r hen diwb yn ganllaw, daliwch ef yn erbyn y tiwb newydd a chyfateb cromlin y gornel, ac yna torrwch y tiwb i'r hyd cywir.
  6. Os nad yw'r hen diwb gennych mwyach, rhowch y mowld yn eich clust a'r cymorth clyw dros eich clust. Rhowch farc ar y tiwb lle maent yn cwrdd. Trimiwch y tiwb ychydig yn uwch na'r fan yr ydych wedi ei marcio.
  7. Gwasgwch ben y tiwb a'i ffitio ar ben bachyn y cymorth clyw.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: