Neidio i'r prif gynnwy

Y modd i lanhau eich cymorth clyw

Cymorth clyw ffit agored

Sychwch y gromen clust yn lân â chlwtyn llaith neu gadach gwlyb.

I lanhau'r tiwb tenau, dilynwch y camau isod:

  1. Ewch ati i ddadsgriwio'r tiwb tenau o'r cymorth clyw, gan sicrhau bod yr atodyn penelin yn aros ar y cymorth clyw.
  2. Bwydwch y wifren lanhau trwy'r tiwb tenau, o ben yr atodyn i'r gromen clust, a'i thynnu'n dyner trwy'r giard cwyr ar y pen – efallai y bydd yn ofynnol i chi wiglo'r wifren i'w chael trwy'r giard cwyr.
  3. Ailgysylltwch y tiwb tenau â'r cymorth clyw trwy ei sgriwio'n ôl i'w le.

 

Cymorth clyw mowld clust

Sychwch y mowld clust yn lân â chlwtyn llaith neu gadach gwlyb.

I'w lanhau'n drylwyr, dilynwch y camau isod:

  1. Tynnwch y mowld clust o'r cymorth clyw.
  2. Rhowch y mowld clust mewn powlen o ddŵr sebonllyd cynnes. Gadewch i'r mowld socian yn y dŵr am ychydig funudau.
  3. Ar ôl iddo socian, rinsiwch y mowld clust yn drylwyr o dan ddŵr rhedegog.
  4. Sychwch y mowld clust a'r tiwb; efallai y bydd yn ofynnol ysgwyd peth dŵr o'r tiwb neu gallwch ei adael i sychu dros nos.
  5. Ar ôl iddo sychu, ailgysylltwch y mowld clust â'r cymorth clyw.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: