Neidio i'r prif gynnwy
Anna Lewis - Aelod Annibynnol (Cymunedol)
Anna Lewis

Aelod Annibynol - Cymunedol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267 235151

Anna.lewis3@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Aelod Annibynol - Cymunedol

Fy rôl i yw helpu arweinwyr bwrdd, uwch reolwyr a thimau rheng flaen i ddarganfod ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau sefydliadol cymhleth mewn ffyrdd cynaliadwy, cynhwysol a dynol, yn bennaf yn y gofal iechyd a'r trydydd sector. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i mi dynnu ar ystod eang o arbenigeddau sydd gennyf, o hyfforddi gweithredol, gweithio mewn tîm i fethodolegau gwella ansawdd. Trwy fy ymarfer ymgynghori a hyfforddi, rwy'n gweithio'n rheolaidd gyda sefydliadau cenedlaethol a lleol, yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr anweithredol. Gydag 20 mlynedd o brofiad yn darparu ac ailgynllunio gwasanaethau mewn rolau arwain uwch y GIG, deallaf realiti’r gwaith ar lefelau gweithredol a strategol.

Rwyf hefyd yn fyfyriwr ymchwil rhan amser ym Mhrifysgol Abertawe, yn archwilio'r berthynas rhwng diogelwch seicolegol, dysgu a gwella ansawdd. Rwy'n cyflwyno addysgu ôl-raddedig mewn gwella ansawdd a diogelwch cleifion.

Mae gen i ddiddordeb hirsefydlog mewn dinasyddiaeth, datblygu cymunedol a chydgynhyrchu, yn enwedig yng nghyd-destun iechyd a lles. Rwy'n gweithio ar sail pro bono gyda sefydliadau cymunedol ac rwy'n ymddiriedolwr gyda Chredydau Amser Tempo.

Mae fy nheulu a minnau'n byw yn Sir Gaerfyrddin, ynghyd â'n tair cath, pum iâr a chwch gwenyn.

Rwy’n aelod o’r Pwyllgorau / Is-bwyllgorau canlynol:

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: