Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Pobl, Datblygu Sefydliadol a Diwylliant (PODCC)

Pwrpas y Pwyllgor Pobl, Datblygu Sefydliadol a Diwylliant ydy:

  • Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ar gydymffurfio a deddfwriaeth, arweiniad ac arfer gorau o amgylch y gweithlu a’r agenda Datblygu Sefydliadol, gan ddysgu o waith a wneir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDD) yn cael ei gydnabod fel arweinydd yn y maes hwn.
  • Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ar weithredu Strategaeth Gweithlu a Datblygu Sefydliadol y BIP, a Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru gyfan, gan sicrhau bod y rhain yn gyson a chyfeiriad strategol cyffredinol y Bwrdd a chydag unrhyw ofynion a safonau a osodir ar gyfer cyrff y GIG yn Gymru.
  • Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ar allu’r sefydliad i greu a rheoli trefniadau diwylliant sefydliadol cryf, perfformiad uchel.
  • Derbyn sicrwydd ynghylch cyflawni yn erbyn yr holl Amcanion Cynllunio perthnasol sy’n dod o dan Amcanion Strategol 1 (Rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn), 2 (Cydweithio hyd eithaf ein gallu i roi o’n gorau) a 3 (Ymdrechu I ddarparu a datblygu gwasanaethau rhagorol) (gweler Atodiad 1), yn unol ag amserlenni a gymeradwywyd gan y Bwrdd, fel y nodir yng Nghynllun Blynyddol BIPHDD.
  • Rhoi sicrwydd bod y sefydliad yn cyflawni ei swyddogaethau ac yn cyflawni ei gyfrifoldebau mewn perthynas â’r gweithgaredd ymchwil ac arloesi a wneir o fewn y Bwrdd Iechyd.
  • Ceisio sicrwydd ar reoli prif risgiau o fewn Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd (BAF) a’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol (CRR) a ddyrennir i’r Pwyllgor a rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod risgiau’n cael eu rheoli’n effeithiol ac adrodd am unrhyw feysydd sy’n peri pryder sylweddol e.e. lle mae goddefgarwch risg yn cael ei hepgor, diffyg gweithredu amserol.
  • Argymell derbyn risgiau na ellir eu dwyn o fewn archwaeth / goddefgarwch risg  y BIP trwy Adroddiad Diweddaru’r Pwyllgor.
  • Derbyn sicrwydd trwy Adroddiadau Diweddaru Is-bwyllgorau ac adroddiadau grwpiau reoli eraill bod risgiau sy’n ymwneud â’u meysydd yn cael eu rheoli’n effeithiol ar draws holl weithgareddau’r Bwrdd Iechyd (gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau a gynhelir a thrwy bartneriaethau a Chydbwyllgorau fel sy’n briodol.)

Mae manylion swyddogaeth lawn y Pobl, Datblygu Sefydliadol a Diwylliant i’w gweld yn y Cylch Gorchwyl Pobl, Datblygu Sefydliadol a Diwylliant (PDF, 893KB, agor mewn dolen newydd)

Cliciwch yma i weld cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Pobl, Datblygu Sefydliadol a Diwylliant (agor mewn dolen newydd)

Cliciwch isod i gael mynediad at papurau'r Pobl, Datblygu Sefydliadol a Diwylliant. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.

2023

2022

2021

 

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: