Y diben y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad yw:
- Craffu, asesu a cheisio sicrwydd mewn perthynas ag effaith y gwasanaethau a ddarperir gan y Bwrdd ar gleifion, ansawdd a chanlyniadau iechyd.
- Darparu cyngor amserol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i'r Bwrdd i'w gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau a chyflawni ei gyfrifoldebau o ran ansawdd a diogelwch gofal iechyd a ddarperir ac a sicrheir gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol.
- Darparu sicrwydd bod gan y Bwrdd strategaeth a chynllun(iau) cyflawni effeithiol ar gyfer gwella ansawdd a diogelwch y gofal y mae cleifion yn ei dderbyn, gan gomisiynu asesiadau effaith ansawdd a diogelwch lle bo'n briodol.
- Sicrhau datblygiad a chyflawniad y strategaethau galluogi o fewn cwmpas y Pwyllgor, wedi'u halinio ag amcanion sefydliadol a'r Cynllun Blynyddol/Cynllun Tymor Canolig Integredig i'w gymeradwyo gan y Bwrdd.
- Darparu sicrwydd bod gan y sefydliad, ar bob lefel, y trefniadau a'r strategaeth lywodraethu cywir ar waith i sicrhau bod y gofal a gynlluniwyd neu a ddarparwyd ar draws lled swyddogaethau'r sefydliad, yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn, yn effeithiol yn glinigol ac yn bodloni safonau y cytunwyd arnynt.
- Derbyn sicrwydd ynghylch cyflawniad yn erbyn y meysydd ymyrraeth dargedig, a'r elfennau gofynnol ar gyfer dad-ddwysáu, sy'n cyd-fynd â'r Pwyllgor (gweler Atodiad 1 am fanylion ychwanegol):
Mae manylion swyddogaeth lawn y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad i’w gweld yn y Cylch Gorchwyl Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad (PDF, 448KB, agor mewn dolen newydd)
Cliciwch yma i weld cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Answadd, Diogelwch a Phrofiad cymeradwy (agor mewn dolen newydd)
Cliciwch isod i gael mynediad at papurau'r Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.
2026
2025
2024
2023
2022
2021
2020