Neidio i'r prif gynnwy
Iwan Thomas - Aelod Annibynnol - Trydydd Sector
Iwan Thomas

Aelod Annibynnol - Trydydd Sector

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267 235151

iwan.thomas@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Aelod Annibynnol - Trydydd Sector

Ar hyn o bryd fi yw Prif Swyddog Gweithredol PLANED, sefydliad datblygu cymunedol sydd wedi bod yn weithredol yn Sir Benfro ers dros 30 mlynedd yn gweithio gyda phartneriaid a phobl yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol i gefnogi cymunedau.

Cyn ymuno â PLANED, roeddwn yn Rheolwr Rhaglen Ranbarthol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru am bum mlynedd yn arwain ar eu portffolio Sgiliau a Chyflogaeth.

Yn ogystal â Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes, bûm yn ffodus fy mod wedi ennill dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ar draws y trydydd sector a’r sector cyhoeddus ledled Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â llawer o bobl, sefydliadau a phrosiectau gwych.

Ymhlith y swyddi gwirfoddol diweddar y cefais y fraint o'u dal, mae cynnwys bod yn Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Gwyddoniaeth Gogledd Cymru; yn Ymddiriedolwr yn Theatr Clwyd; ac Aelod o Fwrdd Cynghori Consortia Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae fy rolau gwirfoddol yn cynnwys bod yn Is-gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr yng Ngholeg Sir Benfro; un o Gyfarwyddwyr sefydlu’r DMO ‘Visit Pembrokeshire’ sydd newydd ei sefydlu; a chynrychioli PLANED ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yng Nghymru.

Rwy’n angerddol am gefnogi pobl a syniadau newydd, i wneud newidiadau cadarnhaol a chynaliadwy i gymunedau, sefydliadau, a phrosiectau mewn partneriaeth, lle mae arloesi a thryloywder yn ffactorau allweddol.

Rwy’n aelod o’r Pwyllgorau / Is-bwyllgorau canlynol:

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: