Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Strategol, Datblygu a Chyflenwi Gweithredol (SDODC)

Pwrpas y Pwyllgor Strategol, Datblygu a Chyflenwi Gweithredol yw:

  • Derbyn sicrwydd ar gyflawni yn erbyn yr holl Amcanion Cynllunio perthnasol sy’n dod yn bennaf o dan Amcanion Strategol 4 (Yr iechyd a’r lles gorau i’n hunigolion, teuluoedd a’n cymunedau) a 5 (Gofal diogel cynaliadwy, hygyrch a charedig), yn unol â gofal gyda’r amserlenni a gymeradwywyd gan y Bwrdd, fel y nodir yng Nghynllun Blynyddol BIPHDD.
  • Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod y cylch cynllunio yn cael ei ddatblygu a’i weithredu yn unol â gofynion, arweiniad ac amserlenni Bwrdd iechyd Brifysgol a Llywodraeth Cymru.
  • Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, bod cynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cyd-fynd a  chynlluniau partneriaeth a ddatblygwyd gydag Awdurdodau Lleol, Prifysgolion, Cydweithfeydd, Cynghreiriau a phartneriaid allweddol eraill, fel y Grŵp Trawsnewid sy’n ffurfio rhan o Gydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH).
  • Rhoi cefnogaeth i’r Bwrdd yn ei rôl o graffu ar berfformiad a sicrwydd ar berfformiad a chyflawniad cyffredinol yn erbyn cynlluniau ac amcanion y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys cyflawni targedau allweddol, rhoi rhybudd cynnar ar  faterion perfformiad posibl a gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu i wella perfformiad y sefydliad yn barhaus ac, yn ôl yr angen, canolbwyntio’n fanwl ar faterion penodol lle mae perfformiad yn dangos dirywiad neu lle mae materion sy’n peri pryder.
  • Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod y data yr asesir perfformiad arno yn ddibynadwy ac o ansawdd uchel a bod unrhyw faterion sy’n ymwneud a chywirdeb data yn cael sylw.
  • Ceisio sicrwydd ar reoli prif risgiau o fewn Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd (BAF) a’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol (CRR) a ddyrennir i’r Pwyllgor a rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod risgiau’n cael eu rheoli’n effeithiol ac adrodd am unrhyw feysydd sy’n peri pryder sylweddol e.e. lle mae goddefgarwch risg yn cael ei hepgor, diffyg gweithredu amserol.
  • Argymell derbyn risgiau na ellir eu dwyn o fewn archwaeth / goddefgarwch risg  y BIP trwy Adroddiad Diweddaru’r Pwyllgor.

Derbyn sicrwydd trwy Adroddiadau Diweddaru Is-bwyllgorau ac adroddiadau grwpiau reoli eraill bod risgiau sy’n ymwneud â’u meysydd yn cael eu rheoli’n effeithiol ar draws holl weithgareddau’r Bwrdd Iechyd (gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau a gynhelir a thrwy bartneriaethau a Chydbwyllgorau fel sy’n briodol.)

Mae manylion swyddogaeth lawn y Pwyllgor Strategol, Datblygu a Chyflenwi Gweithredol yn y Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Strategol, Datblygu a Chyflenwi Gweithredol (PDF,1MB, agor mewn dolen newydd) 

Cliciwch yma i weld cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Strategol, Datblygu a Chyflenwi Gweithredol cymerdwy (opens in new tab)

Cliciwch isod i gael mynediad at papurau'r Pwyllgor Strategol, Datblygu a Chyflewni Gweithredol. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.

2023

2022

2021:

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: