Aelod Annibynnol - Technoleg Gwybodaeth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB
01267 235151
Aelod Annibynnol - Technoleg Gwybodaeth
Rwyf wedi gweithio yn y diwydiant technoleg gwybodaeth (TGCh) ers 42 mlynedd, mae 28 o'r rhain wedi bod yn y GIG yng Nghymru.
Cyn ymddeol o gyflogaeth amser llawn treuliais wyth mlynedd yn gweithio i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru mewn amryw o rolau yn enwedig mewn meysydd sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd y systemau sy'n cael eu datblygu neu eu prynu i'w defnyddio yn y GIG yng Cymru. Mae gen i hefyd gryn dipyn o brofiad gyda rheoli gwasanaethau TGCh gweithredol a chyfrannu at ddatblygu strategaethau TGCh GIG Cymru.
Mae fy niddordeb mewn cyfrifiaduron yn ymestyn yn ôl i'm dyddiau ysgol pan oeddwn yn un o'r cyntaf yn y DU i astudio gwyddoniaeth gyfrifiadurol ar Safon Uwch.
Yn fy mywyd personol, rwy'n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu yn enwedig fy wyrion. Rwyf hefyd yn ffotograffydd amatur brwd ac yn trefnu tîm o wirfoddolwyr ar gyfer y system sain yn yr eglwys rwy'n ei mynychu
Rwy’n aelod o’r Pwyllgorau / Is-bwyllgorau canlynol: