Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio nyrsio yn Ysbyty'r Tywysog Philip

Ymunwch â chydweithwyr mewn gwasanaeth dynamig a blaengar; credwn mai Ysbyty Tywysog Philip yw'r lle i ddatblygu gyrfa ysbrydoledig mewn amgylchedd gwaith cyfeillgar, cefnogol a llawn parch, a gefnogir gan set gyffredinol o werthoedd. 

Trwy ymuno â'n tîm nyrsio, byddwch yn ymuno â thîm ysbyty acíwt ymroddedig ac arloesol, sy'n ymdrechu'n barhaus i ddatblygu'r gwasanaeth, yn ogystal â phrofiad y claf. Rydym wedi cael ein cydnabod yn genedlaethol am y gwaith yr ydym wedi ei wneud, ac wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd diwethaf am ddatblygu gwasanaethau ac arweinyddiaeth nyrsys. 

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus sy'n bodloni gofynion unigolion, yn ogystal â'r gwasanaeth. Rydym yn cynnig rhwydweithiau cymorth sefydledig ar gyfer tiwtoriaeth a mentoriaeth, a byddwch yn cael cynlluniau datblygiad proffesiynol i sicrhau eich bod yn cael y cyfleoedd gorau posibl yn ystod eich gyrfa gyda ni.

Mae Ysbyty Tywysog Philip wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ei weithwyr i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn gweithio'n barhaus i ddatblygu ffyrdd o gefnogi mwy o hyblygrwydd, gan gynnig patrymau sifft a ffyrdd gwahanol o weithio. Mae gweithio yn Sir Gaerfyrddin yn cynnig cyfleoedd gwych o ran ffordd o fyw, gyda gwahanol weithgareddau awyr agored ar garreg ein drws, gan gynnwys syrffio, beicio mynydd, pysgota a heicio. Mae prisiau tai rhesymol ac ysgolion gwladol rhagorol yn cyfrannu at gostau byw isel a bywyd o ansawdd uchel. Mae yna hefyd gyfleusterau rheilffordd da i Gaerdydd a Llundain.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: