Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio nyrsio

Mandy Rayani - Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Rwy'n falch iawn o fod yn Gyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ar gyfer bwrdd iechyd lle bu ein cleifion yn ddiweddar yn graddio eu bodlonrwydd â'u gofal nyrsio yn 9.4 allan o 10!

Fodd bynnag, ni fyddwn yn gorffwys tan ein bod hyd yn oed yn agosach at y 10 perffaith – mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni gael y nyrsys gorau, lle mae eu lles yn cael ei gofalu amdano ac sy’n gallu cael mynediad at gyfleoedd arbennig ar gyfer datblygiad personol a lle meant yn gallu mwynhau gyrfa amrywiol.

Yn Hywel Dda, mae hyn i gyd ar gael i chi – felly pam edrych ym mhellach am eich dewis gyrfaol nesaf? Dewch i ymuno â ni a fod yn rhan o’n taith parhaus i sicrhau’r gofal gorau, bob tro, ar gyfer ein cleifion a’n cleientiaid.

Beth allai fod yn well na chael gyrfa wych tra eich bod chi'n gweithio ac yn byw yn un o'r ardaloedd mwyaf hyfryd ym Mhrydain?

Rwy’n edrych ymlaen at eich croesawu i Hywel Dda yn fuan iawn!

Mandy Rayani - Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf

Astudiaeth Achos

Gwyliwch Stori Jane yma

Gwyliwch Stori Colin Hopcroft yma

Dyma stori Colin, Prif Nyrs yn ein gwasanaeth orthopaedeg. Symudodd Colin i fyw a gweithio yma yng ngorllewin Cymru ar ôl hyfforddi yng ngorllewin canolbarth Lloegr.

Darllenwch stori Rebecca Jones, Nyrs Anableddau Dysgu (agor mewn dolen newydd)

Helô, Rebecca Jones ydw i, ac rwy'n Nyrs Anableddau Dysgu Band 6 yn Uned Asesu a Thrin Tŷ Tudor yng Nghaerfyrddin.

Ers yn ferch fach, rydw i bob amser wedi eisiau helpu pobl anghenus, a gofalu amdanynt. Cefais fy magu gyda gefell fy mam, a oedd â Syndrom Down. Daeth i fyw gyda'r teulu pan oeddwn yn 13 oed, ynghyd â mam-gu, felly mae gofalu wedi bod yn rhan fawr o'm mywyd personol. Darllenwch fwy am Rebecca (agor mewn dolen newydd)

Gwyliwch Stori Claire yma

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: