Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio nyrsio yn Ysbyty Llwynhelyg

Mae Ysbyty Llwynhelyg yn darparu gofal iechyd acíwt i boblogaeth Sir Benfro yng ngorllewin Cymru. Mae yma ardaloedd hyfryd o gefn gwlad, trefi bach, safleoedd o ddiddordeb hanesyddol, traethau prydferth a golygfeydd a llwybrau cerdded heb eu hail ar hyd yr arfordir. Does unman tebyg i’w gael! Rydym yn cynnig y cydbwysedd delfrydol rhwng bywyd a gwaith.

Caiff ein hymrwymiad i ddatblygu ein tîm nyrsio ei adlewyrchu gan y ffaith bod nifer o nyrsys wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau lleol a chenedlaethol ac wedi llwyddo i’w hennill. Mae’r gwobrau hynny’n amrywio o wobr ‘tîm y mis’ i wobrau unigol, sy’n cynnwys Gwobr y Comisiynydd Pobl Hŷn yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn 2017 y Coleg Nyrsio Brenhinol. Rydym yn falch bod gennym dîm mor gryf o nyrsys sy’n barod i rannu eu gwybodaeth ag eraill ac i gynorthwyo pob un o’r gweithwyr gofal iechyd yn eu rolau amrywiol. Mae’r cyfleoedd i nyrsys yn Ysbyty Llwynhelyg yn eang iawn. Rydym wedi ymrwymo i ofalu am ein staff a’n cleifion, gan sicrhau eu bod i gyd yn cael y gofal y mae arnynt ei angen. Boed yn rhywrai sy’n dechrau ar yrfa ym maes gofal iechyd neu’n rhywrai sy’n uwch-ymarferwyr nyrsio... mae yma le i bawb. Gallwn gynorthwyo gweithwyr cymorth gofal iechyd i ddatblygu’n nyrsys cofrestredig (os dyna yw eu dymuniad), myfyrwyr nyrsio, nyrsys sydd newydd gofrestru a’r sawl sydd â phrofiad mewn ystod o arbenigeddau.

Gallwch ddisgwyl cael arfarniad, o leiaf bob blwyddyn, lle byddwn yn trafod eich anghenion dysgu a’ch dyheadau o ran gyrfa. Byddwn yn sicrhau ein bod yn eich cynorthwyo i gyflawni’r amcanion dysgu a nodwyd gennych, gan eich galluogi i wireddu eich potensial. Gellir gwneud hynny drwy addysg ffurfiol ac anffurfiol a ddarperir yn allanol ac yn fewnol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Gallwn gynorthwyo nyrsys sy’n dychwelyd i ymarfer (gan gydweithio’n agos â Phrifysgol Abertawe) a nyrsys sy’n dychwelyd i ofal acíwt. Rydym yn cydnabod bod dychwelyd i ofal acíwt ar ôl cael seibiant yn gallu bod yn frawychus ac yn anodd. Bydd ein cwrs ‘dychwelyd i ofal acíwt’, ynghyd â mentoriaid da sy’n deall, yn helpu i gynorthwyo’r sawl sydd am ddychwelyd i leoliad gofal acíwt, drwy ddull strwythuredig o feithrin hyder ac ailgyfeirio.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: