Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio nyrsio yn Ysbyty Glangwili

Rydym eisiau recriwtio tîm gofal iechyd amrywiol i gefnogi’r gwasanaethau rydym wedi’u sefydlu a’n cymuned. Mae gweithio yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn brofiad cyffrous ac yn un sy’n rhoi llawer o foddhad wrth i ni anelu’n gyson at ddarparu a datblygu gwasanaethau rhagorol i gefnogi ein cleifion, eu teuluoedd a’n tîm nyrsio.

Rydym yn gallu cefnogi nyrsys newydd gymhwyso a’r rhai sydd â phrofiad mewn arbenigeddau amrywiol. Gallwn gynnig patrymau shifft a phrofiadau clinigol amrywiol, yn ogystal â heriau newydd, ac rydym yn awyddus i gefnogi datblygiad pawb, gan ddarparu cynllun datblygu personol i sicrhau eich bod yn gwireddu eich llawn botensial.

Mae’r cyfleoedd yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn ddiddiwedd ac rydym bob amser yn gosod y cleifion wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud, gan gydweithio i fod y gorau y gallwn fod. Dros y blynyddoedd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ennill gwobrau nyrsio niferus ac rydym yn parhau i geisio cyflawniadau parhaus a phellach trwy gefnogi datblygiad ein tîm nyrsio. Mae’r llwyddiant hwn i’w weld yn glir yn y tîm nyrsio yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Trwy ymuno â’n timau byddwch yn ymuno â chymuned o nyrsys cefnogol ac ymroddedig sy’n gweithio hyd eithaf ein gallu mewn Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n newid o hyd. Ein blaenoriaeth fwyaf yw ein cleifion a’u teuluoedd, a thrwy gydweithio fel rhan allweddol o’r tîm amlddisgyblaethol, gallwn wneud gwahaniaeth i’w bywydau trwy drin, cefnogi a hybu iechyd y gymuned wledig hon.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: