Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio nyrsio yn Ysbyty Bronglais

Mae gweithio yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn gyffrous, yn werth chweil, ac yn rhoi boddhad proffesiynol. Rydym wedi ymrwymo i fod yn 'gyflogwr o ddewis', gan gynnig buddiannau gwych i'n staff, gofalu am eu lles, a darparu mynediad at addysg, hyfforddiant, datblygiad gyrfa a chymorth o ansawdd uchel, er mwyn eu helpu i ddarparu'r gofal iechyd gorau yng Nghymru i'w cleifion, a hynny mewn modd personol. Fel cyflogwr mawr, mae gennym rôl hanfodol o ran galluogi staff i sicrhau cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. Mae ein Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn cynnig cymorth un-i-un cynhwysfawr, sy'n canolbwyntio ar helpu staff i gadw'n iach. Pa un a ydych newydd gymhwyso, yn dychwelyd o seibiant gyrfa, neu'n chwilio am her newydd, mae gennym gyfleoedd eithriadol i ddatblygu eich gyrfa ym maes gofal iechyd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: