P’un a ydych am rentu neu brynu eiddo yn yr ardal, mae yna nifer o werthwyr tai ac asiantaethau gosod tai ar gael, yn dibynnu ar le yr ydych yn dewis byw.
Os oes arnoch angen cymorth ychwanegol, cysylltwch â'n tîm recriwtio a fydd yn gallu rhannu canllawiau llety neu eich cyfeirio at restrau lleol o werthwyr tai ac asiantaethau gosod.
Mae'n bwysig cofrestru gyda meddyg teulu a deintydd ar ôl i chi gyrraedd. Mae hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol o wasanaethau fferyllol ac optegwyr pe byddai angen i chi eu defnyddio.
Cliciwch ar y dolenni i ddod o hyd i'ch darparwyr agosaf:
Os ydych yn symud i’r ardal gyda’ch teulu a bod arnoch angen cymorth i ddod o hyd i ofal plant, ewch i wefan Cyngor Sir Penfro. Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer cynllun y llywodraeth (yn agor mewn tab newydd)
Mae gan Sir Benfro amrywiaeth o ddewisiadau cludiant ar gael, ac mae yna fysiau yn cysylltu'r prif drefi i gyd.
Mae gan Hwlffordd a Doc Penfro orsafoedd trên lle y gallwch deithio cyn belled â Llundain.
Cliciwch ar y dolenni isod i weld amserlenni'r bysiau a’r trenau.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am fysiau Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am drenau Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd)
Gorsaf Drenau Hwlffordd, Heol Cartlett, Hwlffordd SA61 1TY
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am drenau Doc Penfro (yn agor mewn tab newydd)
Gorsaf Doc Penfro, Diamond Street, Doc Penfro, SA72 6HN
Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Mae gan Ysbyty Llwynhelyg gyfleusterau aml-ffydd ar gyfer addoli, a hynny'n ychwanegol at y Gaplaniaeth a’r gwasanaethau ysbrydol a gynigir gan y staff. Os hoffech chwilio am fan addoli penodol, mae rhestr i’w chael yma: Gwybodaeth am ragor o Gapeli ac Eglwysi (yn agor mewn tab newydd)