Gofal brys
Dylech ffonio practis lleol sy'n cwmpasu'r cyfeiriad lle'r ydych chi'n aros. Peidiwch ag ymweld â'r feddygfa yn bersonol; mae gan bractis fesurau llym ar waith. Os yw'r practis o'r farn bod angen triniaeth wyneb yn wyneb arnoch chi, bydd y practis yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud. Nid yw meddygfeydd yn gallu cynnig gofal nad yw'n hanfodol.
Gofal di-frys
Cysylltwch â'ch meddygfa eich hun i dderbyn cyngor dros y ffôn neu ar-lein.
I gael mwy o wybodaeth am ein meddygfeydd, cliciwch yma
I gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaeth y tu allan i oriau meddyg teulu cliciwch yma