Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg teulu tu allan i oriau

Mae'r gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau ar gael i gleifion ag anghenion meddygol brys na allant aros nes bod eu meddygfa eu hunain ar agor. Mae ar gael rhwng 6.30pm - 8.00am o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 24 awr y dydd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc.

Os ydych chi'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro gallwch ddeialu 111 am ddim i gael mynediad at y gwasanaeth y tu allan i oriau arferol.

Sylwch ein bod ar hyn o bryd yn profi prinder meddygon teulu i gwmpasu rhai o'n sifftiau y tu allan i oriau. Gallwch barhau i gael gafael ar gymorth fel arfer trwy ffonio 111 a byddwch yn cael eich cynghori ar beth i'w wneud.

Dim ond os oes gennych argyfwng meddygol dilys y dylech ffonio 999 neu ymweld â'r adran Damweiniau ac Achosion Brys yn eich ysbytai lleol.

Os oes gyda chi fynediad at gyfrifiadur, ffôn clyfar neu lechen y gallwch ddefnyddio InterpreterNow 7 diwrnod yr wythnos, rhwng 8am a hanner nos gan glicio InterpreterNow (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: