Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

Nod y cwestiynau a'r atebion hyn yw i helpu cleifion a'u teuluoedd, neu eu cynrychiolwyr, i ddysgu mwy am ein hadolygiad o heintiau COVID-19 a gafodd eu dal yn yr ysbyty neu leoliadau gofal iechyd eraill.

Beth mae COVID-19 Nosocomiaidd yn ei olygu?

Yn yr achos hwn, ystyr "COVID-19 Nosocomiaidd" yw heintiau COVID-19 a ddaliwyd mewn ysbyty neu leoliad gofal iechyd arall.

Haint neu heintiau a ddelir yn ystod y broses o dderbyn gofal iechyd, pan nad oedd yr haint hwnnw'n bresennol pan dderbyniwyd y person i'r ysbyty neu’r lleoliad gofal iechyd, yw heintiau nosocomiaidd. Enw arall arnynt yw "heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd". Gallant ddigwydd mewn gwahanol rannau o ofal iechyd, megis mewn ysbytai, cyfleusterau gofal hirdymor, a lleoliadau triniaeth ddydd. Gall yr haint ymddangos hefyd ar ôl i’r claf gael ei ryddhau o leoliad gofal iechyd, ond fe'i priodolir i'r amser yr oedd yr unigolyn mewn cysylltiad â'r lleoliad gofal iechyd.

 

Sut ydych chi'n penderfynu a gafodd haint COVID-19 ei ddal mewn lleoliad gofal iechyd?

Mae'r GIG yn defnyddio diffiniadau sefydledig cenedlaethol (ar lefel y DU), a gymeradwyir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r diffiniadau hyn yn nodi pa mor debygol yw hi bod haint wedi’i ddal mewn lleoliad gofal iechyd yn ôl nifer y diwrnodau ar ôl i’r claf gael ei dderbyn i'r ysbyty/lleoliad gofal iechyd a phryd y cadarnhawyd prawf positif am COVID-19. Yn gyffredinol, dywedir bod gan berson COVID-19 nosocomiaidd tebygol os yw'n cael prawf positif am COVID-19 ar ôl 8 diwrnod o dderbyn gofal. Fodd bynnag, nid yw hon yn rheol bendant a bydd adegau pan fydd angen i sefydliadau ystyried y tebygolrwydd bod haint wedi’i drosglwyddo ar ôl rhwng 3 a 7 diwrnod, sef achos nosocomiaidd amhendant. Mae hyn o ganlyniad i gyfnod magu COVID-19 a ffactorau risg eraill, megis cysylltiad â'r feirws.

 

Beth yw Gweithio i Wella?

Dogfen ganllaw yw Gweithio i Wella sy'n disgrifio sut y dylai darparwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ymdrin â 'phryderon' yn seiliedig ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 ("y Rheoliadau”).

Gweithio i Wella yw'r ddogfen ganllaw a luniwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu cyrff iechyd yng Nghymru i ddehongli gofynion cyfreithiol y Rheoliadau a sut i roi'r Rheoliadau hyn ar waith wrth ddelio â phryder. Mae Gweithio i Wella yn cynnwys canllawiau ar ymchwilio i gwynion a digwyddiadau diogelwch cleifion, sydd ychydig yn wahanol.

 

Beth yw 'Pryder’?

Defnyddir y term 'pryder' i olygu unrhyw gŵyn, hawliad neu ddigwyddiad diogelwch cleifion (ynghylch triniaeth neu wasanaethau'r GIG).

 

Beth yw digwyddiad diogelwch cleifion?

Digwyddiad anfwriadol neu annisgwyl yw digwyddiad diogelwch cleifion, a arweiniodd naill ai at niwed neu a allai fod wedi niweidio un neu ragor o gleifion. 

Nid oes angen i niwed fod wedi digwydd er mwyn adrodd am ddigwyddiad. Yn gyffredinol, mae digwyddiadau diogelwch cleifion yn ddigwyddiadau a adroddir yn fewnol gan staff sy'n gweithio yn sefydliadau'r GIG. 

Ystyrir bod pob achos o COVID-19 nosocomiaidd yn GIG Cymru yn ddigwyddiad diogelwch cleifion.

 

A all digwyddiad diogelwch cleifion fod yn gŵyn hefyd?

Gall. Yn gyffredinol, adroddir am ddigwyddiad diogelwch cleifion gan staff o fewn y sefydliad. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y claf, ei deulu neu ei gynrychiolydd yn dewis cwyno neu wneud hawliad am yr un digwyddiad. Mae'n ofynnol i gyrff iechyd gydgysylltu'r holl brosesau pryderon, o’r gorffennol neu'r presennol, ac asesu a oes angen ymchwilio ymhellach. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gweithio gyda'r Crwner pan fo hynny'n briodol. Dylai cyrff iechyd weithio gydag achwynwyr (person neu bobl a gododd y gŵyn) pan fo pryderon heb eu datrys, er mwyn sicrhau bod eu dymuniadau a'u safbwyntiau'n cael eu hystyried yn ystod unrhyw ymchwiliad.

Fodd bynnag, nid oes angen i unigolion wneud cwyn ffurfiol oni bai eu bod yn dymuno gwneud hynny; mae'r broses ymchwilio yn gosod yr un gofyniad ar gyrff iechyd i ymateb i gleifion a theuluoedd.

 

Beth yw Digwyddiadau Adroddadwy yn Genedlaethol?

Ystyrir bod rhai digwyddiadau diogelwch cleifion yn "ddigwyddiadau adroddadwy yn genedlaethol", gan ddibynnu fel arfer ar lefel y niwed a achoswyd gan y digwyddiad. Adroddir am y digwyddiadau hyn i Uned Gyflawni GIG Cymru, sy'n goruchwylio'r swyddogaethau ar gyfer dysgu o ddigwyddiadau cenedlaethol.

Er mwyn lleihau'r gwaith gweinyddol, nid yw digwyddiadau diogelwch cleifion oherwydd COVID-19 nosocomiaidd yn cael eu hadrodd yn genedlaethol, yn hytrach cânt eu rheoli ar wahân drwy'r rhaglen genedlaethol lle caiff gwersi eu cofnodi a’u cydgasglu.

Ceir rhagor o fanylion am Ddigwyddiadau Adroddadwy yn Genedlaethol yn y Polisi Cenedlaethol ar gyfer Adrodd am Ddigwyddiadau sy’n Ymwneud â Diogelwch Cleifion yma - https://ug.gig.cymru/diogelwch-cleifion-cymru/digwyddiadau-syn-ymwneud-a-diogelwch-cleifion/ (agor mewn dolen newydd).  

 

Pam mae COVID-19 nosocomiaidd yn ddigwyddiad diogelwch cleifion?

Mae unrhyw haint sy'n cael ei ddal mewn ysbyty, gan gynnwys COVID-19, yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad diogelwch cleifion am fod yr haint yn annisgwyl a/neu'n anfwriadol, ni waeth a yw'r claf yn cael niwed ai peidio. 

 

Os yw COVID-19 nosocomiaidd yn ddigwyddiad diogelwch cleifion, pam mae yna fframwaith ar wahân ar gyfer rheoli'r digwyddiadau hyn?

Er bod ymchwiliadau i heintiau sy'n cael eu dal mewn lleoliad gofal iechyd yn arfer safonol ar draws y GIG, mae angen ystyried llawer o ffactorau a chymhlethdodau mewn perthynas â COVID-19. Ychydig yr oeddem yn ei wybod am COVID-19 ar ddechrau'r pandemig, gan gynnwys dulliau trosglwyddo, heintusrwydd a difrifoldeb y clefyd. Rydym yn parhau i ddysgu am sut mae'r haint yn lledaenu, a maint a graddfa’r pandemig. Pwrpas y fframwaith ar wahân yw helpu Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i roi Gweithio i Wella ar waith yng nghyd-destun COVID-19. Fodd bynnag, nid yw dyletswydd gyfreithiol sefydliadau i ymchwilio yn unol â'r Rheoliadau wedi newid.

 

Sut mae niwed yn cael ei ddiffinio?

Mae Gweithio i Wella yn rhoi canllawiau i'r GIG ar y diffiniadau o niwed mewn perthynas â digwyddiadau diogelwch cleifion. Mae 5 categori o niwed yn y canllawiau;

  • Dim Niwed
  • Niwed isel
  • Niwed cymedrol
  • Niwed difrifol
  • Marwolaeth

Yn aml, bydd angen i’r claf a/neu ei deulu gyfrannu at yr asesiad er mwyn sefydlu union lefel y niwed a achoswyd gan y digwyddiad. Yn fras, disgrifir niwed fel rhywbeth a achoswyd gan yr haint COVID-19.

Niwed Isel:

  • Hyd at 3 diwrnod o gynnydd yn hyd yr arhosiad (mewn ysbyty neu leoliad gofal iechyd)
  • Mân oblygiadau i ddiogelwch cleifion
  • Dychwelyd am fân driniaeth, neu ymchwiliadau ychwanegol.

Cymedrol:

  • Anaf/niwed y gellid bod wedi’i osgoi ac y mae angen ymyrraeth glinigol ar ei gyfer
  • Ymyrraeth glinigol ychwanegol i gleifion a oedd eisoes yn derbyn gofal iechyd cyn cael COVID-19
  • O leiaf 4 diwrnod o gynnydd yn hyd yr arhosiad (mewn ysbyty neu leoliad gofal iechyd) fel claf mewnol. 

Niwed Difrifol:

  • Niwed parhaol y gellid bod wedi'i osgoi
  • Ymyriadau ychwanegol fel gofal Uned Therapi Dwys, y gellid bod wedi’u hosgoi
  • Canslo neu oedi sylweddol o ran gofal brys
  • O leiaf 15 diwrnod o gynnydd yn yr arhosiad mewn ysbyty.

Marwolaeth:

Mae marwolaeth rhywun sydd wedi cael prawf positif yn mynd yn llai tebygol o fod yn uniongyrchol oherwydd COVID-19 po fwyaf o amser sy’n mynd heibio, ac yn fwy tebygol o fod o ganlyniad i achos arall. Fodd bynnag, nid oes yna gyfnod amser penodol ar gyfer pryd y gellir diystyru COVID-19 fel achos tebygol ac, yn anffodus, mae rhai pobl yn marw o'u haint wythnosau lawer yn ddiweddarach.

Mae'r fframwaith yn cyfeirio at ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd i helpu i benderfynu pa mor gyfrifol oedd COVID-19 am farwolaeth drist claf, yn enwedig pan oedd materion iechyd eraill yn bodoli cyn i'r claf ddal haint COVID-19. Pan fydd marwolaeth wedi digwydd, bydd ymchwiliadau’n ystyried canfyddiadau adolygiadau marwolaethau ac adolygiadau archwilwyr meddygol i benderfynu i ba raddau yr achosodd COVID-19 y farwolaeth.

 

Beth yw ymchwiliad?

Rhaid i bob pryder, gan gynnwys digwyddiad diogelwch cleifion, gael ei reoli yn unol â'r Rheoliadau, a rhaid ymchwilio iddo yn unol â nhw. Rhaid i'r ymchwiliad adolygu'r hyn a ddigwyddodd, pam y digwyddodd a nodi unrhyw wersi a allai wella diogelwch, profiadau neu ganlyniadau cleifion yn y dyfodol. Mae sefydliadau'n rhydd i ddewis y ffordd fwyaf priodol o gynnal ymchwiliad. Mae'r fframwaith yn helpu sefydliadau i bennu lefel yr ymchwiliad a fyddai'n briodol yn seiliedig ar ganlyniad y claf h.y. dim niwed – marwolaeth, gyda chanlyniadau sy’n cael mwy o effaith yn destun ymchwiliadau manylach. Mae'r Rheoliadau yn nodi'r safonau gofynnol ar gyfer ymchwiliadau GIG Cymru i ddigwyddiadau diogelwch cleifion. 

 

A yw'r Fframwaith yn ymdrin â niwed neu farwolaethau pobl mewn cartrefi gofal a achoswyd gan COVID-19 nosocomiaidd?

Mae'r Fframwaith yn berthnasol i bob achos o heintiau COVID-19 sy’n cael eu dal mewn lleoliad gofal iechyd ac a ddigwyddodd yn ystod gofal a ariennir gan y GIG. Mae hyn yn cynnwys unigolion a drosglwyddwyd o ysbyty i leoliad gofal cymdeithasol neu breifat ac sydd wedyn yn cael prawf positif am COVID-19 o fewn 14 diwrnod ar ôl gadael yr ysbyty. 

Fodd bynnag, nid yw'r Rheoliadau, sy'n berthnasol i'r sector gofal iechyd, yn berthnasol i'r sector gofal cymdeithasol pan ddaliwyd heintiau COVID-19 mewn cartref gofal cymdeithasol neu breifat. Nid oes gan y sector gofal cymdeithasol gyfraith gyfatebol sy'n ei gwneud yn ofynnol cynnal ymchwiliadau i achosion o COVID-19 a ddaliwyd mewn lleoliad gofal cymdeithasol, yn y ffordd y mae'n ofynnol i'r sector gofal iechyd wneud hynny. Mae gweithredu’r fframwaith yn mynd yn fwy cymhleth pan fydd pobl sy'n derbyn gofal a gomisiynwyd gan y GIG, yn dal COVID-19 mewn lleoliadau gofal eraill nad ydynt yn lleoliadau GIG Cymru, megis cartrefi gofal, cyfleusterau preifat, a darparwyr eraill y tu allan i Gymru nad ydynt yn rhan o'r GIG. Mae gwaith ar y gweill gyda'r sector gofal cymdeithasol i helpu i gasglu'r hyn a ddysgwyd o'r pandemig, yn enwedig mewn perthynas â’r ymatebion ym maes gofal cymdeithasol i reoli achosion yn sgil brigiadau o COVID-19.

Mae'r fframwaith cenedlaethol yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd i roi mwy o eglurder o ran sut yr ymdrinnir â chleifion a ddaliodd COVID-19 tra oeddent yn derbyn gofal a gomisiynwyd, gan gynnwys lleoliadau gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, isod ceir rhestr o enghreifftiau a fyddai o fewn cwmpas y fframwaith os pennir bod y claf wedi dal COVID-19 tra oedd yn derbyn gofal a ariannwyd gan y GIG, ni waeth ble y bu farw wedi hynny:

  • Wedi dal COVID-19 tra oedd yn derbyn gofal iechyd yn yr ysbyty a bu farw yn yr ysbyty
  • Wedi dal COVID-19 tra oedd yn derbyn gofal iechyd GIG yn y gymuned a bu farw yn yr ysbyty
  • Wedi dal COVID-19 yn yr ysbyty ond bu farw gartref neu mewn cartref gofal ar ôl cael ei ryddhau/ei drosglwyddo
  • Wedi dal COVID-19 yn yr ysbyty a'i ryddhau ond bu farw o COVID-19 a ddaliodd yn ystod gofal iechyd ar ôl cael ei aildderbyn i'r ysbyty
  • COVID-19 wedi'i restru ar unrhyw ran o'r dystysgrif marwolaeth os ystyrir ei fod wedi’i ddal yn ystod gofal iechyd

 

Beth yw "adolygiadau marwolaethau" ac "adolygiadau Archwilwyr Meddygol" a pham maent yn wahanol i ymchwiliadau Gweithio i Wella neu ymchwiliadau digwyddiadau diogelwch cleifion?

Mae adolygiadau marwolaethau yn rhan o broses safonol pan fydd rhywun yn marw yn yr ysbyty. Pwrpas yr adolygiadau yw asesu'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd i berson a nodi unrhyw gyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella. Fel rhan o'r broses, mae'r adolygiadau'n ystyried a oedd unrhyw beth wedi digwydd yn ystod gofal y person a allai fod wedi achosi ei farwolaeth drist neu gyfrannu ati. 

Cyflwynwyd adolygiadau Archwilwyr Meddygol yn ddiweddar yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol yn craffu'n annibynnol ar yr holl farwolaethau nad ymchwiliodd y crwner iddynt. Mae'r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol yn sicrhau y cofnodir achos cywir y farwolaeth, ac yn nodi unrhyw bryderon sy'n gysylltiedig â'r farwolaeth ei hun, y gellir ymchwilio ymhellach iddynt os oes angen. Mae Archwilwyr Meddygol hefyd yn ystyried barn teulu a ffrindiau'r person a fu farw.

Ni chafodd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol ei weithredu'n llawn yng Nghymru ar ddechrau'r pandemig. Mae hynny'n golygu na fydd rhai pobl a fu farw'n gynharach ym mhandemig COVID-19 wedi bod yn destun adolygiad Archwilydd Meddygol.

Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, na all adolygiadau marwolaethau nac adolygiadau a gynhelir gan y gwasanaeth Archwilwyr Meddygol annibynnol gael eu hystyried yn ymchwiliad yn ôl y Rheoliadau. Mae'r adolygiadau hyn yn ceisio ateb cwestiynau gwahanol i ymchwiliad, sy'n ceisio deall beth ddigwyddodd, pam y digwyddodd a pha gamau y gellir eu cymryd i wella diogelwch, profiad a chanlyniadau cleifion yn y dyfodol.

Fodd bynnag, bydd adolygiad digwyddiad diogelwch cleifion yn cael ei ddechrau pan fo adolygiad marwolaeth neu adolygiad archwilydd meddygol yn nodi unrhyw beth anfwriadol neu annisgwyl. Byddai hyn wedyn yn dechrau ymchwiliad yn unol â gofynion y Rheoliadau. Felly, mae'r prosesau hyn yn ategu ac yn llywio ei gilydd.

 

Pryd y bydd teuluoedd yn clywed canlyniadau'r ymchwiliadau?

Pan fydd staff y GIG yn adrodd yn fewnol am ddigwyddiad diogelwch cleifion, bydd yna adegau pan na fydd cleifion a theuluoedd yn gwybod, i ddechrau, fod digwyddiad wedi bod. Yn yr achosion hyn, mae'r Rheoliadau a Gweithio i Wella yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau asesu'r digwyddiad, a rhoi gwybod i deuluoedd am y digwyddiadau hynny sydd wedi achosi "niwed cymedrol" neu uwch. Dylid gwahodd cleifion a/neu eu teuluoedd i gyfrannu at ymchwiliadau yn yr achosion hyn. Nid yw'n ofynnol i sefydliadau gysylltu â chleifion na theuluoedd pan fo "dim niwed neu niwed isel" wedi bod. Nid yw hyn yn effeithio ar hawliau unrhyw berson i fynegi pryder am ofal a thriniaeth, a fydd yn cael ei ymchwilio yn unol â threfniadau GIG Cymru ar gyfer ymdrin â chwynion. 

Mae Gweithio i Wella yn rhoi arweiniad i sefydliadau ar beth i'w wneud gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad. Mae'n anochel y bydd rhai ymchwiliadau'n arwain at gynigion o iawn (iawndal ariannol) o dan y broses Gweithio i Wella, a/neu hawliadau cyfreithiol am iawndal, a gaiff eu rheoli yn unol â threfniadau hirsefydlog GIG Cymru.

 

A yw ymchwiliadau'n cael eu cynnal yn annibynnol?

Mae'r mwyafrif helaeth o ymchwiliadau yn y GIG yn cael eu cynnal yn fewnol gan y sefydliadau lle bu’r digwyddiad. Y rheswm am hyn yw mai staff o fewn y sefydliadau hynny sydd yn y sefyllfa orau i ddeall sefyllfa a chyd-destun unigryw’r digwyddiad. Fodd bynnag, bydd Ymchwiliadau bob amser yn cael eu cynnal yn annibynnol, hynny yw, gan bobl nad oeddent yn rhan o’r digwyddiad neu nad oeddent yn gysylltiedig ag ef. Mae'n ofynnol i sefydliadau sicrhau bod ymchwiliadau'n agored ac yn dryloyw i staff a chleifion/teuluoedd.

Nid yw Gweithio i Wella yn ei gwneud yn ofynnol i ymchwiliad fod yn annibynnol ar y sefydliad sy'n destun cwyn. Mae Gweithio i Wella yn cynghori y dylai ymchwiliadau gael eu cynnal gan bobl nad ydynt yn gysylltiedig â'r digwyddiad, ac sydd â hyfforddiant a gwybodaeth ymchwilio briodol. Mae'r Rheoliadau hefyd yn caniatáu i adolygiadau arbenigol annibynnol gael eu comisiynu gan gyrff iechyd o dan amgylchiadau penodol, gan gynnwys yr achwynwyr wrth benodi unrhyw arbenigwr annibynnol pan fo angen.

I gefnogi annibyniaeth, mae'r Rhaglen Adolygu Nosocomiaidd Genedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sefydlu paneli craffu lleol, sy'n annibynnol ar yr ymchwiliad. Mae'r panel craffu yn gyfrifol am sicrhau bod safonau rheoleiddio ymchwiliadau yn cael eu bodloni, a bydd yn gwneud yr asesiad terfynol fesul achos o ran a oedd gofal yn rhesymol. Bydd Uned Gyflawni GIG Cymru yn gyfrifol am sicrhau safon gyffredinol ymchwiliadau a phaneli craffu o safbwynt cenedlaethol.   

 

A yw'r holl fyrddau iechyd wedi dechrau eu hymchwiliadau?

Ydynt. Mae pob sefydliad bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth wedi dechrau'r broses o nodi digwyddiadau diogelwch cleifion COVID-19 sy'n bodloni'r diffiniad, ac wedi dechrau cynnal ymchwiliadau. Mae nifer y digwyddiadau'n amrywio'n fawr rhwng gwahanol sefydliadau'r GIG yng Nghymru oherwydd maint y boblogaeth a chyfraddau trosglwyddo cymunedol gwahanol. O ystyried y nifer sylweddol o ymchwiliadau y mae'n ofynnol eu cynnal, rhagwelir y bydd y Rhaglen gyfan yn para dros ddwy flynedd, gydag ymchwiliadau'n cael eu cynnal drwy gydol y cyfnod hwn. O ganlyniad, ni fydd modd dechrau rhai ymchwiliadau am beth amser.

 

A yw'r holl ymchwiliadau hyd yma wedi'u sbarduno gan gwynion Gweithio i Wella yn unig?

Nac ydynt. Mae llawer o ymchwiliadau ar y gweill a ddeilliodd o gyfuniad o ddigwyddiadau diogelwch cleifion a adroddwyd yn fewnol a chwynion a gafwyd gan gleifion a theuluoedd. Mae achosion sydd wedi'u nodi oherwydd bod claf neu aelod o'r teulu/cynrychiolydd wedi gwneud cwyn wedi'u blaenoriaethu yn unol â gweithdrefnau cwyno GIG Cymru.

 

Beth os yw cwynion wedi'u atgyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru?

Gwneir cwyn fel arfer i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn amgylchiadau pan fo achwynydd yn parhau i fod yn anfodlon ag ymateb sefydliadau'r GIG, naill ai o ran canfyddiad yr ymchwiliad mewnol, a/neu’r ffordd yr ymdriniwyd â'r gŵyn. Pan wneir cwyn yn uniongyrchol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y broses arferol yw y bydd swyddfa'r Ombwdsmon yn gofyn i’r sefydliad GIG egluro pa ymchwiliadau sydd wedi'u cynnal hyd yma ac a oes 'ymateb terfynol' wedi'i roi. Y rheswm pennaf am hyn yw y bydd yr Ombwdsmon yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG fod wedi cael cyfle i ymchwilio ac ymateb cyn iddo ystyried achos ac a ddylid ymyrryd ai peidio.

Pan fo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru eisoes wedi penderfynu ymchwilio i gŵyn, bydd sefydliadau'r GIG yn rhoi'r gorau i ymchwiliadau mewnol, ac yn hytrach yn darparu'r holl wybodaeth ofynnol i’r Ombwdsmon. 

Fodd bynnag, bydd angen i'r sawl sy'n gwneud y gŵyn benderfynu a yw am i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru barhau â'i ymchwiliad. Gall cleifion a/neu deuluoedd/cynrychiolwyr hefyd drafod yn uniongyrchol â'r sefydliad GIG perthnasol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

 

Pan fo sefydliadau'r GIG eisoes ar ganol ymchwiliad o dan y broses Gweithio i Wella berthnasol, a fydd y rhain nawr yn symud i'r fframwaith ymchwilio newydd?

Mae'r fframwaith yn cydymffurfio'n llawn â Gweithio i Wella ac ni fydd angen i sefydliadau ailymchwilio pan fo'r safonau ymchwilio gofynnol wedi'u bodloni. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i unrhyw ymchwiliadau blaenorol gael eu hystyried gan y paneli craffu lleol sydd newydd eu creu. Gall aelodau'r panel ofyn am ymchwiliad pellach os bydd angen gwneud hynny.

 

Beth yw'r amserlen ar gyfer yr ymchwiliadau o dan y Fframwaith newydd?

Bydd ymchwiliadau'n dechrau ar adegau gwahanol drwy gydol y broses ddwy flynedd wrth i sefydliadau weithio'n raddol drwy'r digwyddiadau. Bydd sefydliadau'n symud ymlaen ar gyfraddau gwahanol gan fod nifer y digwyddiadau'n amrywio. Mae'n bwysig pwysleisio nad yw'r broses hon yn ddewis amgen i'r broses Gweithio i Wella, yn hytrach mae’n ffordd ffurfiol o weithio drwy'r nifer sylweddol o ymchwiliadau. Mae hyn yn golygu y dylid cwblhau ymchwiliadau yn unol ag amserlenni Gweithio i Wella ond cydnabyddir y bydd hyn yn amrywio. Fel rhan o'r broses, bydd sefydliadau'n rhoi gwybod i gleifion a theuluoedd am ba hyd y mae disgwyl i ymchwiliadau unigol bara. 

Sut y bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn cysylltu â chleifion a theuluoedd yr effeithir arnynt?

Byddwn yn defnyddio dulliau gwahanol i gysylltu â chleifion a theuluoedd. Gall hyn gynnwys ffonio gyntaf, cyn anfon llythyr wedyn.

Ar ôl y cysylltiad cyntaf hwnnw, bydd cleifion a theuluoedd yn cael un pwynt cyswllt a fydd yn parhau i fod ar gael iddyn nhw drwy gydol y broses. Bydd pob claf a/neu deuluoedd/cynrychiolwyr yn cael llythyr canlyniad terfynol yn esbonio'r ymchwiliad a gynhaliwyd a chanlyniad yr ymchwiliad hwnnw.

 

 phwy y dylwn i gysylltu i ofyn a ydw i neu berthynas yn rhan o'r rhaglen?   

Efallai y bydd yn cymryd peth amser i ni weithio drwy ein hadolygiadau, efallai yr hoffech aros nes byddwn yn cysylltu â chi.

Os oes gan glaf, teulu, neu gynrychiolydd ar eu rhan unrhyw gwestiynau, neu’n dymuno cael rhagor o fanylion am adolygiad o COVID-19 nosocomaidd nad oedd yn cyrraedd y trothwy niwed cymedrol ar gyfer cyswllt â chleifion, gallant gysylltu â’r bwrdd iechyd drwy e-bostio COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk neu ffonio 0300 303 8322. 

Dylai unrhyw glaf neu ei deulu sy’n dymuno mynegi pryder godi hyn yn uniongyrchol gyda’r tîm pryderon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drwy ffonio 0300 0200 159 neu e-bostio hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk

 

Pryd y bydd cleifion a theuluoedd na chysylltwyd â nhw o'r blaen yn cael gwybod eu bod yn destun ymchwiliad?

Rydym wrthi'n nodi pob achos y mae angen ymchwilio iddo er mwyn cyfathrebu â'r person hwnnw gan ddefnyddio'r manylion cyswllt hysbys diwethaf. Os yw'n hysbys bod claf wedi marw, mae'r broses yn cynnwys nodi aelodau o'r teulu neu gysylltiadau priodol eraill. Byddwn defnyddio gwybodaeth a gedwir ar eu systemau am y perthynas agosaf neu gysylltiadau enwebedig eraill o'r cyfnod gofal diwethaf i gefnogi hyn.

 

Beth fydd yn digwydd os yw manylion y perthynas agosaf wedi newid ers y digwyddiad?

Byddwn yn gwneud pob ymholiad rhesymol i sefydlu'r perthynas agosaf neu'r pwynt cyswllt enwebedig, yn aml gan ddefnyddio manylion a gofnodwyd yn ystod y cyfnod gofal diwethaf. Byddwn yn chwilio am wybodaeth a gedwir drwy wahanol wasanaethau y maent yn eu darparu er mwyn gallu cysylltu.

Pa gymorth eiriolaeth sydd ar gael i godi pryderon?

Dylai unrhyw glaf neu ei deulu sy’n dymuno mynegi pryder godi hyn yn uniongyrchol gyda’r tîm pryderon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drwy ffonio 0300 0200 159 neu e-bostio hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk

Os na allwch ddatrys eich pryder yn anffurfiol gyda'r sefydliad perthnasol, mae LLAIS (a elwyd yn gynt yn Gyngor Iechyd Cymuned) yn cynnig gwasanaeth eiriolaeth annibynnol ar gyfer cwynion a all eich helpu.

Gall LLAIS hefyd eich helpu i wneud cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

llaiswales.org/yn-eich-ardal/gorllewin-cymru (agor mewn tab newydd)  

Pa gymorth sydd ar gael mewn profedigaeth?

Mae gan bob sefydliad gymorth sydd ar gael i deuluoedd mewn profedigaeth. Dylai unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth neu ofyn am atgyfeiriad am gymorth mewn profedigaeth gysylltu: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/profedigaeth/ (agor mewn dolen newydd). 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: