Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty COVID-19 adolygiad

Ar 29 Mawrth 2023, cyhoeddodd GIG Cymru adroddiad yn manylu ar y cynnydd da sy’n cael ei wneud i ymchwilio a dysgu o COVID-19 ysbytai Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am Adroddiad Dysgu Interim y Rhaglen Genedlaethol Nosocomial COVID-19 ar gael yma: Rhaglen COVID 19 Nosocomial Genedlaethol - GIG Cymru

Dysgu o heintiadau COVID-19 a gafwyd mewn ysbytai yng Nghymru

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar iechyd y boblogaeth a systemau gofal iechyd ledled y byd. Fe wnaeth GIG Cymru addasu a newid ei ffocws gweithredol yn gyflym i leihau niwed cymaint â phosibl. Gweithiodd staff y GIG yn ddiflino i gynnal gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer y rhai mwyaf anghenus. Fodd bynnag, roedd COVID-19 yn haint newydd ac anrhagweladwy a oedd yn ei gwneud yn anodd iawn ei reoli.

Oherwydd maint a difrifoldeb y pandemig, roedd yn anochel y byddai cleifion yr oedd angen gofal arnynt mewn ysbytai a lleoliadau cleifion mewnol eraill yn wynebu risg uwch o ddal COVID-19. Roedd rheoli lledaeniad COVID-19 mewn lleoliadau gofal iechyd yn heriol, yn enwedig pan oedd nifer yr achosion mor uchel yn y gymuned, ac mewn ysbytai, roedd lefelau uwch o gleifion difrifol wael, arhosiadau hwy a mwy o bobl mewn gwelyau ysbytai.

Mae natur y pandemig wedi golygu bod niferoedd anarferol uchel o ddigwyddiadau diogelwch cleifion o COVID-19 nosocomiaidd (a gafwyd yn yr ysbyty) wedi’u cofnodi, sydd wedi effeithio ar tua 18,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth/teuluoedd ledled Cymru.

Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd

Ym mis Ebrill 2022, sefydlwyd Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd i gefnogi sefydliadau GIG Cymru yn eu dyletswydd i gynnal ymchwiliadau i ddigwyddiadau diogelwch cleifion o COVID-19 nosocomiaidd a ddigwyddodd rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2022. Weithiau mae heintiau sy'n deillio o ofal iechyd yn cael eu hystyried yn ddigwyddiad diogelwch cleifion, yn dibynnu ar sut a phryd y cafwyd yr haint.

Mae’r Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd wedi gweithio gyda Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i greu fframwaith i sicrhau bod sefydliadau GIG Cymru yn mabwysiadu dull mor gyson â phosibl at y broses ymchwilio, gyda’r nod o sicrhau bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal unwaith ac yn cael eu gwneud yn dda. Hyd yn hyn, mae’r rhaglen wedi cefnogi sefydliadau GIG Cymru i ymchwilio i dros 12,000 o achosion, gan ddarparu rhai atebion i anwyliaid, yn ogystal â chasglu dysgu a phrofiadau.

Gan gydnabod effaith COVID-19 ar ddefnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd, gofalwyr a staff GIG Cymru, mae’r rhaglen wedi mabwysiadu dull dysgu sy’n ceisio peidio â rhoi’r bai, ond sy’n gwneud y mwyaf o’r cyfle i ddysgu a gwella ohono.

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd GIG Cymru ei Adroddiad Dysgu Interim ar y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd,a roddodd trosolwg o’r rhaglen a nodi rhai o’r themâu dysgu cynnar sy’n dod i’r amlwg drwy’r rhaglen. Disgwylir i adroddiad dysgu terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.

Ein cynnydd

Mae tîm adolygu COVID-19 nosocomiaidd pwrpasol BIP Hywel Dda yn gweithio'n galed i ddatblygu ymchwiliadau diogelwch cleifion yn gyflym. Mae’r rhaglen yn estyn ei diolch diffuant i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff am gymryd rhan yn y broses ymchwilio sy’n rhoi cyfle i fyfyrio, dysgu a gwella.

Cysylltir â chleifion a theuluoedd yr effeithir arnynt maes o law fel rhan o’r broses adolygu hon, ond gofynnwn iddynt gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes ganddynt unrhyw bryderon y dymunant eu codi.

Gwybodaeth ddefnyddiol
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: