Croeso i’r seithfed rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Yr wythnos hon mae 8,834 o ddosau cyntaf wedi'u dosbarthu ac mae 2,750 o ail ddosau wedi'u cwblhau. Fel yr adroddwyd ym mwletin yr wythnos diwethaf, mae nifer y brechlynnau sy'n cael eu danfon yn arafu o’i gymharu â'r wythnosau diwethaf. Mae hyn oherwydd gostyngiad yn nifer y brechlynnau y byddwn yn eu derbyn - mae hwn yn newid arfaethedig a disgwyliedig yn y cyflenwad a fydd yn effeithio ar y DU gyfan. Rydym wedi ystyried hyn yn ein cynlluniau ac ni fydd yn effeithio ar apwyntiadau pobl.
Ar hyn o bryd mae meddygfeydd yn gwahodd pobl yng ngrŵp blaenoriaeth 5 i gael eu brechu, hynny yw pawb rhwng 65 a 69 oed. Ein nod yw gwahodd pawb yn y grŵp hwn erbyn dydd Gwener 12 Mawrth a dechrau gwahodd pobl yng ngrŵp 6 erbyn dydd Llun 15 Mawrth fan bellaf.
Rydym yn cydnabod nad yw llawer o ofalwyr di-dâl yn hysbys i feddygon teulu nac awdurdodau lleol. Rydym wrthi'n cwblhau trefniadau ynghylch nodi gofalwyr di-dâl cymwys ar gyfer blaenoriaethu brechlyn a'r trefniadau gweithredol i gefnogi hyn. Disgwyliwn gyhoeddi canllawiau yr wythnos nesaf a byddwn yn hysbysebu hyn ar ôl ei gyhoeddi.
I gael mwy o wybodaeth am grwpiau risg clinigol 16 oed a hŷn a ddylai dderbyn brechlyn COVID-19 fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6, gweler Tabl 3 yma (agor mewn dolen newydd).
Sylwch, mae'r rhai ag asthma difrifol (a ddiffinnir fel defnydd rheolaidd o corticosteroidau geneuol neu a oedd gynt angen eu derbyn i'r ysbyty) mewn mwy o berygl ac wedi'u cynnwys yng ngrŵp 6. Nid yw unigolion ag asthma ysgafn i gymedrol mewn mwy o berygl ac nid ydynt yn cael eu hargymell i'w brechu gan JCVI.
Wrth i fwy o'n cymuned ddechrau derbyn brechlyn, atgoffir pobl bod yn rhaid iddynt barhau i ddilyn cyngor ac arweiniad cyfredol mewn perthynas â phellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb. Bydd y brechlyn yn lleihau eich siawns o fynd yn ddifrifol wael. Nid ydym yn gwybod eto a fydd yn eich atal rhag dal a throsglwyddo'r feirws.
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd |
Canran Derbyn |
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy’n oedolion hŷn |
2,423 |
93.9% |
P1.2 – Gweithwyr cartrefi gofal |
3,063 |
87.7% |
P2.1 – Pob un 80 oed a hŷn |
22,348 |
98.4% |
P2.2 & 2.3 – Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
21,260 |
93.2% |
P3 – Pob un 75 oed a hŷn |
17,855 |
91.5% |
P4.1 – Pob un 70 oed a hŷn |
24,000 |
91.3% |
P4.2 – Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
7,758 |
78.3% |
P5 – pawb sy'n 65 oed a hŷn |
9,792 |
41.0% |
Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
1,580 |
1.0% |
Cyfanswm: |
112,823 |
29.1% |
Dyma stori anhygoel dwy ffrind ysgol o ardal Caerfyrddin a'u rolau canolog yn llwyddiant rhaglen frechu COVID-19.
Mae Emma Bolam yn rhan o'r tîm a greodd frechlyn Oxford-AstraZeneca a'i ffrind gorau o'r ysgol, Lynne Edwards, yw cydlynydd imiwneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n gweinyddu'r brechlyn Oxford-AstraZeneca.
Aeth Emma i Ysgol Gyfun Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin ac mae'n gweithio yn Sefydliad Jenner, sy'n datblygu brechlynnau ac wedi'i leoli yn adran feddygaeth Prifysgol Rhydychen. Hi yw pennaeth cynhyrchu yng nghyfleuster bio-weithgynhyrchu clinigol y sefydliad.
Mae ei rhieni yn dal i fyw ym Mhenybont - ac mae ei ffrind gorau o'r ysgol, Lynne Edwards, yn digwydd bod yn gydlynydd imiwneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n gweinyddu'r brechlyn Oxford-AstraZeneca.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am stori Emma a Lynne (agor mewn dolen newydd) neu gwyliwch Emma a Lynne yn siarad â Heno am eu profiad yma (agor mewn dolen newydd).
Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
Yr wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn. Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.