Croeso i ugeinfed rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
Yr wythnos hon, rhoddwyd 21,293 o frechlynnau ar draws canolfannau gofal sylfaenol a brechu torfol.
Yn anffodus, yr wythnos hon profodd y bwrdd iechyd rai problemau gyda llythyrau apwyntiad ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra neu bryder y mae hyn wedi'i achosi. Gwnaed pob ymdrech i ailgyhoeddi apwyntiadau newydd i bawb yr effeithiwyd.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal clinigau brechu COVID-19 cynenedigol a bwydo ar y fron pwrpasol mewn pedair canolfan brechu torfol bob bore Mawrth.
Er y bydd pob canolfan brechu torfol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gallu brechu unrhyw un sy'n feichiog neu’n bwydo ar y fron a bydd y clinigau cynenedigol yn cael eu cynnal gan fydwraig pe bai unrhyw un yn dymuno derbyn cwnsela a chyngor ychwanegol ynghylch derbyn y brechlyn yn ystod beichiogrwydd.
Bydd y clinigau pwrpasol yn rhedeg bob bore Mawrth rhwng 9am ac 1pm yn y canolfannau brechu torfol canlynol:
Os hoffech fynd i glinig brechlyn beichiogrwydd a bwydo ar y fron pwrpasol gallwch hunangyfeirio trwy lenwi'r ffurflen ar-lein ganlynol (agor mewn dolen newydd) a dewis yr opsiwn ‘Clinig Cyn Geni’, neu ffonio 0300 303 8322. Peidiwch â mynychu heb apwyntiad.
Dywedodd Alison Evans, Nyrs Arweiniol Glinigol ar gyfer Canolfannau Brechu Torfol Hywel Dda: “Rydym yn deall bod llawer o wybodaeth ar gael am y brechlyn a all fod yn ddryslyd wrth benderfynu ai ei gael yw'r penderfyniad iawn i chi.
“Wrth i ni ddechrau gwahodd ein carfannau iau fel mater o drefn i dderbyn brechlyn, roeddem am ddarparu cefnogaeth ychwanegol i unrhyw un sy’n feichiog trwy ddarparu clinigau pwrpasol gyda bydwraig ar gael i siarad a trafod.
“Wrth gwrs, gall unrhyw un sy’n feichiog drafod y wybodaeth sydd ar gael gyda’u meddyg teulu, obstetregydd neu fydwraig ar unrhyw adeg a byddant yn gallu derbyn y brechlyn yn unrhyw un o’n canolfannau brechu torfol, ond rydym yn falch o allu cynnig y clinigau pwrpasol hyn i unrhyw un sy'n teimlo y byddent yn elwa o gefnogaeth a chyngor ychwanegol.
Mae Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi cynhyrchu taflen wybodaeth a chymorth wrth benderfynu (agor mewn dolen newydd) ynghyd â gwybodaeth arall (agor mewn dolen newydd) a allai fod yn ddefnyddiol i chi neu siaradwch â'ch bydwraig neu ymgynghorydd am y risgiau a buddion i helpu i lywio eich penderfyniad.
Mae tystysgrifau brechu ar gyfer teithio rhyngwladol bellach ar gael yng Nghymru ar gyfer y rhai sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn trwy ffonio 0300 303 5667 (ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 9am a 5pm)
• PEIDIWCH â chysylltu â’ch meddyg teulu neu’r bwrdd iechyd i gael tysysgrif.
• Teithio hanfodol a cheisiadau brys yn unig.
• Gwiriwch ofynion y wlad rydych chi’n bwriadu ymweld â hi
• Os oes angen prawf Covid negyddol cyn teithio, NI ddylai hwn fod yn brawf GIG. Yn lle hynny mae'n rhaid i chi archebu a thalu am brawf gan ddarparwr preifat. Cliciwch yma i gael rhestr o ddarparwyr (agor mewn dolen newydd)
• Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael cyngor manwl ar dystysgrifau brechu (agor mewn dolen newydd)
Ar hyn o bryd, nid yw'r JCVI yn cynghori brechu plant sy'n gysylltiadau cartref. Ar hyn o bryd, nid ydynt chwaith yn cynghori brechu cysylltiadau cartref plant imiwnoataliedig.
Peidiwch cysylltu â’r bwrdd iechyd os ydych yn grŵp 10 a rhwng 18 a 20 oed i holi am apwyntiad brechu ar hyn o bryd. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
---|---|---|---|---|
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.4% | 2,116 | 82.0% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,443 | 98.5% | 3,046 | 87.2% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,827 | 99.9% | 21,512 | 94.1% |
P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
25,617 | 100.3% | 22,110 | 86.5% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,662 | 95.6% | 17,894 | 91.7% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
25,017 | 95.1% | 24,005 | 91.3% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,672 | 87.6% | 7,927 | 80.0% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,645 | 90.6% | 18,609 | 77.9% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
37,898 | 84.9% | 9,628 | 21.6% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
13,362 | 68.7% | 3,343 | 17.2% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn |
14,747 | 79.3% | 681 | 3.7% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn |
14,422 | 88.7% | 611 | 3.8% |
P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
44,823 | 29.1% | 1,350 | 0.9% |
Cyfanswm: | 253,625 | 65.5% | 132,832 | 34.3% |
Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn. Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.