Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 27 - Cyhoeddwyd 14 Gorffennaf 2021

Croeso i rifyn 27 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda ar y brechlyn

Bydd y digwyddiad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

 

Diweddariad ar glinigau cerdded i mewn

Er mwyn helpu holl drigolion Hywel Dda i gael mynediad hawdd a hyblyg i frechlyn COVID-19, mae clinigau brechlyn cerdded i mewn dos cyntaf ac ail yn rhedeg ym mhob canolfan brechu torfol Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ogystal a chlinigau iechyd cynenedigol a meddyliol pwrpasol mewn lleoliadau dethol.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd rhai o’r ganolfannau yn cau ar gyfer hyfforddiant staff ac wrth i’r nifer o bobl sy’n mynychu apwyntiadau cerdded i mewn leihau.

Plis gwiriwch ar ein wefan a chyfryngau cymdeithasol am unrhyw newidiadu i amseroedd agor y ganolfannau (agor mewn dolen newydd) cyn i chi deithio.

Cysywlltwch â'r bwrdd iechyd drwy un o'r ffyrdd canlynol i ofyn am apwyntiad

Ffurflen gais ar-lein ar gyfer dos cyntaf (agor mewn dolen newydd) 
Ffurflen gais ar-lein ar gyfer ail ddos - os cawsoch eich brechlyn cyntaf 8 wythnos neu fwy yn ôl (agor mewn dolen newydd)
Rhif Ffôn: 0300 303 8322
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

 

Brechiadau COVID-19 ar gael yn Llanybydder yr wythnos hon

 

Bydd fan brechu symudol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi’i lleoli yn Llanybydder rhwng dydd Iau 15 a dydd Sadwrn 17 Gorffennaf.

Bydd y clinig brechu symudol wedi’i leoli ym Maes Parcio Teras Yr Orsaf, SA40 9XX (agor mewn dolen newydd) a bydd ar agor rhwng 11.00am a 7.00pm. Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad.

Bydd y fan frechu yn rhoi’r brechlyn i unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn sy'n gofyn am ddos gyntaf neu ail ddos (Moderna a AstraZeneca Rhydychen). Gellir rhoi ail ddosau 8 wythnos ar ôl y dos cyntaf.

 

Mae dros 500 o frechlynnau wedi'u rhoi hyd yma gan ddefnyddio'r fan brechu symudol mewn lleoliadau yn Cross Hands a Doc Penfro.

Gyda chodiad mewn nifer achosion ledled y DU, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog pobl i ddod i gael eu dos gyntaf neu ail ddos cyn gynted â phosibl

Statws Brechu COVID-19

Mae Pàs COVID y GIG (agor mewn dolen newydd) yn eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn teithio dramor. Os cawsoch eich brechu yng Nghymru ac rydych yn 16 oed neu’n hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG. Mae NHS Digital yn gweithio gyda GIG Cymru i wneud trefniadau rhannu data rhwng Cymru a Lloegr. Gall pawb a gafodd ei frechu yng Nghymru neu Loegr sydd wedi’i gofrestru â meddyg teulu yng Nghymru gael pàs COVID digidol drwy wefan y GIG, a hynny ers 23 Mehefin 2021. Bydd pawb sydd wedi’i gofrestru â meddyg teulu yn Lloegr ond a gafodd ei frechu yng Nghymru yn gallu cael tystiolaeth o’u statws brechu COVID drwy wefan y GIG (agor mewn dolen newydd, saesneg yn unig) o ddydd Llun 12 Gorffennaf ymlaen.

 

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,160 83.7%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,485 99.7% 3,223 92.2%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,831 99.9% 21,943 96%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,879 98.8% 24,480 93.4%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,683 95.7% 18,216 93.3%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

25,030 95.2% 24,521 93.3%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,714 88% 8,354 84.3%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,697 90.9% 21,146 88.5%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

38,858 87.1% 35,810 80.3%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,415 69% 13,108 67.4%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,896 80.1% 14,329 77%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

15,023 92.4% 14,052 86.4%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

69,874 45.5% 24,410 15.9%
45 - 49 oed 11,155 70.5% 9,017 57%
40 - 44 oed 10,397 68.4% 6,839 45%
35 - 39 oed 10,809 67% 3,844 23.2%
30 - 34 oed 10,862 63.9% 2,651 15.2%
25 - 29 oed 10,046 57.6% 1,447 8.3%
20 - 24 oed 11,587 61.4% 1,351 7.2%
15 - 19 oed 5,029 33.3% 441 2.9%
Cyfanswm: 280,875 72.5% 225,752 58.3%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - rhifyn 27

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: