Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 25 - Cyhoeddwyd 30 Mehefin 2021

Croeso i rifyn 25 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae pob oedolyn yng Nghymru yn gymwys i gael brechlyn COVID-19. Nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un sydd wedi newid ei feddwl ynglŷn â chael brechlyn gael apwyntiad.

Mae gan Gymru bolisi “gadael neb ar ôl” felly os hoffech archebu eich dos brechlyn cyntaf, cysylltwch â'r bwrdd iechyd yn un o'r ffyrdd canlynol i ofyn am apwyntiad cyn gynted â phosibl:

Ffurflen gais ar-lein - dos cyntaf (agor mewn dolen newydd)
Rhif Ffôn: 0300 303 8322
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Er mwyn helpu holl drigolion Hywel Dda i gael mynediad hawdd a hyblyg i frechlyn COVID-19, mae clinigau brechlyn cerdded i mewn dos cyntaf ac ail hefyd yn rhedeg ym mhob canolfan brechu torfol Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

 

Pryd alla i gael fy mrechlyn ail ddos?

Rydym yn canolbwyntio ar gynnig ail ddos i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 dros y tair wythnos nesaf - dyna bawb dros 50 oed, yr holl weithwyr gofal iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol, a grwpiau bregus eraill, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal.

Rydym yn parhau i weithio i ddod ag apwyntiadau ymlaen ar gyfer pobl dros 40 oed, yn amodol ar gyflenwad, felly does dim rhaid iddynt aros yn fwy nag wyth wythnos rhwng eu dos cyntaf a'r ail ddos.

Ein nod yw cynnig dau ddos o'r brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Medi.

Gallwch ddewis aros i'r bwrdd iechyd roi apwyntiad i chi neu alw mewn canolfan galw heibio os cawsoch eich brechlyn cyntaf 8 wythnos neu fwy yn ôl.

Os byddai'n well gennych apwyntiad ac y cawsoch eich brechlyn cyntaf fwy nag 8 wythnos yn ôl, cysylltwch â'r bwrdd iechyd yn un o'r ffyrdd canlynol i ofyn am apwyntiad:

Ffurflen gais ar-lein - ail ddos (agor mewn dolen newydd)
Rhif Ffôn: 0300 303 8322
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Tra bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod cyflenwad da o'r holl frechlynnau ar gael ym mhob canolfan, os nad yw'r brechlyn sydd ei angen arnoch ar gael, bydd ein staff brechu yn gwneud apwyntiad i chi ar gyfer y sesiwn nesaf sydd ar gael. Efallai yr hoffech wirio a yw'r brechlyn sydd ei angen arnoch ar gael cyn teithio i ganolfan:

Rhif Ffôn: 0300 303 8322
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Os bydd rhywun yn mynychu clinig brechu cerdded i mewn ar gyfer ei ail ddos yn gynharach nag 8 wythnos ar ôl eu dos cyntaf, mae staff canolfan frechu torfol Hywel Dda yn cadw'r hawl i wrthod a gofyn iddynt ddychwelyd 8 wythnos yn dilyn eu brechlyn cyntaf.

 

Clinigau brechu symudol COVID-19 mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Bydd clinig brechu symudol COVID-19 yn gweithredu yn Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin yr wythnos hon yn dilyn partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (agor mewn dolen newydd).

Mae'r gwasanaeth tân yn darparu un o'i gerbydau y bydd staff BIP Hywel Dda yn darparu’r brechlyn i unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn sy'n gofyn am naill ai dos cyntaf neu ail (Moderna a Rhydychen AstraZeneca). Ni fydd angen apwyntiadau.

Bydd y clinig brechu symudol wedi'i leoli ym maes parcio Leekes (agor mewn dolen newydd) a bydd yn gweithredu’n ddyddiol rhwng dydd Iau 1 a dydd Sadwrn 3 Gorffennaf (11.00am i 6.00pm).

Bydd aelodau o'r gwasanaeth tân hefyd yn bresennol i roi cyngor diogelwch cymunedol cyffredinol i'r cyhoedd, gan gynnwys diogelwch y cartref. Bydd tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol y bwrdd iechyd yn ymuno â nhw i estyn allan at bobl o leiafrifoedd ethnig sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin i'w helpu yn ystod pandemig COVID-19, cefnogi cydlyniant cymunedol, a chael gwared ar rwystrau rhag cyrchu gwasanaethau.

 

Clinigau brechu COVID penodedig iechyd meddwl a llesiant

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu sesiynau penodedig yn ei ganolfannau brechu torfol er mwy rhoi cymorth ychwanegol i bobl a allai ei chael yn anodd mynychu oherwydd iechyd meddwl, gorbryder, pryder neu ofn.

Bydd yr amseroedd gwarchodedig hyn yn y clinig yn darparu lle tawel i’r brechwyr sy’n nyrsys iechyd meddwl profiadol i gefnogi pobl a rhoi sicrwydd er mwyn iddynt gael eu brechiad.

Bydd y clinigau hyn yn stocio'r brechlyn Moderna sef y brechlyn a argymhellir ar gyfer y rhai ar feddyginiaethau iechyd meddwl. Dyma’r brechlyn a argymhellir hefyd ar gyfer y rhai sy'n derbyn triniaeth am gamddefnyddio sylweddau.

Meddai Alison Evans, Nyrs Arweiniol Glinigol Canolfannau Brechu Torfol Hywel Dda: “Rydym am i'r clinigau hyn fod mor hyblyg a chroesawgar â phosib. Mae'r system hon wedi bod yn gweithio'n hynod effeithiol gyda brechwyr sy’n nyrsys anabledd dysgu gan ddarparu cynllun gofal pwrpasol ac ymyriadau arbenigol ar gyfer unigolion.

“Trwy gydnabod bod pobl yn unigolion ac angen ymyriadau unigol, rydym yn cyrraedd llawer o grwpiau sydd mewn braw a phryder wrth feddwl am y canolfannau brechu torfol a chael pigiad.

“Rydym yn mynd ati i annog yr holl wasanaethau iechyd meddwl cymunedol a’r hybiau cymorth trydydd sector ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i rannu'r wybodaeth hon a chysylltu â'u canolfan brechu torfol leol i drefnu apwyntiadau â chymorth i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd mynychu. Neu, i'r rhai sydd eisiau mwy o wybodaeth, gallant alw i mewn i un o'n sesiynau heb fod angen cysylltu â neb yn gyntaf."

Cynhelir y sesiynau penodedig pob dydd Mawrth rhwng 2pm a 7pm yn y canolfannau canlynol:

  • Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3AS)
  • Cerdded mewn - Caerfyrddin (Canolfan Gynhadledda Halliwell, UWTSD, SA31 3EP) 
  • Hwlffrodd (Archifau Sir Benfr0, SA61 2PE)  
  • Llanelli (Theatr Ffwrnes SA15 3YE) 

 

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,137 82.8%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,479 99.6% 3,181 91%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,823 99.9% 21,805 95.4%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,835 98.6% 24,036 91.7%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,671 95.7% 18,150 93%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

25,018 95.1% 24,379 92.7%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,700 87.8% 8,293 83.7%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,671 90.7% 21,024 88%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

38,703 86.7% 34,844 78.1%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,390 68.8% 12,893 66.3%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,849 79.8% 13,676 73.5%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

14,842 91.3% 10,663 65.6%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

67,683 44.1% 7,382 4.8%
45 - 49 oed 11,117 70.3% 2,550 16.1%
40 - 44 oed 10,298 67.8% 1,387 9.1%
35 - 39 oed 10,657 66% 1,003 6%
30 - 34 oed 10,611 62.4% 872 5%
25 - 29 oed 9,628 55.2% 730 4.2%
20 - 24 oed 10,779 57.1% 637 3.4%
15 - 19 oed 4,591 30.4% 203 1.3%
Cyfanswm: 278,154 71.8% 202,463 52.3%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - rhifyn 25

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: