Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 22 - Cyhoeddwyd 9 Mehefin 2021

Ystadegau brechiadau COVID - rhifyn 22

Croeso i rifyn 22 o fwletin Bwrdd Iachyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Yn sgil ymdrechion ar y cyd gan gofal sylfaenol a chanolfannau brechu torfol, fe wnaeth y bwrdd iechyd ddarparu 23,925 o frechlynnau yr wythnos hon. Mae hyn yn golygu bod 266,785 o'n poblogaeth gymwys bellach wedi cael brechlyn cyntaf ac mae 165,056 bellach wedi cael y cwrs llawn.  

Roedd yr wythnos ddiwethaf yn Wythnos Gwirfoddolwyr a hoffem ddiolch i'r gwirfoddolwyr niferus sy'n helpu yn ein canolfannau brechu torfol. Dyma Craig Simmonds un o'r wynebau cyfeillgar o'n byddin o gynorthwywyr. Craig Simmonds gwirfoddolwr yn Halliwell Roedd Craig, sy'n gwirfoddoli yng Nghanolfan Halliwell yng Nghaerfyrddin, eisiau dweud diolch am y gydnabyddiaeth a'r anrheg a gafodd ef a'i gyd-wirfoddolwyr yr wythnos ddiwethaf.

Diolch i bawb sydd wedi dod ymlaen i gael eu brechlyn hyd yma. Ein hamddiffyniad gorau yn erbyn pob math o Covid-19 yw ein rhaglen frechu wych a dyna pam mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i arafu lledaeniad amrywiadau a chaniatáu amser i gynifer o bobl â phosib gael eu brechiad. Mae'n bwysicach fyth nawr i gael y dos cyntaf a'r ail ddos ​​o'r brechlyn pan gânt eu cynnig.

Mae'r brechlynnau'n cynnig amddiffyniad sylweddol rhag afiechyd difrifol, mynd i ysbyty a marwolaeth, a dyna pam ei bod yn hanfodol cael y ddau ddos o’r brechlyn cyn gynted ag y cynigir nhw i chi.

Ni fyddwn yn gadael neb ar ôl. Gall pawb sy’n 18 oed neu drosodd neu sydd yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9 y JCVI ddod ymlaen i ofyn am frechlyn. Os nad ydych wedi cael apwyntiad eto neu os ydych wedi newid eich meddwl ar ôl gwrthod cynnig brechlyn yn flaenorol, cysylltwch â'r bwrdd iechyd cyn gynted â phosib fel y gellir trefnu apwyntiad i chi.

 

Sut i gysylltu â ni i gael eich brechlyn COVID-19 cyntaf:

  • Os ydych dros 18 oed neu yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9 y JCVI ac heb gael apwyntiad brechlyn cyntaf, gofynnwch am un cyn gynted â phosib trwy lenwi’r ffurflen gais ar-lein hon (agor mewn dolen newydd). Rydym yn deall na fydd gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd. Os na allwch chi neu gydnabod i chi lenwi ein ffurflen gais ar-lein, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322. Rhannwch y neges hon gyda ffrindiau, teulu a'ch cymuned leol i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. 

 

Apwyntiadau ail ddos

Mae apwyntiadau ail ddos ar gyfer COVID-19 fel arfer yn digwydd tua 11 wythnos ar ôl yr apwyntiad dos cyntaf. Mae'n hanfodol eich bod chi'n mynychu'ch apwyntiad ail ddos.

Os cawsoch eich dos cyntaf mewn canolfan brechu torfol ar neu cyn 28 Mawrth ac nad ydych eto wedi cael eich gwahodd am ail ddos, defnyddiwch y ffurflen gais hon i roi gwybod i ni (agor mewn dolen newydd). Os na allwch chi neu gydnabod i chi ddefnyddio ffurflen ar-lein, cysylltwch â'n tîm bwcio ar 0300 303 8322.

Os cawsoch eich dos cyntaf yn eich meddygfa ar neu cyn 28 Mawrth dylech fod wedi cael gwahoddiad i fynd i apwyntiad ail ddos. Os oes angen ichi newid amser eich apwyntiad, neu os nad ydych wedi cael eich gwahoddiad i apwyntiad ail ddos eto, cysylltwch â'ch meddygfa.

 

Tystysgrifau brechu ar gyfer teithio rhyngwladol

Mae tystysgrifau brechu ar gyfer teithio rhyngwladol bellach ar gael yng Nghymru ar gyfer y rhai sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn, trwy ffonio 0300 303 5667 (ar agor saith diwrnod, rhwng 9.00am a 5.00pm).

 

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,129 82.5%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,453 98.8% 3,095 88.6%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,836 99.9% 21,663 94.8%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,713

98.1%

22,829 87.1%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,680 95.7% 18,012 92.3%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

25,030 95.2% 24,221 92.1%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,688 87.7% 8,133 82.1%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,685 90.8% 20,258 84.8%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

38,208 85.6% 25,888 58.0%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,410 68.9% 11,439 58.8%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,800 79.6% 4,185 22.5%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

14,624 90.0% 1,205 7.4%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

57,168 37.2% 1,999 1.3%
Cyfanswm: 266,785 68.9% 165,056 42.6%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - rhifyn 22

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: