Croeso i bedwaredd rhifyn ar bymtheg o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Diolch i ymdrechion anhygoel apwyntiadau gofal sylfaenol a brechu torfol, gallwn nawr ddweud y dylai pawb 25 oed a hŷn fod wedi derbyn eu llythyr apwyntiad. Os ydych chi'n 25 oed neu'n hŷn ac nad ydych wedi derbyn apwyntiad, neu os ydych wedi newid eich meddwl ynglŷn â derbyn y brechlyn, gofynnwch am un cyn gynted â phosibl trwy lenwi'r ffurflen gais ar-lein hon (agor mewn dolen newydd).
Defnyddio'r ffurflen ar-lein yw'r ffordd hawsaf i dîm archebu'r bwrdd iechyd dderbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i drefnu apwyntiad. Os na allwch lenwi'r ffurflen ar-lein, gallwch hefyd drefnu eich apwyntiad brechlyn cyntaf trwy ffonio 0300 303 8322 neu e-bostio'ch enw, eich dyddiad geni, y ganolfan frechu dorfol agosaf a rhif ffôn cyswllt i COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
Mae'r bwrdd iechyd yn falch iawn o’r ymrwymiad a'r egni a ddangosir gan feddygfeydd teulu wrth iddynt gymryd rhan yn rhaglen brechu torfol COVID-19.
Ymunodd pob un o'r 48 meddygfa ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gyflawni'r rhaglen, gan ymrwymo i gyflwyno'r rhaglen i rai grwpiau blaenoriaeth JCVI.
O'r holl ddosau a roddwyd hyd yn hyn, mae 51% (186,735 dos) wedi'u rhoi gan feddygfeydd teulu. Mae meddygfeydd bellach ar eu ffordd i gyflawni'r dasg o gynnig ail ddos i bob claf sydd wedi cael brechlyn cyntaf ac maent eisoes wedi rhoi 70,571 ar adeg cyhoeddi’r rhifyn hwn.
Dywedodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gofal Sylfaenol "O gael y profiad o redeg y rhaglen frechu yn fy mhractis fy hun, rwy'n gwybod pa mor heriol a gwerth chweil yw hi i fod yn rhan o'r rhaglen hon. Mae'n dyst i ymrwymiad ein meddygfeydd o gyflawni y gofal gorau posibl i gleifion eu bod wedi parhau i weithio gyda ni trwy gydol y rhaglen.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Cymunedol a Gofal Hirdymor "Rwy'n falch o'r ymrwymiad a ddangoswyd gan ein holl meddygfeydd a’r gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud wrth helpu'r Bwrdd Iechyd i gyflawni'r rhaglen hon. Trwy gydol y pandemig nid yw'r ymrwymiad i gynnal darpariaeth gwasanaethau meddygol cyffredinol i'w cleifion wedi ildio, er bod staff dan bwysau ac yn teimlo'n flinedig. Mae cyflwyno'r rhaglen frechu wedi bod yn ymdrech system gyfan i amddiffyn ein cleifion. "
Y brechiad COVID-19 yw un o'n dulliau pwysicaf i helpu i leihau lledaeniad y feirws. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol ac yn cynnig amddiffyniad i unigolyn rhag COVID-19. Bydd hefyd yn cynnig mwy o amddiffyniad i'n teuluoedd, ein ffrindiau a'n cymunedau.
Mae tri brechlyn COVID-19 ar gael ar hyn o bryd – Pfizer-BioNTech, Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca a Moderna.
Bydd brechu'r boblogaeth ac annog pobl i fanteisio ar y cyfle yn:
Nid yw cael eich brechu yn orfodol ac rydym yn deall y bydd pobl am gael gwybodaeth am ddiogelwch. Gofynnwn i bobl addysgu eu hunain gyda gwybodaeth ffeithiol a dibynadwy cyn gwneud penderfyniad.
Ar hyn o bryd, nid yw'r JCVI yn cynghori brechu plant sy'n gysylltiadau cartref. Ar hyn o bryd, nid ydynt chwaith yn cynghori brechu cysylltiadau cartref plant imiwnoataliedig.
Peidiwch cysylltu â’r bwrdd iechyd os ydych yn grŵp 10 a rhwng 18 a 24 oed i holi am apwyntiad brechu ar hyn o bryd. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
---|---|---|---|---|
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.5% | 2,099 | 81.3% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,440 | 98.5% | 3,014 | 86.3% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,820 | 99.9% | 21,330 | 93.3% |
P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
25,557 | 100.0% | 21,898 | 85.7% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,632 | 95.5% | 17,767 | 91.0% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
25,001 | 95.1% | 23,678 | 90.0% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,657 | 87.4% | 7,687 | 77.6% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,615 | 90.5% | 14,900 | 62.4% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
37,743 | 84.6% | 4,113 | 9.2% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
13,330 | 68.5% | 593 | 3.0% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn |
14,708 | 79.1% | 512 | 2.8% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn |
14,336 | 88.2% | 522 | 3.2% |
P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
37,505 | 24.3% | 1,217 | 0.8% |
Cyfanswm: | 245,834 | 63.5% | 119,330 | 30.8% |
Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn. Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.