Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 16 - Cyhoeddwyd 28 Ebrill 2021

Ystadegau brechiadau rhifyn 16

Croeso i unfed rhifyn ar bymtheg o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Wrth i ni ddathlu rhoi ein 300,000fed brechlyn, rydym am ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'r cyflawniad rhyfeddol hwn.

I bob meddygfa ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sydd wedi bod mor bwysig wrth ganiatáu i grwpiau mawr o bobl gael eu brechlyn yn lleol; i wirfoddolwyr, staff, sefydliadau milwrol a phartneriaid sy'n ymwneud â rhedeg ein canolfannau brechu torfol - Diolch!

 

Brechlynnau rhag COVID-19 i gysylltiadau aelwydydd oedolion â system imiwnedd gwan

Rydym bellach yn blaenoriaethu cysylltiadau aelwydydd oedolion â system imiwnedd gwan i gael y brechlyn. Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn ac yn dod i gysylltiad ag oedolyn â system imiwnedd gwan ar eich aelwyd (gov.uk, saesneg yn unig, agor mewn dolen newydd)llenwch y ffurflen hunanatgyfeirio hon ar wefan y GIG (agor mewn dolen newydd).

Mae oedolion â system imiwnedd gwan yn fwy tebygol o gael canlyniadau gwael o ganlyniad i ddal COVID-19. Bydd brechu cysylltiadau aelwydydd yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Ar hyn o bryd, nid yw'r JCVI yn cynghori brechu cysylltiadau aelwydydd plant â system imiwnedd gwan, na phlant sy'n gysylltiadau aelwydydd oedolion â system imiwnedd gwan.

 

Gall pobl mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 ofyn am ddos brechlyn cyntaf

Os yw un neu fwy o'r canlynol yn berthnasol i chi ac nad ydych wedi derbyn eich apwyntiad brechlyn cyntaf, cliciwch yma i gysylltu â'r bwrdd iechyd (agor mewn dolen newydd):

  • yn 50 oed neu'n hŷn
  • rhwng 16 a 64 oed ac mae gennych gyflyrau iechyd sylfaenol (agor mewn dolen newydd) sy'n eich rhoi mewn mwy o berygl o farwolaeth COVID-19
  • gweithio mewn cartref gofal neu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
  • yw prif ofalwr di-dâl oedolyn oedrannus neu oedolyn anabl sydd mewn mwy o berygl o farwolaethau COVID-19, neu blentyn â niwro-anableddau difrifol

Gall pobl hefyd barhau i gysylltu â ni trwy e-bost COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 0300 303 8322 i drefnu eu dos cyntaf.

Mae'r holl lythyrau bellach wedi'u postio ar gyfer pobl rhwng 40 a 49 oed a gallwch ddisgwyl derbyn eich gwahoddiad brechlyn erbyn y penwythnos hwn.

Peidiwch â chysylltu â'r bwrdd iechyd os ydych chi yng ngrŵp 10 (18 i 49 oed) i ofyn am eich apwyntiad brechlyn ar yr adeg hon. Cysylltir â chi cyn gynted ag y bydd yn eich tro chi. Yn amodol ar gyflenwad, ein nod yw cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bawb yng ngrŵp 10 erbyn diwedd mis Gorffennaf.

 

Wythnos Imiwneiddio'r Byd 2021 - Mae brechlynnau'n dod â ni'n agosach

Gyda’r thema ‘Brechlynnau yn dod â ni’n agosach’, mae Wythnos Imiwneiddio’r Byd 2021 (Ebrill 24ain-30ain) yn dangos sut mae brechu yn ein cysylltu â’r bobl, y nodau a’r eiliadau sydd bwysicaf i ni, gan helpu i wella iechyd pawb, ym mhobman trwy eu hoes.

Ar ôl blwyddyn wahanol iawn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi siarad â Lynne Edwards, Arweinydd Imiwneiddio a Brechu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Cath Watts, Arweinydd Imiwneiddio a Brechu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ynglŷn â pham mae imiwneiddio yn allweddol i greu byd lle gallwn ni uno â’n gilydd unwaith eto.

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 1,975 76.5%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,418 97.8% 2,926 83.7%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,786 100.3% 19,154 84.3%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,340 99.6% 21,397 84.1%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,525 94.9% 16,944 86.8%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

24,900 94.7% 10,156 38.6%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,597 86.8% 4,129 41.7%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,516 90.1% 765 3.2%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

37,122 83.2% 1,824 4.1%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,250 68.1% 371 1.9%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,603 78.5% 375 2.0%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

13,908 85.6% 414 2.6%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

13,885 9.0% 846 0.5%
Cyfanswm: 220,340 56.9% 81,277 21.0%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - rhifyn 16

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: