Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 14 - Cyhoeddwyd 14 Ebrill 2021

Croeso i rifyn 14 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r bwrdd iechyd yn gweithredu strategaeth ‘gadael neb ar ôl’ ar gyfer ei raglen frechu i sicrhau bod y rhai sydd fwyaf mewn perygl o COVID-19 yn derbyn y brechlyn ac amddiffyniad rhag y feirws.

Mae llawer o bobl wedi bod yn gofyn a fydd gan y Bwrdd Iechyd restr wrth gefn i bobl mewn categorïau cymhwysedd is pe bai brechlynnau sbâr ar gael. Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i drefnu a mynd i'r afael ag unrhyw frechlyn sydd ar gael yn hwyr, er enghraifft mewn ymateb i rai sydd ddim yn mynychu, trwy alw pobl i mewn o'r grwpiau blaenoriaeth cymwys ar hyn o bryd (1 i 9).

Mae hyn er mwyn sicrhau bod amddiffyniad rhag y brechlyn yn cael ei gynnig yn gyntaf i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl rhag niwed difrifol COVID-19.

Mae gennym ganran uwch o bobl hŷn yn byw yng ngorllewin Cymru nag ardaloedd eraill yng Nghymru ac mae'n bwysig ein bod yn cynnig amddiffyniad yn gyntaf i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o niwed gan COVID -19. Ar y cam hwn, nid oes angen i ni wahodd pobl o grwpiau cymhwysedd is i ymuno â rhestr gan ein bod yn rheoli unrhyw frechlyn sydd ar gael gyda galw gan grwpiau yr ydym eisoes wedi eu gwahodd i gael eu brechu.

Mae ein timau brechu o fewn y bwrdd iechyd a staff gofal sylfaenol yn gwneud cynnydd rhagorol ac rydym yn ddiolchgar iddyn nhw ac aelodau’r cyhoedd am eu hamynedd ac am gamu ymlaen i dderbyn y brechlyn pan gânt eu gwahodd. Rydym wedi ymrwymo i gynnig brechiad i'n holl oedolion erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Bydd apwyntiadau yn dechrau cael eu hanfon at bobl rhwng 40 a 49 oed yr wythnos hon, gan ddechrau gyda'r hynaf a gweithio tuag yn ôl. Os ydych chi o dan 50 oed, arhoswch am y gwahoddiad hwn a pheidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu neu'r bwrdd iechyd ar hyn o bryd.

Byddwch yn amyneddgar os na chysylltwyd â chi ynglŷn â'ch brechlyn eto a gofynnwn yn gwrtais i chi beidio â chysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddyg teulu i ofyn am eich brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.

Cysylltwch â ni erbyn dydd Gwener 16 Ebrill i gael eich brechlyn cyntaf (grwpiau 1 i 9)

Mae ffurflen ar-lein bellach ar gael i bobl gymwys mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 i'w chwblhau os nad ydyn nhw wedi derbyn apwyntiad brechlyn COVID cyntaf.

Os yw un neu fwy o'r canlynol yn berthnasol i chi ac nad ydych wedi derbyn eich apwyntiad brechlyn cyntaf, cliciwch yma i gysylltu â'r bwrdd iechyd erbyn dydd Gwener 16 Ebrill (agor mewn dolen newydd)

  • yn 50 oed neu'n hŷn
  • rhwng 16 a 64 oed ac mae gennych gyflyrau iechyd sylfaenol (agor mewn dolen newydd) sy'n eich rhoi mewn mwy o berygl o farwolaeth COVID-19
  • gweithio mewn cartref gofal neu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
  • yw prif ofalwr di-dâl oedolyn oedrannus neu oedolyn anabl sydd mewn mwy o berygl o farwolaethau COVID-19, neu blentyn â niwro-anableddau difrifol

Gall pobl hefyd barhau i gysylltu â ni ar 0300 303 8322 neu drwy e-bost COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk erbyn dydd Gwener 16 Ebrill.

Timau brechu yn ymweld ag Ynys Bŷr

Roedd staff Meddygfa Dinbych-y-pysgod, practis a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn falch iawn o ddychwelyd i Ynys Bŷr mewn cwch y bore yma i gynnig brechiadau ail ddos i fynachod sy'n byw yno, yn ogystal ag i drigolion cymwys yr Ynys.

Trosglwyddwyd brechlyn Rhydychen / AstraZeneca yn ddiogel mewn cwch, ynghyd â'r imiwneiddwyr, i ddarparu cyfuniad o ddosau brechlyn cyntaf ac ail.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor: “Mae hwn yn bendant yn un o'n clinigau brechu mwy unigryw i gyrraedd ein cymunedau ac rydym yn falch o fod yn dychwelyd.”

Mae Ynys Bŷr yn un o ynysoedd sanctaidd Prydain sydd â threftadaeth fynachaidd hir. Dechreuodd y mynachod Sistersaidd breswylio ym 1929 ac arwain bywyd o weddi a byw'n dawel.

Cyn y pandemig COVID-19, caniatawyd i westeion dydd ymweld â'r ynys yn nhymor yr haf a'r gobaith yw y bydd yr ynys yn ailagor i ymwelwyr dydd yn fuan iawn.

Cyfanswm brechiadau fesul Sir - Rhifyn 14

Grŵp Blaenoriaeth 

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 1,681 65.1%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,386 96.9% 2,720 77.8%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,710 100.0% 8,971 39.5%

P2.2 & 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,029 99.3% 21,025 83.4%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,421 94.4% 16,163 82.8%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn

24,789 94.3% 907 3.4%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,557 86.4% 2,272 22.9%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,355 89.4% 309 1.3%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

36,458 81.7% 1,580 3.5%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,084 67.2% 238 1.2%
P8 - Pob un 55 oed a hŷn 14,263 76.7% 250 1.3%
P9 - Pob un 50 oed a hŷn 9,899 60.9% 271 1.7%

Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

4,972 3.2% 1,201 0.8%

Cyfanswm:

205,413 53.0% 57,588 14.9%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: